Manylion y penderfyniad

Funding and Flight Path Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Dywedodd Mr Middleman fod y Gronfa wedi dad-ddirwyn trosglwyddiad gwerth cymharol ag Insight ac wedi elwa £26.7 miliwn wedi cwblhau’r trosglwyddiad hwnnw (heb gynnwys y costau).Roedd hynny’n gyfwerth ag oddeutu 75% o’r holl elw’r oedd y Gronfa’n ei ddisgwyl ar y dechrau dros gyfnod o tua hanner can mlynedd.Fodd bynnag, fel y soniwyd yn y cyfarfod blaenorol, penderfynwyd troi hyn yn elw yn awr er mwyn cael gwared â’r perygl o golledion yn y dyfodol.Soniodd Mr Middleman hefyd fod treuliau’r trosglwyddiad wedi dod i £269,000, a oedd yn llawer iawn gwell na’r swm a ragwelwyd rhwng £0.8-2.2 miliwn.  Roedd hwn yn ganlyniad da iawn a oedd yn dangos sut y gallai llywodraethu da ddod ag enillion mawr i’r Gronfa.

Dywedodd Mr Middleman fod Mercer wedi cyfrifo y gellid rhyddhau gwerth £100 miliwn o sicrwydd cyfochrog o’r strategaeth rheoli risg heb fod hynny’n cael effaith ar y sefyllfa gyffredinol o ran mantoli (mae Mercer hefyd wedi cadarnhau hynny).Bu nifer o drafodaethau yngl?n â sut ddylai’r Gronfa ddefnyddio’r arian.Penderfynwyd cadw £50 miliwn mewn rhaeadr sicrwydd cyfochrog i’w ddatblygu ymhellach gydag Insight, a defnyddio £50 miliwn mewn rhyw ran arall o’r portffolio. Roedd hyn wedi bod yn gweithio’n dda, a chafwyd canlyniadau gwerth chweil a fyddai’n gosod y Gronfa ar seiliau cadarn i’r dyfodol.

Oherwydd y dulliau diogelu a mantoli’r oedd y Gronfa’n eu defnyddio, roedd y sefyllfa’n well nag y gallai wedi bod gan ystyried ansefydlogrwydd y marchnadoedd.

            Holodd Mr Hibbert faint yn ddrutach oedd y dulliau diogelu na’r hyn oedd gan y Gronfa o’r blaen.Dywedodd Mr Middleman fod dau beth wedi effeithio ar gostau’r dulliau diogelu – lefel y diogelu dan sylw, a’r ganfyddiad ynghylch ansefydlogrwydd y marchnadoedd.Wrth roi’r dulliau diogelu ar waith cymharwyd y costau â’r manteision, a daethpwyd i’r casgliad eu bod yn rhesymol gan ystyried yr enillion a ddisgwylid (wedi’u haddasu yn ôl risg).  Serch hynny, roedd hi’n deg dweud fod ariannu’r dulliau diogelu’n ddrutach yn awr oherwydd ansefydlogrwydd y farchnad, ond ar y llaw arall roedd gwerth y dulliau diogelu wedi cynyddu hefyd (gan ystyried ansefydlogrwydd y marchnadoedd a lefelau’r marchnadoedd hynny).

Mewn gwirionedd byddai unrhyw ddull diogelu’n dod â chostau (gan mai hanfod y peth yw ildio rhywbeth er mwyn diogelu rhag canlyniad gwael) ond y peth pwysicaf oedd “yswirio” rhag canlyniad gwael o ran cyfraniadau cyflogwyr.Dywedodd fod popeth yn gweithio’n dda, ond na fu angen manteisio ar unrhyw ddulliau diogelu eto.   Fodd bynnag, gan ystyried ansefydlogrwydd y marchnadoedd, roedd y dulliau diogelu’n fwy gwerthfawr nag erioed o’r blaen.

PENDERFYNWYD:

 

a)         Nododd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â chyllido a’r sefyllfa o ran mantoli, a’r cynnydd a wnaed ar y gwahanol elfennau o'r Fframwaith Rheoli Risg.

 

(b)        Nododd y Pwyllgor y cwblhawyd y gwaith o ailstrwythuro’r strategaeth buddsoddi ar sail rhwymedigaethau ac y cyflawnwyd enillion cadarnhaol ar brisiau’r asedau ar y farchnad.

 

(c)        Nododd y Pwyllgor fod y Swyddogion yn gweithio â’u hymgynghorwyr er mwyn cadarnhau proses rhaeadru sicrwydd cyfochrog gydag Insight fel y gellid rheoli’r gofynion sicrwydd cyfochrog yn well.Ar ben hynny, cafwyd cytundeb dros dro y tynnid tua £50 miliwn o’r gronfa fuddsoddi amgen ar gyfer buddsoddwyr cymwys gydag Insight a’i fuddsoddi mewn rhannau eraill o’r portffolio.

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am ddod i’r cyfarfod a darparu’r wybodaeth diweddaraf, a nododd y cynhelid cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 20 Chwefror 2019.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 19/03/2019

Dyddiad y penderfyniad: 28/11/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/11/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: