Manylion y penderfyniad

Learner Outcomes 2018 (Provisional)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To update on provision outcome achieved by learners in Flintshire for 2018 across all phases of Education.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) Mr David Edwards, Arweinydd Craidd Sir y Fflint ar gyfer ysgolion Cynradd, a Mr Martyn Froggett, Arweinydd Craidd Sir y Fflint ar gyfer ysgolion Uwchradd (GwE) i’r cyfarfod.  

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar y canlyniad dros dro a gyflawnwyd gan ddysgwyr Sir y Fflint ar draws pob cyfnod o Addysg yn 2018. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd, yn dilyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gyhoeddi asesiadau athrawon yn y dyfodol, nad oedd Llywodraeth Cymru bellach yn cyhoeddi data cymharol Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 ar lefel ysgol, awdurdod lleol a chonsortia ac felly, tu hwnt i gymhariaeth â chyfartaleddau cenedlaethol nid oedd gwybodaeth gymharol neu feincnodi ar gael. O ganlyniad i’r newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag adrodd data, cytunodd y Prif Swyddogion Addysg yng Ngogledd Cymru y byddai adroddiad craffu safonol yn cael ei lunio gan GwE er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r newidiadau a dull cyson ar draws y rhanbarth yn cynnwys yr holl setiau data. Mae trosolwg manwl o berfformiad Sir y Fflint wedi’i gynnwys yn yr  atodiad i'r adroddiad.

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau yn yr adroddiad a dywedodd, ar y cyfan, fod canlyniadau Sir y Fflint ar draws yr holl camau allweddol yn parhau i fod yn gryf a fod perfformiad yn cymharu'n dda â chyfartaleddau rhanbarthol a chenedlaethol. Tynnodd sylw at y diwygiad i arholiadau TGAU yng Nghyfnod Allweddol 4 ac effaith cyflwyniad cyfres o gymwysterau TGAU newydd mewn Gwyddoniaeth, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Eglurodd y Prif Swyddog fod newid sylweddol wedi bod i ffiniau graddau ers yr haf 2017 a mis Tachwedd 2017 o’i gymharu â'r haf 2018, yn enwedig i radd C mewn Saesneg a Mathemateg a oedd wedi ei gwneud yn anodd i ysgolion sicrhau rhagamcaniadau cywir a gosod targedau. Eglurodd fod y mater hwn yn destun cyfathrebu swyddogol rhwng Llywodraeth Cymru a Chymwysterau Cymru ar hyn o bryd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Rebecca Stark, cytunodd y Prif Swyddog i ddosbarthu copi o’r ymateb gan CBAC i lythyr a anfonwyd gan y Penaethiaid, i’r Pwyllgor. 

 

Cyfeiriodd Mr David Edwards at y newidiadau i’r meysydd dysgu yn y Cyfnod Sylfaen a dywedodd wrth gymharu â’r cyfartaleddau cenedlaethol, fod ysgolion yn Sir y Fflint yn perfformio’n dda. Dywedodd hefyd fod canlyniadau Cyfnod Allweddol 2 Sir y Fflint yn parhau i fod yn gryf a bod canran y disgyblion sy’n cyflawni’r lefelau disgwyliedig neu uwch yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer yr holl bynciau craidd. 

 

            Wrth drafod Arweinyddiaeth ysgolion, dywedodd Mr Edwards fod diddordeb parhaus mewn athrawon a oedd yn ymgeisio am swyddi arweinyddiaeth neu brifathrawiaeth a dywedodd fod y canran o ymgeiswyr o Sir y Fflint yn uwch na rhanbarthau eraill.

 

Rhoddodd Mr Martyn Froggett wybodaeth gyd-destunol o ran Cyfnod Allweddol 4 a dywedodd, er i’r wybodaeth gychwynnol am ganlyniadau gael ei rhannu nid oedd mynediad, hyd yma, at ddata cymharol a meincnodi.  Dywedodd hefyd fod perfformiad ysgolion Sir y Fflint ar y rhan fwyaf o’r dangosyddion perfformiad yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o’i gymharu â 2017 (yn seiliedig ar ddata dros dro).  Eglurodd fod y perfformiad dirywiol yn Saesneg yn destun trafodaethau parhaus gyda Chymwysterau Cymru a CBAC yn dilyn pryderon difrifol a godwyd gan ysgolion ar draws y rhanbarth lle'r oedd perfformiad ysgolion wedi’i effeithio gan amser cyflwyno a chynnydd yn y gofynion ar gyfer ffiniau graddau yn arholiadau’r Haf. Effeithiodd hyn hefyd ar berfformiad ar lefel 2+ lle’r oedd Saesneg yn rhan allweddol o’r mesur.

 

Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan Rebecca Stark ar effaith y newid i ffiniau graddau ar ddisgyblion, cyfeiriodd y Prif Swyddog at y pryderon a godwyd gan Benaethiaid yn ystod cyfarfod diweddar y Ffederasiwn Penaethiaid Uwchradd a dywedodd y byddai’n ceisio caniatâd gan y Ffederasiwn i rannu’r llythyr a anfonodd at CBAC â’r Pwyllgor. 

 

Bu i’r Prif Swyddog gydnabod y sylwadau pellach a wnaed gan y Cynghorydd Dave Mackie ar effaith y newid i ffiniau graddau a’i bryderon fod disgyblion wedi cael cam gan y system.    Dywedodd fod ymateb wedi’i dderbyn gan CBAC yn trafod y pryderon dybryd a fynegwyd gan ysgolion Sir y Fflint a GwE a dywedodd fod hyn yn cael ei drafod ar hyn o bryd a byddai lobïo yn erbyn y newid yn parhau. Yn dilyn cais gan Rebecca Stark, cytunodd y Prif Swyddog i ddosbarthu copi o’r ymateb gan CBAC i’r Pwyllgor. 

 

Awgrymodd y Cynghorydd Paul Cunningham y dylid anfon llythyr at CBAC i amlinellu pryderon y Pwyllgor. Cynigodd y Cynghorydd Ian Roberts fod cynrychiolwyr o CBAC yn cael eu gwahodd i gyfarfod y Pwyllgor er mwyn galluogi aelodau i fynegi eu pryderon ar y mater o newid ffiniau graddau a’r monopoli a gedwir gan CBAC. Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Hwylusydd, ar ran y Cadeirydd, yn ysgrifennu at CBAC i wahodd cynrychiolydd i gyfarfod yn y dyfodol i drafod y newid diweddar i ffiniau graddau Saesneg a monopoli CBAC. Yn dilyn awgrym pellach gan y Cynghorydd Ian Roberts, cytunodd y Pwyllgor, pe bai CBAC yn derbyn y gwahoddiad, byddai gwahoddiad hefyd yn cael ei anfon at y Ffederasiwn Penaethiaid Uwchradd i enwebu cynrychiolydd / cynrychiolwyr i fynychu’r cyfarfod i amlinellu eu pryderon i’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod cyrhaeddiad plant a phobl ifanc Sir y Fflint ar gyfer 2017-18 yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3, a'r data dros dro ar gyfer Cyfnod Allweddol 4  yn cael ei nodi; a

 

 (b)     Bod y Pwyllgor yn gwahodd cynrychiolydd o CBAC a chynrychiolydd o     Ffederasiwn Penaethiaid Uwchradd i fynychu cyfarfod yn y dyfodol i         drafod y newid diweddar i ffiniau graddau Saesneg a monopoli CBAC.

Awdur yr adroddiad: Claire Homard

Dyddiad cyhoeddi: 07/03/2019

Dyddiad y penderfyniad: 01/11/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid

Accompanying Documents: