Manylion y penderfyniad

2019/20 Council Fund Budget: Updated Forecast and Stage 1 and 2 Budget Proposals

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To advise of the latest position on the 2019/20 budget and to approve the Stage 1 and Stage 2 budget proposals

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad yngl?n â’r sefyllfa ddiweddaraf o ran cyllideb 2019/20. Gwahoddwyd y Cyngor i gymeradwyo Cam 1 a Cham 2 o gynigion y gyllideb, a rhoi ymateb ffurfiol i Lywodraeth Cymru ynglyn â’r Setliad Dros Dro ar gyfer Llywodraeth Leol a oedd yn destun ymgynghoriad. Gofynnwyd hefyd i’r Aelodau yn unigol ac ar y cyd i gefnogi’r ymgyrch #CefnogiEinCais dros gyllid tecach i lywodraeth leol ac i Sir y Fflint.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod Cam 1 o’r gyllideb yn ymdrin â Chyllid Corfforaethol a Cham 2 â’r Portffolios Gwasanaeth. Byddai Cam 3 yn dilyn, i ymdrin ag atebion cenedlaethol a gosod cyllideb gyffredinol gytbwys.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad ar y cyd oedd yn trafod y materion allweddol canlynol:

 

·         Rhagolygon y gyllideb yn lleol a sefyllfa ariannol y Cyngor

  • y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â sefyllfa’r gyllideb genedlaethol
  • datganiad cyllideb Canghellor y Deyrnas Gyfunol
  • rhagolygon cyllideb 2019/20
  • rhagolygon cyllideb 2019/20 fel y’u diwygiwyd
  • talu’r diffyg cyllid cyn y setliad
  • dull y Strategaeth Ariannol Tymor Canol ar gyfer gosod y gyllideb
  • y cyd-destun ar gyfer penderfyniadau lleol
  • y sefyllfa sydd ohoni i’r Cyngor

·         Cam 1 – Cyllid Corfforaethol 

o   Cam 1 – atebion ar gyfer y gyllideb gorfforaethol

·         Cam 2 – Portffolios Gwasanaethau

o   Cam 2 - crynodeb o gynigion cynllun busnes ar lefel portffolio

·         Sefyllfa’r gyllideb genedlaethol a Cham 3 o osod y gyllideb

o   crynodeb o sefyllfa gyllidebol Cymru

o   Cyllid cenedlaethol yn erbyn Treth y Cyngor

o   Dadansoddi Treth y Cyngor

o   cydbwyso incwm y Grant Cynnal Refeniw a Threth y Cyngor

o   ymateb o sesiynau’r gweithlu

o   #CefnogiEinCais – byrdwn yr ymgyrch

o   #CefnogiEinCais – negeseuon o gefnogaeth

o   #CefnogiEinCais – Treth y Cyngor

o   #CefnogiEinCais – dadl gyhoeddus

o   #EinDydd – 20 Tachwedd 2018

o   camau nesaf a therfynau amser. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i’r Prif Weithredwr, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Swyddogion am eu gwaith caled ar gyllideb y Cyngor ar gyfer 2019/20. Dywedodd fod angen cytuno ar Gamau 1 a 2 o’r gyllideb, a’i fod yn gobeithio y byddai’r Aelodau’n cefnogi’n unfrydol y cynigion, a fu drwy’r drefn Trosolwg a Chraffu. Cyfeiriodd at yr arbedion effeithlonrwydd a gynigiwyd yng Nghamau 1 a 2 a fyddai’n cyfrannu at ‘dalu’r diffyg’, a dywedodd fod y cyfnod o lymder wedi gorfodi’r Cyngor i ddefnyddio mwy o’i gronfeydd wrth gefn wrth weithredu ei strategaeth i amddiffyn gwasanaethau.Er bod y gyllideb yn cynnwys cynnydd dangosol o 4.5% yn Nhreth y Cyngor, a gostyngiad arall o £250,000 mewn costau uwch-reolwyr, roedd yno ddiffyg sylweddol ar ôl i’w dalu. 

 

Soniodd y Cynghorydd Shotton am y newid o ran rhoi’r gorau i ddefnyddio cyllid cenedlaethol i gynnal gwasanaethau llywodraeth leol a defnyddio incwm Treth y Cyngor yn ei le, a ph’un a oedd hynny’n bolisi bwriadol ai peidio, dyna oedd y sefyllfa mewn gwirionedd yng Nghymru a Lloegr. Dywedodd fod hyn yn peri cryn bryder, a dywedodd nad oedd yr Awdurdod yn dymuno bod mewn sefyllfa lle’r oedd cynyddu Treth y Cyngor hyd at 15% yn bosibl, ac y byddai’n rhaid inni ymgyrchu yn erbyn hynny gan ofyn am well setliad o ran cyllid cenedlaethol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Shotton weithredu’r argymhelliad yn yr adroddiad, sef bod y Cyngor yn cymeradwyo Cam 1 a Cham 2 o’r cynigion ar gyfer y gyllideb.  Cyfeiriodd hefyd at yr ail argymhelliad yn yr adroddiad, gan sôn am ei falchder yn yr ymgyrch #CefnogiEinCais a lansiwyd ddiwrnod y cyfarfod.Anogwyd cymaint â phosib o bobl i gefnogi’r ymgyrch ar y cyd ag ymgyrch ‘Ein Dydd’ y Gymdeithas Llywodraeth Leol. Mynnodd nad oedd yr ymgyrch #CefnogiEinCais yn afrealistig gan fod gan Lywodraeth Cymru gyllid heb ei neilltuo y gellid ei drosglwyddo i lywodraeth leol er mwyn lleddfu’r gwasgfeydd ariannol. Soniodd am y trafodaethau cadarnhaol a gafwyd gyda Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a dywedodd y gobeithiai fod y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru’n cydnabod y dylai llywodraeth leol fod yn gyntaf ar y rhestr am gyllid ychwanegol yn sgil datganiad cyllideb y Canghellor.Pwysleisiodd y Cynghorydd Shotton mor bwysig oedd dal i ymgyrchu ar y cyd er mwyn amddiffyn gwasanaethau a thrigolion Sir y Fflint rhag mwy o doriadau.

 

Soniodd y Cynghorydd Chris Bithell hefyd am y newid o gyllid cenedlaethol i drethi lleol wrth dalu’r diffyg yr oedd gostyngiadau mewn cyllid gan y llywodraeth wedi’i greu. Cyfeiriodd at y gost ar gyfer yr Heddlu, a’r dybiaeth o safbwynt y llywodraeth genedlaethol y byddai trethdalwyr lleol yn ysgwyddo’r baich am 51% o’r cyllid. Dywedodd y bu’r cyfrifoldeb dros ariannu’r gwasanaethu heddlu a throseddu a llywodraeth leol yn symud i dalwyr Treth y Cyngor ers sawl blwyddyn, a bod llawer yn gweld hynny fel trethu llechwraidd. Roedd hynny’n annheg ac yn annerbyniol yn ei farn ef, ac roedd angen sicrhau fod pobl yn gwybod na fyddai trethi lleol yn medru talu am yr un lefel o wasanaethau â chyllid cenedlaethol. Roedd Treth y Cyngor yn codi, ond darperid llai o wasanaethau gan y Cynghorau. 

 

Cefnogodd y Cynghorydd Mike Peers y datganiad fod y Setliad Dros Dro i Lywodraeth Leol, a oedd yn destun ymgynghoriad, yn gwbl annigonol i ddiwallu’r anghenion. Roedd yn amau fod gan Lywodraeth Cymru lawer iawn o gyllid y gellid ei drosglwyddo i awdurdodau lleol er mwyn lleddfu’r gwasgfeydd ariannol, a chefnogodd yr ymgyrch #CefnogiEinCais a oedd yn gofyn am setliad tecach i lywodraeth leol a Sir y Fflint.  Mynegodd bryder am yr anghysonder rhwng awdurdodau lleol yn y setliad dros dro, gan sôn am “raniad rhwng y Gogledd a’r De” o ran cyllid. Pwysleisiodd fod angen darparu cyllid digonol yng Nghymru ar gyfer gwasanaethau sylfaenol, a dywedodd na ddylid gofyn i dalwyr Treth y Cyngor roi cymhorthdal i dalu’r diffyg mewn cyllid cenedlaethol fel y cynigiai Llywodraeth Cymru.  Dywedodd ei fod yn llwyr gefnogi sylwadau’r Cynghorydd Chris Bithell. Cyfeiriodd at y ‘bwlch’ yn y gyllideb o £15.3 miliwn a diolchodd i bawb a fu’n gweithio’n galed i leihau’r ‘bwlch’ i £6.7 miliwn. 

 

Wrth gloi, soniodd y Cynghorydd Peers fod angen ennyn cefnogaeth Aelodau Cynulliad yn lleol a ledled gogledd Cymru wrth ymgyrchu dros setliad tecach ar gyfer darparu gwasanaethau lleol. Dywedodd nad mater o effeithlonrwydd oedd cynyddu Treth y Cyngor, ond ffordd o gynhyrchu incwm ar draul y cyhoedd, ac nid oedd hynny’n deg nac yn briodol.

 

Cytunodd y Cynghorydd Patrick Heesom â’r safbwynt nad oedd Treth y Cyngor yn ateb priodol i’r broblem o ddiffyg cyllid gan y llywodraeth. Dywedodd y byddai unrhyw gynnydd mwy na 4% neu 5% yn annerbyniol i’r cyhoedd ac yn cael effaith anghymesur ar y bobl dlotaf, gan danseilio’r egwyddor o gymdeithas deg. Soniodd am y cyd-destun ar gyfer penderfyniadau lleol, a dywedodd nad oedd yn cytuno â’r datganiad nad oedd fawr o werth dadlau ynghylch gwasanaethau gorfodol yn erbyn rhai dewisol. Cyfeiriodd hefyd at y sylw yngl?n â thrawsnewid mawr, a holodd a oedd unrhyw werth bellach yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canol gyfredol.  Dywedodd hefyd fod angen ailystyried y strategaeth gyfredol gan y teimlai nad oedd yn ymdrin â’r gwasgfeydd presennol na’r rhai oedd ar y gorwel, a’i fod bellach yn anaddas at y diben.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carol Ellis ei bod yn cefnogi’r ymgyrch #CefnogiEinCais ac fe ategodd sylwadau’r Cynghorydd Mike Peers wrth ddweud fod angen i Aelodau Cynulliad roi eu cefnogaeth o blaid yr ymgyrch dros setliad ariannol teg.  Gan gyfeirio at yr argymhelliad i godi Treth y Cyngor 4.5%, dywedodd nad oedd hynny’n cynnwys praeseptau Cynghorau Tref a Chymuned a Chomisiynydd yr heddlu a Throseddu, a fyddai’n golygu cynnydd o 7% o leiaf. Dywedodd fod angen codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r berthynas rhwng arian Treth y Cyngor a chyllid Llywodraeth Cymru.

 

Soniodd y Cynghorydd Richard Jones am y cynnydd 5.2% (£315 miliwn) yng nghyllid y Gwasanaeth Iechyd eleni, a bod £95 miliwn wedi’i neilltuo ar gyfer codiadau cyflog yng Nghymru. Cyfeiriodd at y symiau a gyflwynwyd o ran y Grant Cynnal Refeniw ac incwm Treth y Cyngor, gan ddweud bod y ffigyrau hynny wedi cynyddu 1% bob blwyddyn. Rhoes enghraifft o effaith y codiadau cyson hynny, a’r effaith ar gyllideb y cyfrif refeniw mewn blynyddoedd i ddod, gan ddweud y gallai bron traean o’r gyllideb ddod o drethi lleol (32% - cynnydd o £23 miliwn).

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at y diffyg o £6.7 miliwn yn y gyllideb, gan ddweud fod yr ymgyrch #CefnogiEinCais yn gofyn am £5.6 miliwn (£1.1 miliwn yn llai na’r bwlch).Gofynnodd am eglurhad o’r cyfrifiadau yngl?n â’r diffyg yn y gyllideb, a chyfrifiadau Treth y Cyngor. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at y Cyfrif Refeniw Tai, gan holi a oedd ffordd o godi costau cyflogau Aelodau o’r cyfrif hwnnw ar gyfer yr amser a dreuliont yn ymdrin â materion tai.

 

Soniodd y Cynghorydd Jones am y gostyngiad 9% yng nghymorth/cymhorthdal yr Awdurdod i gwmni Hamdden a Llyfrgelloedd Aura, a holodd a ellid gostwng y cymhorthdal eto er mwyn arbed mwy o arian.  

 

Gan gyfeirio at dudalen 73 o’r adroddiad, holodd y Cynghorydd Jones yngl?n â’r ffigyrau a ddarparwyd ar gyfer Cynllunio a Gorfodi (£0.111 miliwn) a Thai ac Asedau (£0.035 miliwn). 

 

Holodd y Cynghorydd Jones a fedrai hefyd gael yr wybodaeth y gofynnwyd amdano mewn ymateb i’r cwestiynau a gododd yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr y darperir dadansoddiad manwl i’r Cynghorydd Jones mewn ymateb i’w gwestiynau yngl?n â’r Cyfrif Refeniw Tai a materion cludiant. Gan gyfeirio at awgrym y Cynghorydd Jones y dylai’r Awdurdod ystyried gostwng y cymorth i Aura eto, yn ogystal â’r cymorth i Wasanaethau Arlwyo a Glanhau Newydd, rhybuddiodd y Prif Weithredwr rhag gwneud hynny gan y byddai’n cael effaith drom ar gynlluniau busnes y naill gwmni a’r llall, a soniodd am y costau’r oedd y cwmnïau eisoes wedi’u hysgwyddo, gan gynnwys codiadau cyflog. O ran y Cyfrif Refeniw Tai, dywedodd y Prif Weithredwr y câi rhai costau eu codi ar gyfer y gwasanaethau democrataidd, ond y gellid ymchwilio i hyn eto yn fwy manwl.Esboniodd y Prif Weithredwr y gwahaniaeth rhwng y bwlch o £6.7 miliwn yn y gyllideb a’r swm o £5.6 miliwn yr oedd yr ymgyrch #CefnogiEinCais yn gofyn amdano, ac er ei fod yn cydnabod nad oedd hynny’n ddigon i dalu’r diffyg cyn troi at incwm Treth y Cyngor, roedd yn seiliedig ar y swm o gyllid heb ei neilltuo oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru.  

 

Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y defnyddid y Cyfrif Refeniw Tai i dalu costau cymorth canolog, gan gynnig enghreifftiau fel adnoddau dynol, cyllid, gwasanaethau cyfreithiol, costau rheoli corfforaethol a chyfraniad Aelodau. Dywedodd y Prif Weithredwr y gwneid hynny ar sail cyfrifiad teg.

 

Soniodd y Cynghorydd Kevin Hughes fod angen dal ati ar y cyd i gefnogi’r ymgyrch #CefnogiEinCais hyd oni fyddai awdurdodau lleol yn cael bargen deg gan Lywodraeth Cymru a’r llywodraeth yn Llundain.

 

Rhoes y Cynghorydd Glyn Banks longyfarchiadau i’r Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol am yr adroddiad a’r cyflwyniad a roddwyd. Dywedodd na fedrai gefnogi cynyddu Treth y Cyngor hyd at 15% yn Sir y Fflint tra bod Llywodraeth Cymru’n meddu ar symiau mawr o arian y gellid eu trosglwyddo i lywodraeth leol. 

 

Yn ôl y Cynghorydd Hilary McGuill roedd angen codi gwell ymwybyddiaeth o’r ffyrdd y gallai’r cyhoedd gefnogi’r ymgyrch #CefnogiEinCais, a dywedodd nad oedd yn hawdd cwblhau’r ddeiseb ar-lein.  Dywedodd fod y trigolion yn dymuno gwario’r arian a drosglwyddwyd gan y llywodraeth yn Llundain i Lywodraeth Cymru ar wasanaethau lleol yn ddiymdroi.

 

Holodd y Cynghorydd David Williams a gynhelid digwyddiadau i ymgynghori â chymunedau lleol, gan ddweud y bu digwyddiadau felly’n fuddiol yn y gorffennol o ran ennyn diddordeb y cyhoedd. Esboniodd y Prif Weithredwr mai siomedig oedd nifer y bobl a ddaeth i ddigwyddiadau blaenorol, ac awgrymodd mai’r peth gorau fyddai aros i weld sut oedd y sefyllfa’n datblygu o ran yr ymgyrch #CefnogiEinCais, y gyllideb genedlaethol a Cham 3 o osod y gyllideb, cyn mynd ati i gynnal digwyddiadau cyhoeddus. Serch hynny, roedd pob dewis ar gael i’w ystyried.

 

Rhoes y Cynghorydd Colin Legg longyfarchiadau i’r Arweinydd, Aelodau’r Cabinet, y Prif Weithredwr, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i dîm am eu gwaith caled a medrus wrth gwtogi ar y costau.  Mynegodd bryder, fodd bynnag, y byddai gostwng yr adnoddau staff yn golygu na fedrai’r Awdurdod gynnal gwasanaethau o’r ansawdd y dymunai ei gynnig i drigolion Sir y Fflint.  Roedd yn pryderu yngl?n â llesiant staff, a soniodd am y straen yn deillio o dwf mewn baich gwaith oherwydd llai o staff, gan ddweud y gallai hynny wneud gweithwyr yn sâl.  

 

Wrth gloi, gan gydnabod sylwadau’r Cynghorwyr Mike Peers a Patrick Heesom, dywedodd na fu modd dod o hyd i unrhyw doriadau neu drawsnewidiadau yng nghyllideb y flwyddyn nesaf y tu hwnt i’r hyn a wnaed.  Dywedodd nad oedd unrhyw ddewis ond cynyddu Treth y Cyngor er mwyn talu’r diffyg y flwyddyn nesaf, a phwysleisiodd y bu’r Awdurdod wrthi’n ddiwyd yn cwtogi ar gostau er mwyn amddiffyn trigolion Sir y Fflint rhag mwy o gynnydd yn Nhreth y Cyngor. Soniodd hefyd fod angen i’r cyhoedd ddeall pa gostau eraill oedd yn rhan o Dreth y Cyngor, gan grybwyll yr Awdurdod Tân ac Achub, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru a phraeseptau’r Cynghorau Tref a Chymuned.   Pwysleisiodd mai mater cenedlaethol oedd ariannu llywodraeth leol, ac nid rhywbeth oedd yn effeithio ar Sir y Fflint yn unig. 

 

Gan gyfeirio at sylwadau’r Cynghorydd Hilary McGuill yngl?n â’r ymgyrch #CefnogiEinCais, dywedodd y Prif Weithredwr fod diddordeb ar gyfryngau cymdeithasol yn tyfu, a bod cynllun ar waith ar gyfer lobïo â rheolaeth a heb reolaeth. 

 

Dywedodd y Cadeirydd fod gan bob Aelod gyfrifoldeb i ofyn i Aelodau Cynulliad roi eu cefnogaeth i’r ymgyrch #CefnogiEinCais a chodi ymwybyddiaeth ymysg eu trigolion lleol, gan esbonio mor bwysig oedd iddynt gyfleu eu cefnogaeth i Lywodraeth Cymru.

 

Atgoffodd y Prif Weithredwr yr Aelodau y byddai ymateb ffurfiol yr Awdurdod i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yngl?n â’r Setliad Dros Dro i Lywodraeth Leol yn crybwyll yr ymgyrch #CefnogiEinCais a’r themâu allweddol a drafodwyd yn y cyfarfod heddiw, ac y byddai’r Arweinydd a’r Prif Weithredwr yn ei lofnodi.  

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cynghorydd Shotton wedi cynnig cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad. Eiliwyd y cynnig hwnnw ac wedi pleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Cymeradwyo cynigion y gyllideb Cam 1 a Cham 2; a

 

 (b)     Chefnogi’r ymgyrch arfaethedig a bod y Cyngor yn rhoi ymateb ffurfiol i Lywodraeth Cymru ynglyn â’r Setliad Dros Dro ar gyfer Llywodraeth Leol.

 

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 01/04/2019

Dyddiad y penderfyniad: 20/11/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/11/2018 - Cyngor Sir y Fflint

Dogfennau Atodol: