Manylion y penderfyniad

Application for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a’i ddarpar gyflogwr i’r cyfarfod.  Cyflwynodd aelodau’r Is-bwyllgor ac eglurodd y drefn ar gyfer y gwrandawiad, gan gynnwys sut y byddai’r cais yn cael ei benderfynu.

 

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd).  Roedd y cais wedi’i gyflwyno ger bron yr Is-bwyllgor oherwydd natur rhybuddiad yr ymgeisydd, a’r ffaith fod llai na phum mlynedd ers iddo ei dderbyn.

 

Gofynnodd y Cadeirydd, aelodau’r Is-bwyllgor a’r Cyfreithiwr gwestiynau i’r ymgeisydd oedd yn ymwneud yn benodol â’r euogfarn am aflonyddu, ac fe ymatebodd yntau.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i wneud sylwadau.  Rhoddodd fanylion y cefndir a arweiniodd at y drosedd fel yr amlinellwyd yn y ffurflen gais ac ar y ffurflen DBS.  Eglurodd yr amgylchiadau esgusodol a arweiniodd iddo ymateb i sefyllfa mewn ffordd a oedd yn anghydnaws â'i gymeriad.  Eglurodd nad oedd erioed wedi bod mewn trafferth gyda’r heddlu cyn hynny, nac wedyn, a’i fod wedi bod yn brofiad trawmatig iddo.

 

Rhoddodd fanylion ei waith blaenorol, oedd wedi bod gyda’r un cwmni ers 20 mlynedd, a’i fod wedi gweithio ers gadael yr ysgol pan gychwynnodd ar brentisiaeth.  Roedd yn teimlo ei fod yn weithiwr diwyd, da oedd yn dod ymlaen yn dda â phobl; roedd nifer o bobl wedi dweud wrtho y byddai’n gwneud gyrrwr tacsi da.  

 

Gwahoddodd y Cadeirydd ddarpar gyflogwr yr ymgeisydd i siarad.  Dywedodd ei fod wedi adnabod yr ymgeisydd ers blynyddoedd lawer, ac mai ef oedd y person mwyaf digyffro yr oedd yn ei adnabod.  Dywedodd fod diogelwch cwsmeriaid yn hollbwysig i'w gwmni tacsis a'i fod yn ymddiried yn yr ymgeisydd yn y rôl honno.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Is-bwyllgor, eglurodd yr ymgeisydd agweddau ar ei euogfarn, gan gynnwys manylion ei fywyd personol.  Dywedodd ei fod yn ei ystyried ei hun yn unigolyn cymwys ac addas.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon y gofynnwyd yr holl gwestiynau perthnasol, gofynnodd i’r ymgeisydd, ei ddarpar gyflogwr ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra bod yr Is-bwyllgor yn dod i benderfyniad. 

 

Penderfyniad

                      

Wrth benderfynu ar y cais, ystyriodd yr Is-bwyllgor y sylwadau  a wnaed ac amgylchiadau'r euogfarn am aflonyddu.  Teimlai’r Is-bwyllgor fod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod a rhoi gwybod am y penderfyniad.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, ac y dylid caniatáu’r Drwydded.  

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 17/09/2019

Dyddiad y penderfyniad: 08/10/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/10/2018 - Is-bwyllgor Trwyddedu

  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  •