Manylion y penderfyniad

School Admission Policy Overview

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide Members with a policy overview and update on numbers

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad i roi trosolwg polisi a diweddariad ar y niferoedd. Rhoddodd wybodaeth gefndir a gwahoddodd y Rheolwr Derbyniadau i gyflwyno’r adroddiad.

 

Soniodd y Rheolwr Derbyn am y prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad, a dywedodd bod niferoedd pob ysgol yng Nghymru yn cael ei gyfrifo yn unol â'r fethodoleg Asesiad Cenedlaethol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, ac roedd yr holl ysgolion gyda Nifer Derbyn a gytunwyd a oedd yn dod o’r niferoedd a gyfrifwyd. Eglurodd nad oedd hawl awtomatig i gael lle mewn ysgol penodol ac pe bai mwy o geisiadau yn dod i law na’r lleoedd sydd ar gael, mae’n rhaid i’r lleoedd gael eu dyrannu yn unol â’r meini prawf mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael fel y nodir yn y polisi derbyn.

 

Dywedodd y Rheolwr Derbyn ei bod yn bwysig bod ceisiadau am dderbyniad wedi’u dychwelyd erbyn y dyddiad cau a gyhoeddwyd, gan fod ceisiadau hwyr yn cael eu hymdrin ar ôl i’r rheiny a oedd yn cyrraedd ar amser.  Golygir hyn os yw’r ysgol a ffefrir yn llawn, er mai’r ysgol honno oedd yr agosaf i gyfeiriad cartref y plentyn, byddai cais hwyr yn cael ei wrthod a byddai’r rhiant yn cael cynnig hawl i apelio i banel apêl annibynnol. Roedd y broses hwn yn unol â threfniadau derbyn a gyhoeddwyd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Kevin Hughes at y broses apêl a'r nifer o apeliadau a gadarnhawyd.Ailadroddodd y Prif Swyddog os bydd cais am dderbyniad yn cael ei wrthod, byddai gan y rhiant hawl apelio i’r panel apêl a fyddai’n annibynnol ac yn diduedd. Eglurodd hefyd nad oedd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael yn angenrheidiol yn arwain at apeliadau gan fyddai rhieni efallai yn derbyn ail neu drydydd ysgol a ffefrir neu ysgol arall gyda lle ar gael.  

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Geoff Collett ynghylch â datblygiadau preswyl newydd sy'n cael eu hadeiladu, a'r effaith ar ysgolion lleol, rhoddodd y Prif Swyddog amlinelliad o sut y mae’r Awdurdod yn cynllunio a rheoli lleoedd ysgolion a’r data a ddefnyddir i gynorthwyo. Mewn ymateb i sylwadau pellach a godwyd gan y Cynghorydd Collet, dywedodd y Prif Swyddog os oes gan yr Aelodau ymholiad neu bryder penodol ynghylch ysgol(ion) yn eu Ward yna dylent gysylltu â hi, a byddai’n dangos sut mae lleoedd ysgolion yn cael eu cynllunio a'u rheoli yn fwy manwl. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Geoff Collet sylw ar y broses derbyn i ysgolion uwchradd.Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts bod derbyniad plentyn i ysgol gynradd ddim yn sicrhau y bydd y plentyn yn cael lle mewn ysgol uwchradd yn yr un ardal. Pwysleisiodd swyddogion nad oedd dalgylchoedd na lleoedd ysgolion dynodedig. Soniodd y Swyddog Derbyniadau am y gwaith a gyflawnwyd i sicrhau bod rhieni yn gwneud penderfyniadau gwybodus a dywedodd bod disgwyl i ysgolion gydymffurfio â'r wybodaeth a ddarperir i rieni. Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r awgrym y dylid ychwanegu blwch ticio i’r ffurflen gais derbyn ar-lein ar gyfer ysgolion cynradd i sicrhau bod rhieni yn deall nad yw derbyniad i’r ysgol gynradd yn golygu bod derbyniad awtomatig i’r ysgol uwchradd yn yr ardal honno.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin sylw ar ymrwymiad y Cyngor i Gyfamod y Lluoedd Arfog a gofynnodd a oedd disgresiwn i blant personél Lluoedd Arfog yn cael ei ddefnyddio wrth ystyried ceisiadau derbyn ysgol.  Eglurodd y Swyddog Derbyniadau nad oedd y Cyfamod yn caniatáu disgresiwn i blant personél y Lluoedd Arfog, ond bod disgresiwn i blant oedran dosbarth derbyn yn ogystal â phlant Blwyddyn 7.   

 

            Mynegodd Aelodau eu gwerthfawrogiad i’r Prif Swyddog, y Rheolwr Derbyniadau a’r Tîm Derbyniadau am eu gwaith rhagorol ynghylch y broses derbyniadau ysgol.

  

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Nodi’r adroddiad.

 

 (b)     I ychwanegu blwch ticio i’r ffurflen gais derbyn ar-lein i ysgolion cynradd i sicrhau bod rhieni yn deall nad yw derbyniad i’r ysgol gynradd yn golygu bod derbyniad awtomatig i’r ysgol uwchradd yn yr ardal honno; a

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn cydnabod gwaith rhagorol y tîm derbyniadau.

Awdur yr adroddiad: Damian Hughes

Dyddiad cyhoeddi: 26/04/2019

Dyddiad y penderfyniad: 20/12/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid

Accompanying Documents: