Manylion y penderfyniad

Progression Model – Learning Disabilities

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive a report on the Learning Disabilities Progression model.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig Oedolion / Blynyddoedd Cynnar yr adroddiad yn amlygu’r gwaith sy’n cael ei wneud drwy’r Model Dilyniant i gefnogi pobl gydag anableddau i fod yn fwy annibynnol ac i ddibynnu llai ar wasanaethau cymorth y mae'n rhaid talu amdanynt. 

 

Rhoddodd yr Uwch Reolwr wybodaeth gefndirol ac eglurodd bod y Model Dilyniant yn seiliedig ar asesiadau cryfder sy’n gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer annibyniaeth, gan helpu defnyddwyr gwasanaeth i ddatblygu sgiliau byw'n annibynnol. Nod y model yw gwneud y mwyaf o annibyniaeth a gwneud gofal yn fforddiadwy drwy ddibynnu llai ar ofal tymor hir. Mae gweithwyr wedi'u hyfforddi ar bob lefel, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol a’r gweithlu uniongyrchol yn datblygu cynllun, a’r unigolyn yn cymryd camau bychain tuag at annibyniaeth. Dywedodd yr Uwch Reolwr fod yr Awdurdod wedi gweithio mewn partneriaeth gyda tri dyn ifanc a’u teuluoedd er mwyn datblygu model o fyw â chymorth gyda’r nod o gynyddu annibyniaeth, risg positif gyda diwylliant galluogi, gan ddefnyddio technoleg gynorthwyol a chymorth wedi’i deilwra’n bersonol. Ar hyn o bryd mae'r tri dyn ifanc yn byw bywydau amrywiol, annibynnol a diddorol. 

 

Rhoddodd yr Uwch-Reolwr ddiweddariad i ni ar y sefyllfa gyfredol a dywedodd fod 44 unigolyn wedi eu cefnogi gan ddefnyddio’r Model Dilyniant. Roedd y defnydd o'r Model yn cael ei ymestyn ar draws y Gwasanaethau Anableddau Corfforol a Dysgu a'r nod yw y byddai'r holl staff cymorth yn cael eu hyfforddi ac y byddai'n dod yn ddull arferol o arfer.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Uwch-Reolwr am ei diweddariad a gwahoddodd yr Aelodau i ofyn cwestiynau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hilary McGuill yngl?n â defnydd parhaol technoleg gynorthwyol i gefnogi unigolion, eglurodd yr Uwch-Reolwr bod y trefniadau cymorth electronig yn dal yn eu lle i sicrhau bod yr unigolion yn gallu cyflawni gweithgareddau dyddiol yn eu cartref yn effeithiol i gynnal eu lles a'u diogelwch.

 

Mynegodd y Cynghorydd Gladys Healey bryder ar yr angen am gydweddoldeb cymdeithasol lle roedd nifer o bobl yn byw gyda’i gilydd. Eglurodd yr Uwch-Reolwr bod y Model Dilyniant yn gweithredu mewn amgylchedd wedi ei gyd-gynhyrchu sy’n llwyr gynhwysol, gyda’r unigolion a’u teuluoedd yn rheoli cynlluniau yn llwyr. Soniodd am y gwaith paratoi cynhwysol oedd wedi ei wneud gan weithwyr cymdeithasol yngl?n a lleoliadau a’r dyletswydd gofal oedd wedi bod yn ei le drwy gydol y cytundeb.  

 

PENDERFYNWYD

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cydnabod manteision system gymorth sy’n hyrwyddo annibyniaeth ac yn defnyddio cymorth galluogi tymor byr lle bo'n briodol;

 

 (b)      Bod cymorth yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau gallu ymateb i newid mewn anghenion a dyheadau; a

 

 (c)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi ymestyn y Model Dilyniant yn seiliedig ar yr egwyddor bod gwasanaethau yn cael eu cyd-gynhyrchu gyda phobl gydag anableddau dysgu a’u rheini / gofalwyr er mwyn sicrhau bod cyfrifoldeb  dros gyflawni’r deilliannau gorau posib yn cael eu rhannu.

Awdur yr adroddiad: Neil Ayling

Dyddiad cyhoeddi: 12/02/2019

Dyddiad y penderfyniad: 15/11/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: