Manylion y penderfyniad

Request for Co-option to the Education & Youth Overview & Scrutiny Committee

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad a gyflwynwyd i gael cytundeb mewn egwyddor i aelod o Gyngor Ieuenctid Sir y Fflint fod yn bresennol a chymryd rhan yng nghyfarfodydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid. 

 

            Gofynnodd Cynghorydd Mike Peers pryd oedd y cais yn cael ei wneud a pha ddisgwyliadau a ragwelid o ran y cynrychiolydd a fyddai’n bresennol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor.

 

            Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai gan y cynrychiolydd rôl anstatudol heb unrhyw hawl i bleidleisio, ond byddai’n gallu siarad. Byddai’r Pwyllgor hefyd yn elwa ar glywed persbectif person ifanc. Roedd yn rhagweld trefniant cyfatebol gyda’r pwyllgor craffu a’r Cyngor Ieuenctid yn elwa ar y profiad.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Chris Bithell y syniad ar gyfer y Pwyllgor Addysg ac Ieuenctid a holodd a fyddai’r sawl a gâi ei enwebu neu ddirprwy’r Cyngor Ieuenctid yn gallu codi materion i’w cynnwys ar yr agenda.

 

            Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n gallu gwneud hynny. Aeth yn ei flaen i egluro’r protocolau ymgysylltu cyhoeddus oedd yn galluogi i unrhyw aelod o’r cyngor fynychu, arsylwi a siarad mewn pwyllgorau.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Dave Healey yr awgrym, felly hefyd yr Aelodau eraill.  

 

            Awgrymodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y gallai Alison Thomas a Kate Glover- Jones o’r Gwasanaeth Ieuenctid oedd yn bresennol, egluro sut byddai’r trefniadau cyfethol yn gweithio. Dywedodd Ms Thomas y byddai’r cynrychiolydd yn fwy na thebyg yn astudio gwleidyddiaeth yn yr ysgol ac y byddai’n cael amser i ffwrdd fel rhan o’r cwrs. Byddai gwaith y Cyngor Ieuenctid yn edrych ar waith yr Awdurdodau Lleol. Eglurodd Ms Thomas nad oedd y Cyngor Ieuenctid yn barod eto i enwebu a chyfethol rhywun, ond roedd yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth oedd ar gael drwy’r cytundeb mewn egwyddor.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Marion Bateman fod y Pwyllgor yn arsylwi un o gyfarfodydd y Cyngor Ieuenctid.

 

            Cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r aelod newydd a gâi ei gyfethol yn cael yr un sesiwn gynefino ag aelodaeth eraill oedd yn cael eu cyfethol, i egluro prosesau’r pwyllgor ac y byddai’n cael ei briffio/friffio’n llawn.  Aeth yn ei flaen i awgrymu cafeat pe bai’r Cyngor Ieuenctid yn dod i ben, y byddai’r trefniant cyfethol hefyd yn dod i ben.

 

            Roedd y Cynghorydd Jean Davies yn cefnogi’n llawn y trefniant cyfethol ac awgrymodd fod mentor yn cael ei benodi i helpu Cynrychiolydd y Cyngor Ieuenctid.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cytuno mewn egwyddor â chyfethol cynrychiolydd o’r Cyngor Ieuenctid i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid, gyda chafeat pe bai’r Cyngor Ieuenctid yn dod i ben, y byddai’r trefniant cyfethol hefyd yn dod i ben.

 

 

 

           

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 29/01/2019

Dyddiad y penderfyniad: 17/10/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/10/2018 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Accompanying Documents: