Manylion y penderfyniad

Pooling Investments in Wales

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Aeth Mr Latham drwy’r eitem hon ar y rhaglen, gan nodi’r materion a godwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor Llywodraethu y bu’r Cadeirydd ac ef yn bresennol ynddo ar 25 Medi 2018. Dywedodd fod y rhan helaeth o’r gwaith a gwblhawyd yn ddiweddar yn ymwneud â phenodi rheolwr trawsnewid ar gyfer asedau ecwiti hollgynhwysol, a byddai hynny’n digwydd ar 14 Ionawr 2019.

Dywedodd Mr Latham y byddai 4% o asedau’r Gronfa, sef swm o tua £80 miliwn, yn symud o’r mandad ecwiti hollgynhwysol cyfredol gydag Investec i Gynllun Contractiol Awdurdodedig gyda Phartneriaeth Pensiynau Cymru.Roedd gwaith hefyd wedi’i wneud ar fandadau yn y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop, ac er na fyddai’r Gronfa’n buddsoddi yn y rheiny roedd pethau’n mynd yn dda, ac roedd yn rhagweld y byddai’r asedau’n trosglwyddo fis Mawrth 2019.

 

Y strategaeth incwm sefydlog oedd yn mynd â’r sylw mwyaf, ac roedd Russell Investments, ar ran y Gweithredwr, wedi bod yn ymchwilio i wahanol gynigion er mwyn bodloni gofynion ar awdurdodau gweinyddu.

 

            Cyfeiriodd Mr Latham at bwynt Mr Hibbert yn gynharach, gan ddweud bod y mandad ecwiti hollgynhwysol yn sicr yn sefyllfa lle byddai’r Gronfa ar ei hennill ymhob ffordd.  Serch hynny, roedd hi’n bosib na fyddai’r ffioedd yr oedd y Gronfa’n eu talu ar gyfer rhai mandadau yn gostwng bob amser wrth gronni asedau, gan fod ffioedd llawer ohonynt eisoes yn gystadleuol iawn a’i bod yn annhebygol y byddai’r un cyfraddau ar gael i’r Bartneriaeth.  

 

O ran buddsoddiadau’r Bartneriaeth, credai Mr Latham fod popeth yn dal i fynd yn dda, o’i safbwynt ef.Ychwanegodd Mr Latham y byddai Mrs Fielder yn mynd i gyfarfod y Gweithgor Swyddogion ar 30 Tachwedd ac y byddai’n rhoi sicrwydd fod nodau’r Gronfa wedi’u diogelu o ran y portffolio incwm sefydlog.

 

O ran gwaith llywodraethu’r Bartneriaeth, roedd yr Awdurdod Lletyol wedi cynnal cyfweliadau ar gyfer y swydd wag.

Gan gyfeirio at raglen cyfarfod y Gweithgor Swyddogion ar 30 Tachwedd, dywedodd Mr Latham fod benthyca cyfranddaliadau’n rhywbeth i’r Cyd-bwyllgor Llywodraethu ei ystyried.

 

Holodd Mr Hibbert a oedd bwriad i gyflawni gofynion Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun o ran cynrychiolaeth y cynllun ar y Cyd-bwyllgor.Gofynnodd am godi’r mater yng nghyfarfod y Gweithgor Swyddogion y dydd Gwener canlynol, ac fe gadarnhaodd Mrs Fielder y byddai’n gwneud hynny.

 

Holodd y Cynghorydd Jones yngl?n â thrafodaethau’r Bwrdd Pensiynau yngl?n â llywodraethu’r gronfa a nodwyd ar dudalen 59, a mynegodd yntau bryder yngl?n â’r diffyg cynllunio busnes.Cadarnhaodd Mrs McWilliam fod Byrddau Pensiynau Lleol ledled Cymru’n ystyried ysgrifennu llythyr i’r gronfa gyfun yngl?n â’r cynllun busnes a materion llywodraethu eraill.    Dywedodd Mrs McWilliam ei bod yn trafod y mater gyda chadeiryddion y Byrddau eraill.

 

Ychwanegodd Mr Latham y byddai angen i’r gronfa gyfun sefydlu Polisi Buddsoddi Cyfrifol.Roedd y Llywodraeth yn dweud mai’r awdurdod gweinyddu lleol oedd yn gyfrifol am hynny.  Fodd bynnag, gallai fod yn anodd cyflawni pob un o amcanion y Gronfa o ran buddsoddi cyfrifol yng nghyd-destun cronfa gyfun.   Byddai hyn yn rhywbeth i’w ystyried wedi i’r Bartneriaeth lunio polisi drafft.

 

Dywedodd Mr Everett y gallai’r mater fod yn bwnc llosg yn wleidyddol, a bod angen cymaint â phosib o gydweithio ledled Cymru. 

 

Ar dudalen 26, dymunai’r Cynghorydd Bateman gadarnhau sut ddefnyddid meincnodi wrth asesu perfformiad y Gronfa a’r Bartneriaeth.Dywedodd Mr Latham ei fod yn disgwyl adrodd ar nifer o feincnodau ac y byddai hynny’n cyd-fynd â meincnodi CEM.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r adroddiad ac wedi trafod y cynnydd y mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ei wneud.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 19/03/2019

Dyddiad y penderfyniad: 28/11/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/11/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: