Manylion y penderfyniad
Adjudication Panel for Wales Sanctions Guidance
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
That the Committee notes the content of the guidelines.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad ar ganllawiau sancsiynau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Banel Dyfarnu Cymru, i’w defnyddio pan fyddai tribiwnlys achos neu dribiwnlys apêl yn canfod fod cynghorydd wedi torri Cod Ymddygiad Aelodau. Manylwyd ar bum pwrpas y canllaw yn ogystal â’r dull gweithredu pum cam ar gyfer penderfynu ar gosb.
Wrth gofio trafodaeth yn y Gynhadledd Safonau, eglurodd y Swyddog Monitro mai er mai nifer fechan o achosion sy’n cyrraedd y cam tribiwnlys, roedd amrywiaeth ehangach o sancsiynau addas ar gael i’w defnyddio yn Lloegr. Tra na allai Panel Dyfarnu Cymru ymgyrchu dros newid i ddedfwriaeth yng Nghymru, roedd yn bosib y gallai cyngohrau wneud eu sylwadau eu hunain. Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai cyflwyno'r Bil Llywodraeth Leol (Cymru) y flwyddyn nesaf yn rhoi cyfle i fabwysiadu newid o’r fath ac y gallai'r Pwyllgor, pe dymunent, ystyried ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi sylwadau ar hyn.
Wrth gynnig yr awgrym hwn fel argymhelliad ychwanegol, dywedodd y Cynghorydd Woolley y gallai rhoi mwy o opsiynau i baneli o ran sancsiynau leihau'r broses.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys y canllawiau;a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r amrywiaeth o sancsiynau a hyblygrwydd sy'n bodoli yn Lloegr drwy ysgrifennu at Lywodraeth Cymru.
Awdur yr adroddiad: Chief Officer (Governance) (Tracey Cunnew)
Dyddiad cyhoeddi: 18/12/2018
Dyddiad y penderfyniad: 01/10/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/10/2018 - Pwyllgor Safonau
Accompanying Documents: