Manylion y penderfyniad

Council Fund Budget 2019/20 – Updated Forecast and Process for Stage 3 of Budget Setting

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

(1)       to provide an updated budget forecast for 2019/20 following recent announcements by Welsh Government; and

 

(2)       to set out a suggested process for Stage 3 leading to the setting of a balanced budget in early 2019 (noting that the Local Government Final Settlement is due to be announced on 19th December).

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar lafar ar y Gyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 – Rhagolygon Diweddaraf a’r Broses ar gyfer Cam 3 o Osod y Gyllideb. 

 

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad oedd yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

 

·         #Cefnogi’rGofyn – Sefyllfa Ymgyrchu;

·         #Cefnogi’rGofyn – Treth y Cyngor;

·         #Cefnogi’rGofyn – Dadl Gyhoeddus;

·         Diweddariad ar y Cyhoeddiadau Ariannu Cenedlaethol Diweddar;

·         Cyhoeddiadau Setliad dros dro;

·         Cyhoeddiadau’r Prif Weinidog;

·         Rhagolwg o’r Gyllideb wedi’i diweddaru ar gyfer 2019/20;

·         Treth y Cyngor – Amcanion presennol;

·         Cyllidebau ysgol – Tâl athrawon;

·         Gwybodaeth ychwanegol;

·         #Cefnogi’rGofyn – Adnewyddu;

·         Llythyr i Ysgrifennydd y Cabinet; a’r

·         Camau nesaf ac amserlenni.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr am y llythyr a ddosbarthwyd i’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru gan y Prif Weinidog a dderbyniwyd hwyrach yn y prynhawn ar ddiwrnod cyfarfod y Cyngor Sir ar 20 Tachwedd. Yn dilyn nifer o ‘ofynion’ penodol Sir y Fflint a oedd wedi eu trafod yn y llythyr hwnnw a'u cymeradwyo, derbyniodd y llythyr wedi'i ddiweddaru gan y Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor ar ran Ysgrifenyddion y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (ar 28 Tachwedd) fel ymateb ffurfiol y Cyngor i ymgynghoriad ar Setliad Dros Dro. Roedd y llythyr yn cynrychioli’r ddadl yn y Cyngor ar 20 Tachwedd. Copïau o’r ddau lythyr wedi’u darparu i’r holl Aelodau. 

 

            Mynegai’r llythyr i Ysgrifenyddion y Cabinet fod y Cyngor yn credu bod Llywodraeth Cymru (LlC) gyda digon o hyblygrwydd ariannol i wella’r Setliad ymhellach gan alw am Setliad Terfynol wedi'i wella a fyddai’n cael ei gyhoeddi ar 19 Rhagfyr. Eglurodd y llythyr hefyd os na fyddai gwelliannau pellach yn cael eu gwneud i’r Setliad yna efallai y byddai’n rhaid i Sir y Fflint fabwysiadu cynnydd o fwy na 9% yn Nhreth y Cyngor i gydbwyso’r gyllideb ar gyfer 2019/20. Gwnaed gais ffurfiol i wella’r Setliad lle byddai Sir y Fflint yn elwa hyd at o leiaf £2m o gyllid refeniw. 

 

            Fe eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fuddion y cyhoeddiadau Setliad Dros Dro a grantiau ychwanegol i’r Cyngor. Darparodd fanylion hefyd ar sut y byddai cyhoeddiadau’r Prif Weinidog yn elwa Sir y Fflint yn 2018/19 a 2019/20.

 

            Ailadroddodd y Prif Weithredwr heb unrhyw gyhoeddiadau pellach y byddai’r bwlch ar ôl yn y gyllideb o £3.148m, yn dilyn rhagolwg diweddar ar gyfer 2019/20 dal angen cynnydd cyffredinol yn Nhreth y Cyngor o tua 9.3% Mae’r cynnydd terfynol yn Ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru dal angen ei gadarnhau a byddai’n cael ei ychwanegu i ofyniad y Cyngor.    Yn seiliedig ar gynnydd ardoll dros dro o £0.420m, byddai angen cynnydd pellach o oddeutu 0.5% ar Dreth y Cyngor.

 

            Fe eglurodd y sefyllfa ar dâl athrawon ac fe ddywedodd bod y cyhoeddiad diweddar yn galluogi’r Cyngor i gwrdd â’r sefyllfa leiaf posib o ddarparu codiad i gwrdd â’r dyfarniad cyflog. Roedd disgwyl cyllid ychwanegol trwy grant penodol ar gyfer 2018/19 a fyddai’n golygu y byddai ysgolion yn cyfrannu at gostau ychwanegol wedi eu gwneud yn ystod y flwyddyn.

 

            Byddai adroddiad pellach yn cael ei wneud i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 13 Rhagfyr ac i’r Cabinet ar 18 Rhagfyr. Gofynnodd y Prif Weithredwr i Aelodau barhau i gefnogi’r ymgyrch #Cefnogi’rGofyn cyn i’r Setliad Terfynol gael ei dderbyn ar 19 Rhagfyr. Unwaith y mae’r Setliad Terfynol wedi’i dderbyn, byddai’r wybodaeth yn cael ei adolygu gyda’r nod o gymeradwyo cyllideb gytbwys yn y Cyngor Sir ar 29 Ionawr 2019. Cynigodd Arweinydd y Cyngor, Aaron Shotton argymhelliad yr adroddiad gyda Dirprwy Arweinydd y Cyngor, a’r Cynghorydd Bernie Attridge yn eilio’r argymhelliad.

 

            Meddai'r Cynghorydd Shotton fod y sefyllfa yn symud yn gyflym a bod llawer wedi digwydd ers y cyfarfod Cyngor Sir ddiwethaf ar 20 Tachwedd. Fe dalodd deyrnged a diolch i’r Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) am y gwaith a wnaed gydag Arweinwyr Cynghorau. Dywedodd bod llythyr y Cyngor wedi’i anfon at Ysgrifenyddion y Cabinet yn nodi dau faes oedd yn parhau i fod yn bryder i’r Cyngor – y posibilrwydd am gynnydd 9% mewn Treth y Cyngor a bygythiadau i gyllid addysg.  Roedd Sir y Fflint wedi ymrwymo i gynnal y cyllid presennol ar gyfer addysg ond nid oedd y cyllid hynny’n ddigon. Mynegodd ei werthfawrogiad i’r Prif  Weinidog am ei barodrwydd i dderbyn stad Sir y Fflint a Llywodraeth Leol ac yr oedd yn gobeithio y byddai cyfle i’r Prif Weinidog newydd i edrych ar bethau ymhellach ar gyfer yr angen am gyllid ychwanegol. Yr ymgyrchu a fu er budd preswylwyr Sir y Fflint. Mynegodd ei werthfawrogiad am y gwaith hwn.

 

            Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Richard Jones, fe eglurodd y Prif Weithredwr bod y sleidiau ar gyhoeddiadau'r Prif Weinidog yn trafod yr effaith ar y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf o 2018/19 a 2019/20.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Peers sylwadau ar y llythyr i Ysgrifenyddion y Cabinet lle gwnaed yn glir fod y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yn hollol anghymwys ac fe ymddangosai fod pobl yn derbyn y byddai’n rhaid cynyddu Treth y Cyngor er mwyn cau’r bwlch yn y cyllid. Gofynnodd pa gefnogaeth oedd yn cael ei roi gan yr Aelodau Cynulliad lleol a faint o gynnydd Treth y Cyngor yr oedd awdurdodau eraill yn ei ystyried. Eglurodd y Prif Weithredwr bod y sylw ar Dreth y Cyngor wedi ei wneud ymhob un o'r cyfathrebiadau gyda LlC a’u bod yn gwbl ymwybodol eu bod yn pasio’r cyfrifoldeb ar gyfer ariannu gwasanaethau lleol i’r trethdalwr lleol.  Ni wyddwn yn union beth oedd awdurdodau eraill yn edrych ar ei wneud ar gyfer cynyddu Treth y Cyngor gan fod y sefyllfa yn newid yn sydyn. Fe anogodd yr holl Aelodau i gysylltu ag unrhyw un o’r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn LlC gan gynnwys Aelodau Cynulliad lleol a rhanbarthol.

 

            Meddai’r Cynghorydd Patrick Heesom na allai gefnogi’r cynnydd Treth y Cyngor dros 4% a chwestiynodd y broses gyllideb a’r strategaeth a fabwysiadwyd. Ymatebodd y Prif Weithredwr bod y gyllideb wedi cael ei ystyried ym mhob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ynghyd â’r asesiadau risg. Mae’r asesiadau hyn yn arddangos nad oedd siawns pellach o fewn y gwasanaethau i ddarganfod mwy o arbedion ar y fath raddfa. Mae pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi derbyn bod, ac roedd y penderfyniad yn un ar y cyd, yn seiliedig ar gyngor proffesiynol.  Os oedd gan unrhyw Aelod unrhyw syniadau ar gyfer dod o hyd i arbedion ychwanegol yna gallent ofyn i’r tîm i edrych i mewn i hynny ar unwaith.

 

            Cynigodd y Cynghorydd Hilary McGuill ddiwygiad bod y ddau Aelod Cynulliad lleol yn cael eu gwahodd i gyfarfod gyda’r holl Aelodau cyn 19 Rhagfyr, fel eu bod yn clywed y sefyllfa a phrofiadau'r Aelodau wyneb i wyneb. Eiliwyd y diwygiad gan y Cynghorydd Heesom. Cynigodd y Cynghorydd Kevin Hughes ddiwygiad pellach i’r gwahoddiad gael ei ymestyn i Aelodau Cynulliad rhanbarthol hefyd; derbyniwyd hynny gan y cynigydd ac eilydd y diwygiad gwreiddiol. Derbyniodd y Cynghorwyr Shotton ac Attridge fel cynigydd ac eilydd yr argymhelliad gwreiddiol, y diwygiad gan y Cynghorydd McGuill. 

 

            Yna fe gynigodd y Cynghorydd Attridge ddiwygiad pellach bod Aelodau Seneddol lleol hefyd yn cael eu gwahodd i'r cyfarfod, a eiliwyd gan y Cynghorydd Chris Bithell a derbyniwyd gan gynigydd ac eilydd y diwygiad a daeth yn benderfyniad annibynnol. Mynegodd y Prif Weithredwr na fydd o reidrwydd yn bosib trefnu cyfarfod mewn amserlen o'r fath ac awgrymodd y byddai dechrau i ganol mis Ionawr yn fwy rhesymol.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Tony Sharps ei fod yn cefnogi addysg ac ni fyddai byth yn cefnogi toriad mewn cyllid i’r gwasanaeth hynny. Gwnaeth sylwad hefyd ar y gost o symud swyddfa i D? Dewi Sant yn Ewloe, a'r incwm sy'n cael ei golli ar gostau maes parcio. Ymatebodd y Cynghorydd Carolyn Thomas i’r sylw a wnaed yngl?n â chostau maes parcio a dywedodd os y bydden nhw’n adennill costau llawn y byddai’r costau yn cynyddu yn sylweddol. Wrth symud i D? Dewi Sant, fe eglurodd y Prif Weithredwr fod nodyn cyfarwyddo yn cael ei baratoi ar gyfer yr holl Aelodau yn dangos yr arbedion a wneir o symud.  Ar y sylw yn ymwneud ag addysg fe gadarnhaodd y Prif Weithredwr fod cyllidebau ysgolion ddim yn cael eu lleihau o ran sefyllfa polisi yn seiliedig ar risg.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Glyn Banks pe bai modd rhoi ystyriaeth i ofyn i LlC os byddai'n bosib rhyddhau'r Cyngor o'r trefniadau benthyca presennol ar gyfer prynu allan y trefniadau lle byddai cyfran o rent Sir y Fflint yn cael ei dalu i Lywodraeth Cymru a p'un ai fod modd cael gafael ar gyfraddau eraill rhatach. Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Mentergarwch yn y Flwyddyn Newydd. Meddai’r Prif Swyddog (Llywodraethu) fod LlC wedi tynnu’r cap ar fenthyca felly dyma gais amserol.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Carol Ellis ei bod hi’n falch iawn o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymdeithasol a Iechyd am ei fod wedi herio’r Gweinidog yn uniongyrchol dros y 12 mis diwethaf ar ddiffygion mewn cyllid.

 

            Wrth gasglu fe ddywedodd y Cynghorydd Shotton ei bod yn bwysig cael consensws trawsbleidiol ar y gyllideb ac fe ddywedodd ei fod yn anghytuno’n llwyr gyda sylwadau’r Cynghorydd Heesom bod y strategaeth yn anghywir. Mae naw mlynedd o galedi wedi golygu bod y Cyngor mewn sefyllfa lle nad oes modd dod o hyd i unrhyw ffordd arall o wneud rhagor o arbedion. Un o’r prif nodau oedd i amddiffyn y gwasanaethau allweddol, addysg a gwasanaethau cymdeithasol ac ni fyddai unrhyw strategaeth arall yn golygu y byddai'r Cyngor mewn gwell sefyllfa or herwydd. Mae arbedion sylweddol wedi’u gwneud gyda llawer o staff yn symud i D? Dewi Sant ac yn cefnogi’r sylw y gwnaeth y Cynghorydd Thomas pe bai adennill costau’n llawn fyddai’r nod ar gyfer yr incwm maes parcio yna byddai'n rhaid cynyddu'r costau ymhellach.  Gofynnodd i Aelodau barhau i gefnogi’r ymgyrch #Cefnogi'rGofyn gan ei fod yntau ddim eisiau gweld gymaint o gynnydd mewn Treth y Cyngor.

 

            Wrth gymryd y bleidlais, derbyniwyd y prif gynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y diweddariad ar lafar ar y rhagolwg cyllideb diweddaraf ar gyfer 2019/20 yn cael ei nodi; a

 

 (b)      Bod Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad lleol a rhanbarthol yn cael eu gwahodd i gyfarfod gyda’r holl Gynghorwyr Sir, cyn gynted â phosib      ac os yn bosib cyn 19 Rhagfyr 2018.

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 27/02/2019

Dyddiad y penderfyniad: 11/12/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/12/2018 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents:

  • Council Fund Budget 2019/20 – Overview and Stage 3