Manylion y penderfyniad

Environmental Enforcement

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To seek approval for the future service delivery method for environmental and car parking enforcement.

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ar Orfodi Amgylcheddol a oedd yn dilyn penderfyniad y Cabinet ym mis Gorffennaf 2018 na ddylid ymestyn y cytundeb dan gontract ar gyfer gorfodi amgylcheddol y tu hwnt i fis Rhagfyr 2018.

 

Fodd bynnag, ers mis Awst 2018, roedd Kingdom wedi tynnu eu gwasanaethau o Sir y Fflint ac roedd y tîm gweddilliol y Swyddogion Gorfodi mewnol wedi ymgymryd â’r holl weithgareddau gorfodi yn y Sir.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi pedwar dewis posib’ i wneud gwaith gorfodi ar draws y Sir, yn unol â pholisïau gorfodi amgylcheddol cymeradwy’r Cyngor. 

 

Roedd adroddiad wedi cael ei ystyried yn ddiweddar ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd lle roedd y dewis a ffefrir wedi’i nodi fel Dewis 2 – ‘darpariaeth orfodi fewnol uwch’ – fodd bynnag, roedd y Pwyllgor wedi argymell y dylid oedi trafodaethau gydag awdurdodau cyfagos er mwyn caniatáu i'r trefniant presennol sefydlogi ar ôl i Kingdom adael.  Roedd trafodaethau anffurfiol wedi’u cynnal gydag awdurdodau cyfagos a oedd yn canolbwyntio ar rannu cyfleusterau cefn swyddfa a Swyddogion Gorfodi’n patrolio mewn ardaloedd dynodedig.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Thomas y dylid newid y ‘goddef dim’ y cyfeirir ato yn Newid 2 i ‘ollwng sbwriel yn fwriadol’ ac y dylid rhoi disgresiwn i Swyddogion Gorfodi i benderfynu a oedd sbwriel wedi'i ollwng yn fwriadol.  Os nad oedd bwriad, ni fyddai dirwy'n cael ei rhoi.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod y ddwy swydd wag ar gyfer Swyddogion Gorfodi wedi’u llenwi, sy’n creu tîm o saith ac un goruchwylydd.  Roedd disgwyl i ran o’r costau ar gyfer unrhyw swyddi ychwanegol gael eu talu drwy’r refeniw ychwanegol a fyddai’n dod o gyflwyno Rhybuddion Cosb Benodedig. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Attridge bryder yngl?n â newid y geiriad o ‘oddef dim’ i ‘ollwng sbwriel yn fwriadol’, gan sôn am enghreifftiau lle roedd ffurfiau eraill ar oddef dim yn berthnasol, fel parcio ar linellau y tu allan i ysgolion a baw c?n.  Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod peidio â rhoi disgresiwn i Swyddogion Gorfodi’n eu gwarchod gan na ellid herio yn y fan a’r lle.  Awgrymodd y Cynghorydd Shotton y dylid trafod mwy ar y polisi a dod ag adroddiad yn ôl ger bron y Cabinet yn y dyfodol.  Cytunwyd ar hyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bithell nad oedd dull llai llym yn gweithio ac nad oedd y strydoedd heddiw mor lân ag yr oeddent yn y gorffennol.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod elfen 'goddef dim' y polisi'n dal ar waith ac y byddai Swyddogion yn gweithredu ar unrhyw enghreifftiau o barcio y tu allan i ysgolion ac o faw c?n.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) eiriad ar gyfer trydydd argymhelliad, yn seiliedig ar y drafodaeth a gafwyd, sef “Bod Polisi Gorfodi'n cael ei baratoi i'r Cabinet ei gymeradwyo a bod y Polisi'n ystyried posibiliadau a goblygiadau rhoi disgresiwn i Swyddogion Gorfodi benderfynu pryd y dylid ac a ddylid rhoi Rhybudd Cosb Benodedig”.  Cefnogwyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

                       

 (a)      Cymeradwyo Dewis 2 (darpariaeth orfodi fewnol uwch) ar gyfer darparu gwasanaeth gorfodi amgylcheddol a pharcio ceir o fewn y Sir.  Costau ychwanegol y gwasanaeth i ddod o’r incwm ychwanegol a ddaw o Rybuddion Cosb Benodedig ac arbedion posib’ o gyfleoedd i weithio ar y cyd.

 

 (b)      Cymeradwyo’r cais i swyddogion gychwyn trafodaethau gydag awdurdodau cyfagos gyda’r nod o symud tuag at fodel darparu gwasanaeth mewnol cydweithredol, Dewis 3; a

 

 (c)       Paratoi polisi gorfodi i’r Cabinet ei gymeradwyo a bod y polisi’n edrych ar bosibiliadau a goblygiadau rhoi disgresiwn i Swyddogion Gorfodi i benderfynu a ddylid rhoi Rhybudd Cosb Benodedig.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 20/02/2019

Dyddiad y penderfyniad: 18/12/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/12/2018 - Cabinet

Yn effeithiol o: 05/01/2019

Accompanying Documents: