Manylion y penderfyniad
Employer Care Pay Issue
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: For Determination
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Mr Latham adroddiad ar broblem oedd yn effeithio ar daliadau i aelodau Cronfa Bensiynau Clwyd oherwydd gwall wrth gyfrifo tâl CARE y cyflogwr i’r Gronfa. Roedd yr adroddiad yn cynnwys yr egwyddorion cytûn o ran datrys y mater a chyfathrebu yn ei gylch.
Roedd y Gronfa’n anfon gwahanol fersiynau o lythyrau at wahanol aelodau.Roedd Mr Latham yn gobeithio y câi’r llythyrau hynny eu hanfon ymhen wythnos ar ôl cyfarfod y Pwyllgor.
Roedd Mr Latham wedi siarad â’r Rheoleiddiwr Pensiynau am y mater, a oedd wedi gofyn am gael gwybodaeth yn fisol yngl?n â chynnydd y prosiect.
Holodd Mr Hibbert a oedd hyn yn broblem â’r feddalwedd oedd yn effeithio ar gyflogwyr eraill yn y Gronfa.Cadarnhawyd nad oedd y broblem wedi effeithio ar gyflogwyr eraill yn y Gronfa.
Holodd y Cynghorydd Jones a fyddai’r Gronfa’n sicrhau bod ei thîm Cyfathrebu’n barod i ymateb pe byddai’n rhaid pan ddeuai’r broblem i sylw’r cyhoedd.Dywedodd Mr Everett y byddai’n ystyried hyn ac yn cymryd camau priodol, er nad oedd o’r farn nad oedd y mater yn effeithio ar y cyhoedd.
Holodd y Cynghorydd Bateman a oedd rhyw syniad o’r costau terfynol i’r Gronfa.Dywedodd Mrs McWilliam nad oedd y costau terfynol wedi’u pennu eto, ond roedd y gwaith hyd hynny’n awgrymu mai bach iawn fyddai’r effaith yn y pen draw.
Dywedodd y Cadeirydd wrth gloi ei bod yn braf gweld fod y gwaith yn dod yn ei flaen yn dda.Yn amlwg, roedd pryder mawr o hyd, ac roedd yn tybio y byddai’r wythnosau nesaf yn allweddol o ran meithrin dealltwriaeth o ymateb aelodau’r cynllun i’r newyddion.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 19/03/2019
Dyddiad y penderfyniad: 28/11/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/11/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd