Manylion y penderfyniad

Greenfield Valley Heritage park

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive a 12 month progress report

Penderfyniadau:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith a wneir i gyflawni’r argymhellion sy’n codi yn yr archwiliad ar lywodraethu, cyllid a threfniadau gweithredu yn Nyffryn Maes Glas a’r sefyllfa weithredol bresennol.    Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd yn dilyn yr archwiliad bod yr holl gamau wedi eu cwblhau heblaw am arwyddo’r Cytundeb Rheoli. Roedd pawb â diddordeb wedi rhoi sylwadau ar fersiynau drafft o’r Cytundeb ac roedd yr Ymddiriedolaeth wedi ymrwymo i arwyddo’r Cytundeb yn ei gyfarfod Bwrdd ar 7 Mai 2019.  Gwahoddodd y Prif Swyddog y Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y sefyllfa weithredol yn Nyffryn Maes Glas. 

 

                        Rhoddodd y Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol adroddiad ar yr uchafbwyntiau gweithredol am y chwe mis diwethaf, fel y manylwyd yn yr adroddiad.   Cyfeiriodd at nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus yn ddiweddar a gweithgareddau a gynhaliwyd a’r gwaith rheoli, datblygu a chynnal coetir a wnaed.     Hefyd soniodd am y fenter i adolygu ffioedd mynediad i annog pobl i brynu tocynnau blynyddol drwy gydol y flwyddyn a dywedodd am Gynhadledd Dysgu Awyr Agored i weithwyr addysg proffesiynol a gynhelir yn y Dyffryn ar 4 Ebrill.   

 

Dywedodd y Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol bod gwasanaeth Strydwedd y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau bron i £700k drwy Grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i’r Dyffryn fyddai’n gwella cysylltiadau a chyfathrebu.    Eglurodd mai'r cam cyntaf fyddai ailwynebu’r llwybr ar hyd yr hen reilffordd i faes parcio ffordd yr arfordir.    Byddai ceisiadau pellach yn cael eu cyflwyno fyddai’n cynnwys cynigion i wella’r cysylltiadau o’r Dyffryn i Ysgol Treffynnon ac o’r Dyffryn i Doc Maes Glas. 

 

Wrth gwblhau ei ddiweddariad dywedodd y Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol bod y Dyffryn yn dibynnu ar wirfoddolwyr rheolaidd oedd yn cynorthwyo i reoli’r safle ac eglurodd bod Dyffryn Maes Glas wedi cofrestru i ddosbarthu credydau amser i wirfoddolwyr.    Roedd y cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o brosiect penodol yn Sir y Fflint a Wrecsam am y ddwy flynedd nesaf.    Roedd y fenter yn galluogi i wirfoddolwyr dderbyn credydau papur am eu hamser y gellir ei wario mewn cyfleusterau a busnesau a gofrestrwyd ar draws y DU.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) efallai y byddai’r Pwyllgor yn dymuno cynnal cyfarfod yn y dyfodol yn Nyffryn Maes Glas a manteisio ar y cyfle i gael taith o amgylch y Dyffryn a’r cyfleusterau a ddarparwyd yr un pryd. 

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Chris Dolphin y Prif Swyddog a’r Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol a’i dîm am eu gwaith ardderchog a’r cynnydd a wnaed o ran yr argymhellion archwilio yn ddiweddar.     Dywedodd am gyllideb flynyddol y Cyngor i reoli’r safle a oedd oddeutu £300k a dywedodd fod hyn yn werth am arian, fodd bynnag mynegodd ei siom nad oedd y Cytundeb Rheoli wedi’i arwyddo gan yr Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas eto a dywedodd fod hyn yn annerbyniol.    Hefyd llongyfarchodd y Cynghorydd Dolphin swyddogion ar lwyddiant sicrhau'r grant £700k a sicrhawd drwy'r cynllun Teithio Llesol gan Lywodraeth Cymru a dywedodd fyddai’n cael effaith sylweddol ar y Dyffryn.     Dywedodd y Cynghorydd nad oedd yn meddwl bod angen dod ag adroddiadau diweddariad pellach i gyfarfodydd y Pwyllgor Craffu yn y dyfodol, oherwydd y cynnydd cadarnhaol a wnaed.  Ailadroddodd y Cynghorydd Dunbobbin y farn a fynegwyd gan y Cynghorydd Dolphin ar y gwaith ardderchog a’r cynnydd a wnaed gan Swyddogion ac awgrymodd bod yr argymhellion yn yr adroddiad yn cael eu newid i adlewyrchu hyn.  Hefyd soniodd am y gwaith cadarnhaol a wnaed gan swyddogion mewn cydweithrediad â Chyfamod y Lluoedd Arfog.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Paul Shotton y Swyddogion am adroddiad cadarnhaol a llongyfarchodd Swyddogion ar y fenter i symleiddio’r strwythur tâl mynediad i’r Dyffryn a chanlyniad llwyddiannus y cais am Grant Teithio Llesol gan Lywodraeth Cymru. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes bod angen arwyddion gwell i Ddyffryn Maes Glas ar yr A55 fyddai’n annog mwy o ymwelwyr i’r ardal.    Roedd y Cynghorydd Carolyn Thomas yn cydnabod y pwynt a dywedodd y byddai’n mynd ar drywydd hyn yn dilyn y cyfarfod.

 

Siaradodd y Cynghorydd Chris Bithell am y dreftadaeth ddiwydiannol a gwerth hanesyddol Dyffryn Maes Glas a dywedodd ei fod yn bwysig fod pobl yn gallu cael mynediad rhwydd i'r Dyffryn a'r cyfleusterau sydd ar gael.    Awgrymodd y dylid rhoi ystyriaeth i ddarparu cludiant i bobl â phroblemau symud oedd naill ai’n methu cerdded neu feicio ar hyd llwybr y Dyffryn.    Roedd y Cynghorydd Carolyn Thomas yn cydnabod y sylwadau a chytunwyd y gellid ystyried yr awgrym os byddai cyllid ac adnoddau ar gael. 

 

Awgrymodd y Prif Swyddog bod adroddiad pellach i roi diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd i fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad archwilio diweddar yn cael ei gyflwyno mewn chwe mis a bod cyfarfod Archwilio yn cael ei gynnal yn y Dyffryn yn yr hydref. 

 

Roedd y Cynghorydd Paul Shotton yn cynnig yr argymhelliad gyda’r newid a awgrymwyd gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn croesawu’r diweddariad a’r cynnydd i fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad archwilio yn ddiweddar;

 

(b)       Bod pawb fu’n ymwneud â’r newidiadau yn cael eu llongyfarch gan y Pwyllgor;

 

(c)        Bod datganiad i’r wasg yn cefnogi’r cynnydd yn cael ei ddrafftio; a

 

(d)       Bod cyfarfod o’r Pwyllgor, i gynnwys diweddariad pellach ar fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad archwilio Dyffryn Maes Glas a thaith o           amgylch cyfleusterau’r dyffryn yn cael ei gynnal mewn chwe mis.

Awdur yr adroddiad: Andrew Farrow

Dyddiad cyhoeddi: 25/06/2019

Dyddiad y penderfyniad: 09/04/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/04/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Accompanying Documents: