Manylion y penderfyniad

Investment and Funding Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Rhannodd Mrs Fielder y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r eitem hon ar y rhaglen, gan sôn yn gyntaf fod pethau ar y trywydd iawn i gyflawni tair o’r tasgau yn y cynllun busnes. Dywedodd fod angen sêl bendith y Pwyllgor i ddiwygio’r Datganiad o’r Strategaeth Ariannu. Byddai’r diwygiadau yn y Datganiad yn cynnwys y newidiadau diweddar yn y rheoliadau credydau ymadael a’r hyn a ychwanegwyd at y strategaeth llwybr hedfan, er enghraifft, gwarchod ecwiti deinamig.

Roedd yr Atodiad i’r adroddiad yn ymdrin â’r symudiadau arian parod yn y cyfnod dan sylw. Yn unol â chais Mr Hibbert yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor, roedd graff yngl?n â rheoli arian parod wedi’i gynnwys ar dudalen 232.

Rhoddodd Mr Middleman grynodeb o ganlyniadau Adolygiad Ariannu Interim 2018, a oedd yn rhoi cyfrif am ddiweddaru’r rhagolygon buddsoddi a’r tueddiadau o ran disgwyliad oes (yn seiliedig ar ystadegau gwladol). Amcangyfrifwyd fod cyfanswm lefel ariannu’r Gronfa ar 31 Mawrth 2018 yn 88%, ond bu rhywfaint o ansefydlogrwydd ers hynny (codi i 92% a gostwng yn ôl i 88%).  Amcangyfrifwyd bod ad-daliadau yn y dyfodol yn gyfwerth â 18% o gyflogau (15.3% o gyflogau ydoedd pan gynhaliwyd y prisiad diwethaf), ond nid oedd hynny’n cynnwys y costau posib yn sgil canlyniad y drefn Rheoli Costau.  Fodd bynnag, roedd hyn yn dal i ragori ar y targed ac roedd hynny’n galonogol.  Esboniodd Mr Middleman y cafodd y Gronfa gyfnod da yn ddiweddar, ond mai’r pethau pwysicaf oedd y disgwyliadau o ran enillion uwchlaw chwyddiant yn y dyfodol, a sicrhau bod y cyfraniadau’n ddigonol i gynnal cyflwr ariannol y Gronfa.  Cadarnhaodd Mr Middleman y câi hyn ei drafod yn fanylach wrth ddynesu at ddyddiad y prisiad, a dywedodd Mr Ferguson fod cyfarfod wedi’i drefnu â chyfarwyddwyr cyllid yr awdurdodau ddiwedd mis Ionawr.

Dywedodd Mr Middleman y disgwylid rhai newidiadau o ran y tybiaethau demograffig yngl?n â disgwyliad oes, ac y byddai hynny’n cael effaith ar gostau a chanlyniadau.  Am y tro roedd y rheiny’n seiliedig ar dueddiadau cenedlaethol, ond gwneid dadansoddiad wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer y Gronfa ddechrau’r flwyddyn newydd, a byddai hynny’n rhoi darlun mwy pendant ar gyfer y prisiad.

Dywedodd Mr Everett wrth Mr Middleman y bu’r eitem hon ar y rhaglen yn fuddiol iawn. Holodd sut allai’r Gronfa gael sicrwydd a sefydlogrwydd hirdymor, gan ystyried y gwasgfeydd enbyd ar gyllidebau’r cyflogwyr, yn enwedig wrth ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ddiwedd mis Mawrth 2019. Gallai hynny, ar ben ffactorau eraill, roi’r Gronfa mewn sefyllfa waeth. Cytunodd Mr Middleman nad oedd yr ansicrwydd yn helpu, ond drwy lunio’r strategaeth llwybr hedfan a sefydlu strwythur asedau, roedd y Gronfa wedi lliniaru ar rai o’r risgiau.  Roedd yr effaith hirdymor ar chwyddiant yn y Deyrnas Gyfunol yn hollbwysig, gan y byddai hynny’n effeithio ar rwymedigaethau.

Fodd bynnag, cadarnhaodd Mr Middleman fod y trafodaethau’n cynnwys pennu strategaeth hirdymor a’r gydbwysedd rhwng cyfraniadau arian parod ac enillion. Pe byddai’r marchnadoedd yn cwympo 20%, er enghraifft, oherwydd yr ansicrwydd yngl?n ag ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, nid fyddai Mr Middleman o reidrwydd yn tybio mai dyma’r lefel lle dylid gosod y cyfraniadau, gan fod y rheiny’n seiliedig ar gyfuniad o sefyllfa bresennol farchnad a’r rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, pe byddai’r marchnadoedd mewn dirwasgiad dros dro (a bod yr ymgynghorwyr i gyd yn cytuno ar hynny), yna byddai’r gronfa’n rhoi cyfrif am yr adferiad wrth dybio’r enillion ar fuddsoddiadau yn y dyfodol, o fewn terfynau derbyniol.

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Bod y Pwyllgor wedi ystyried y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â chyfrifoldebau dirprwyedig a’i nodi, ac wedi gwneud sylwadau.

 

(b)        Bod y Pwyllgor wedi adolygu’r newidiadau yn y Datganiad o’r Strategaeth Ariannu a’u cymeradwyo yn dilyn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn unol â rheoliadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

(c)        Bod y Pwyllgor wedi derbyn a nodi canfyddiadau a chanlyniadau Adolygiad Ariannu 2018 a gynhaliwyd gan Actiwari’r Gronfa.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 19/03/2019

Dyddiad y penderfyniad: 28/11/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/11/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: