Manylion y penderfyniad
Gambling Act 2005 Review of Statement of Gambling Policy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trwyddedu
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu Adolygiad o Ddatganiad Polisi Gamblo Deddf Gamblo 2005 oedd yn darparu copi o’r polisi drafft oedd allan i ymgynghoriad.
Byddai’r polisi newydd angen dechrau ar 31 Ionawr 2019 yn unol â’r Ddeddf.
O ran y polisi, a sut y byddai’r Cyngor yn cyflawni’r swyddogaethau, mae’n rhaid i’r polisi gynnwys amcanion ar y canlynol:
· Atal gamblo rhag bod yn ffynhonnell o drosedd ac anhrefn, bod yn gysylltiedig â throsedd ac anhrefn, neu gael ei ddefnyddio i gefnogi trosedd;
· sicrhau bod gamblo’n cael ei wneud yn deg ac yn agored; ac
· Amddiffyn plant a phobl ddiamddiffyn eraill rhag niwed neu gamfanteisio drwy gamblo.
Mae’n rhaid i’r Cyngor Sir gymeradwyo’r polisi a gallai bara am gyfnod o dair blynedd. Mae’n rhaid ymgynghori gyda’r canlynol cyn ei gymeradwyo:
· Yr Heddlu;
· Yr Awdurdod Tân;
· Un neu ddau o bobl sy’n ymddangos i’r Awdurdod eu bod yn cynrychioli budd unigolion sy’n cynnal busnesau gamblo yn ardal yr Awdurdod; ac
· Un neu fwy o bobl oedd yn ymddangos i’r Awdurdod eu bod yn cynrychioli budd unigolion sy’n debyg o gael eu heffeithio gan arferion swyddogaethau'r Awdurdod o dan y Ddeddf.
Mynegodd y Cynghorydd Banks ei bryder am 3.3.6 o’r polisi oedd yn atgyfeirio at bobl ddiamddiffyn a theimlodd nad oedd yna ddigon o amddiffyniad iddynt. Eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu mai cyfrifoldeb pob lleoliad oedd cynnal eu hasesiadau risg eu hunain yn seiliedig ar weithdrefnau’r Cyngor; ni ellir eu pennu ond gellir eu cyfeirio i gyfeiriad Gamcare.
Mewn ymateb i ymrwymiad pellach gan y Cynghorydd Banks, eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu bod yr uchafswm betio arian ar gyfer peiriannau gemau’n cael eu pennu gan y Llywodraeth. Ychwanegodd y Cyfreithiwr os na chaiff y polisi ei gymeradwyo y byddai risg o adolygiad barnwrol gan fod y polisi yn seiliedig ar gyfraith y DU.
PENDERFYNWYD:
Nodi'r adroddiad.
Awdur yr adroddiad: Gemma Potter
Dyddiad cyhoeddi: 14/03/2019
Dyddiad y penderfyniad: 08/11/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/11/2018 - Pwyllgor Trwyddedu
Accompanying Documents: