Manylion y penderfyniad

Environmental Enforcement

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review the options for the future delivery of the Environmental Enforcement service.

Penderfyniadau:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad ar yr opsiynau ar gyfer darparu'r Gwasanaeth Gorfodi Amgylcheddol yn y dyfodol. Darparodd gontract y gwasanaeth â Kingdom. Roedd Kingdom wedi tynnu eu gwasanaethau'n ôl o ddiwedd mis Awst 2018.  Eglurodd y Prif Swyddog mai'r tîm o swyddogion gorfodi mewnol a oedd yn weddill a oedd yn cyflawni'r holl weithgarwch gorfodi o fewn y Sir ar hyn o bryd.  Nodai'r adroddiad y 5 opsiwn posibl er mwyn gorfodi polisïau amgylcheddol y gwasanaeth drwy'r sir. Gwahoddodd y Prif Swyddog Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd i gyflwyno'r adroddiad a'r arfarniad o opsiynau gorfodi a oedd wedi'i atodi.

 

            Yn dilyn yr argymhelliad i derfynu'r contract â Kingdom ac archwilio modelau gwahanol er mwyn cyflenwi'r gwasanaeth, dywedodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd yr aethpwyd ati i gysylltu â'r holl Awdurdodau yng Ngogledd Cymru i ddeall eu cynigion ar gyfer y dyfodol.  Yn debyg i'r Awdurdod hwn, gwelwyd bod Awdurdodau Lleol cyfagos yn cynnal adolygiad o'u gwasanaethau gorfodi ar hyn o bryd a bod pob opsiwn yn agored i'w ystyried. Adroddodd Rheolwr y Strategaeth Priffyrdd ar y 5 opsiwn sydd ar gael er mwyn gorfodi drwy'r sir, gan gyfeirio at y costau, y manteision a'r risgiau perthnasol yn gysylltiedig â'r modelau cyflenwi gwasanaeth yn y dyfodol.  Dywedodd mai Opsiwn 2 oedd yr opsiwn a ffafrir - Darpariaeth gorfodi fewnol well er mwyn cyflenwi'r gwasanaeth gorfodi amgylcheddol a pharcio ceir o fewn y Sir.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd David Evans y dylid cytuno ar Opsiwn 2 y amodol ar ddileu'r egwyddor dim goddefgarwch wrth gyflwyno Hysbysiadau Cosb Sefydlog am droseddau gollwng sbwriel.  Mynegodd y farn fod y risgiau'n gysylltiedig ag Opsiwn 3 yn gwrthbwyso'r manteision, ac na allai gefnogi'r opsiwn hwnnw.

 

            O ran gorfodaeth, esboniodd y Prif Swyddog fod swyddogion gorfodi yn derbyn canllawiau clir ar yr angen i orfodi yn erbyn digwyddiadau bwriadol, yn hytrach na digwyddiadau damweiniol.

 

            Siaradodd y Cynghorydd Paul Shotton o blaid Opsiwn 2 a'r cynnig i gyflogi 2 Swyddog Gorfodi arall i gyflenwi gwasanaeth  fyddai'n cynnwys pob rhan o'r Sir. Soniodd am yr angen i ymgysylltu â gwirfoddolwyr a grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth a helpu i ddatrys problem sbwriel sy'n cael ei ollwng mewn ardaloedd cymunedol lleol.  Cyfeiriodd at gost gorfodaeth amgylcheddol a gofynnodd a fyddai modd i'r Pwyllgor gael yr wybodaeth ddiweddaraf flwyddyn nesaf.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog y byddai'r gost o cyflogi 2 Swyddog Gorfodi arall yn creu pwysau ar y gyllideb.  Cydnabu'r sylwadau a gafwyd gan y Cynghorydd Shotton ynghylch cynnwys y gymuned leol yn y gwaith o 'dacluso' ardaloedd lleol, a dywedodd fod grwpiau a gwirfoddolwyr lleol yn cymryd rhan pan fyddai digwyddiadau lleol yn cael eu cynnal.  Dywedodd hefyd y gellid gofyn i gydgysylltwyr ardaloedd lleol ddefnyddio eu cysylltiadau yn y gymuned i ofyn am gymorth.

 

            Gofynnod y Cadeirydd a fyddai modd iddo gael gwybod pan fyddai swyddogion gorfodi yn ymweld â'i Ward. Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y byddai'r wybodaeth honno'n cael ei darparu.  Dywedodd y Prif Swyddog y byddai'n cysylltu â'r holl Aelodau i ofyn a fyddent hwy hefyd yn dymuno derbyn yr wybodaeth honno.

 

            Mynegodd y Cynghorydd Dave Hughes ei werthfawrogiad am ymateb cyflym ac effeithlon y tîm gorfodi er mwyn ymdrin â'r materion yr oedd wedi'u codi yn ei Ward.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Veronica Gay y dylai'r Awdurdod gysylltu â'r Cynghorau Tref a Chymuned i ofyn a fyddent yn ystyried ariannu swyddogion gorfodi ar y cyd, gyda golwg ar gynnal a chadw ardaloedd yn eu tref/cymuned eu hunain.  Yn ystod y drafodaeth, awgrymodd y Prif Swyddog mai'r opsiwn gorau fyddai i'r Cynghorau Tref a Chymuned gyflwyno cais i'r gwasanaeth gorfodi amgylcheddol os oeddent yn dymuno cael cymorth gorfodi yn eu hardal.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin at Opsiwn 3 - cydweithio ag awdurdodau cyfagos i gyflawni'r holl weithgarwch gorfodi ar sail ranbarthol, a gofynnodd a gafwyd unrhyw gynnydd yn gysylltiedig â hynny.  Eglurodd y Prif Swyddog fod Sir y Fflint wedi gwneud datganiad o fwriad ynghylch ei sefyllfa ond nad oedd unrhyw drafodaethau ffurfiol wedi cychwyn ag awdurdodau lleol eto.  Mewn ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd Dunbobbin, esboniodd y Prif Swyddog y gallai cydweithio ag awdurdodau lleol eraill i gyflenwi'r holl wasanaethau gorfodi amgylcheddol esgor ar arbedion yn y swyddfa gefn ac mewn systemau rheoli.

 

            Ymatebodd y Prif Swyddog a Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd i'r cwestiynau a'r sylwadau pellach a godwyd gan yr Aelodau ynghylch gorfodaeth amgylcheddol.  Rhoddodd swyddogion wybodaeth bellach am waith sifft, rôl cydgysylltwyr ardal leol, a gweithrediad ac egwyddorion y gwasanaeth. Dywedodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd y byddai'r gwasanaeth gorfodi amgylcheddol yn ymateb i geisiadau lleol er mwyn sicrhau darpariaeth gwasanaeth mor eang ag sy'n bosibl ar draws y Sir gyfan.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cynnig a wnaed gan y Cynghorydd David Evans, sef y dylid mabwysiadu Opsiwn 2 yn amodol ar ddileu'r egwyddor dim goddefgarwch yn gysylltiedig â chyflwyno Hysbysiadau Cosb Sefydlog am droseddau gollwng sbwriel.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Sean Bibby ac, yn dilyn pleidlais, fe'i cefnogwyd.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd David Evans y dylid adolygu Opsiwn 3 mewn 12 mis.  Eiliwyd a chefnogwyd hynny yn dilyn pleidlais.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Veronica Gay y dylai'r Awdurdod gysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned gyda golwg ar gydweithio i gyflogi swyddogion gorfodi amgylcheddol.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Haydn Bateman ac, yn dilyn pleidlais, fe'i cefnogwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y dylid mabwysiadu Opsiwn 2 yn amodol ar ddileu'r egwyddor dim goddefgarwch yn gysylltiedig â chyflwyno Hysbysiadau Cosb Sefydlog am droseddau gollwng sbwriel;

 

(b)       Y dylid adolygu Opsiwn 3 mewn 12 mis; ac

 

(c)        Y dylai'r Awdurdod gysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned lleol gyda golwg ar gydweithio wrth gyflogi swyddogion gorfodi amgylcheddol.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 21/03/2019

Dyddiad y penderfyniad: 27/11/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Accompanying Documents: