Manylion y penderfyniad
North Wales Standards Forum
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Julia Hughes ei hadroddiad ar y Gynhadledd Safonau a gynhaliwyd 14 Medi 2018, roedd copïau o’r adroddiad wedi eu cylchredeg cyn y cyfarfod. Tra bo’r adroddiad yn cynnwys ei chanfyddiadau ei hun o'r gynhadledd, roedd yn cydnabod y byddai pawb wnaeth fynychu â'u safbwyntiau eu hunain a gwahoddddd gynrychiolwyr eraill y Pwyllgor a fynychodd i gyfrannu.
Amlygodd rai o'r pwyntiau allweddol a godwyd gan y siaradwyr, gan gynnwys cynrychiolwyr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Phanel Dyfarnu Cymru.
Soniodd y Cynghorydd Heesom am y nifer isel o aethodau etholedig oedd yn bresennol yn y gynhadledd, yr oedd yn teimlo oedd wedi ei chadeirio yn effeithiol gan y Swyddog Monitro. O safbwynt trafodaeth ar ollyngiadau, roedd yn teimlo y dylai'r Gr?p Strategaeth Cynllunio adolygu'r broses yn Sir y Fflint, gan ystyried y gwaith a wnaed gan Gyngor Gwynedd ar ddalgylchoedd o safbwynt ardaloedd ceisiadau. Wrth egluo’r dull gweithredu yn Sir y Fflint, cytunodd y Swyddog Monitro i gysylltu â Chyngor Gwynedd ac adrodd yn ôl am y canfyddiadau yn y cyfarfod nesaf lle bydd cyfle i wneud hynny. Awgrymodd y Cadeirydd ein bod yn cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar yr un mater.
Cytunodd y Swyddoog Monitro i gylchredeg dolen i’r wefan lle roedd papurau a chlipiau fideo o'r gynhaldedd ar gael.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad.
Awdur yr adroddiad: Sharon Thomas
Dyddiad cyhoeddi: 18/12/2018
Dyddiad y penderfyniad: 01/10/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/10/2018 - Pwyllgor Safonau