Manylion y penderfyniad
Flintshire Foster Care Services
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To set out proposals for developing, and
enhancing, Flintshire’s approach to Fostering
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu adroddiad yn nodi’r cynigion ar gyfer datblygu a gwella dull Sir y Fflint ar gyfer maethu.Eglurodd fod gan y Cyngor wasanaethau maethu effeithiol sy’n cael eu rhedeg yn dda, a dywedodd fod gofalwyr maeth yn rhan bwysig o’r gweithlu sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal o ansawdd uchel.Fodd bynnag, mae’r gwasanaeth yn wynebu heriau sylweddol, fel denu a datblygu gofalwyr maeth i gefnogi plant gydag anghenion cymhleth, plant h?n a brodyr a chwiorydd; ymateb i derfynau amser y llys i asesu ‘Person Cysylltiedig’; a chystadlu gydag asiantaethau maethu annibynnol sy’n cynnig taliadau uwch am faethu.
Cyfeiriodd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu at y prif ystyriaethau, sydd wedi’u crynhoi yn yr adroddiad, a’r ystod o ddulliau rhagweithiol ac arloesol y mae’r gwasanaeth yn eu defnyddio i ymateb i’r heriau uchod.Dywedodd fod y gwasanaeth wedi derbyn grant yn ddiweddar, drwy gynllun 'Arloesi i Arbed’ NESTA, i ddarparu cyllid i ymchwilio i fodel newydd o ofal maeth o’r enw Rhaglen Gofal Teulu Mockingbird y Rhwydwaith Maethu.
Mewn ymateb i awgrym y Cyng. Kevin Hughes ar gychwyn ymgyrch recriwtio yn y wasg leol neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, amlinellodd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu y mentrau sy’n mynd rhagddynt yn y gwasanaeth i fynd i’r afael â materion recriwtio a chyfeiriodd at yr ymgyrchoedd rhanbarthol a chenedlaethol ar gyfer un model i Gymru gan Lywodraeth Cymru y mae’r gwasanaeth wedi buddsoddi’n sylweddol ynddo.
Soniodd y Cyng. Dave Mackie am y broses asesu ar gyfer Person Cysylltiedig a phwysleisiodd bwysigrwydd y gofal a ddarperir gan Berson Cysylltiedig a’r amgylchiadau sy’n newid bywyd sy’n gallu digwydd o ganlyniad.
Datganodd yr aelodau eu cefnogaeth a’u gwerthfawrogiad i'r gwaith a wneir gan Wasanaeth Maethu Sir y Fflint.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi gwaith presennol Gwasanaethau Maethu Sir y Fflint i ddarparu ei rwymedigaethau statudol a chyfreithiol wrth i ni weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru);
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi dull y gwasanaeth o arloesedd parhaus i nodi a gweithredu modelau newydd ar gyfer trefniadau gofal maeth; a
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwasanaeth i adlinio a buddsoddi adnoddau a staff wrth ddatblygu gwasanaeth sy’n cefnogi ein dull i leihau lleoliadau preswyl ‘y tu allan i’r sir’.
Awdur yr adroddiad: Craig Macleod
Dyddiad cyhoeddi: 13/03/2019
Dyddiad y penderfyniad: 13/12/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: