Manylion y penderfyniad
Public Services Ombudsman for Wales Annual Report for 2017/18
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad oedd yn crynhoi prif faterion Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o safbwynt safonau cynghorau sir a thref / cymuned. Atodwyd manylion am gwynion Cod Ymddygiad ar gyfer pob cyngor at yr adroddiad.
Nodwyd y bu cynnydd o 14% mewn cwynion Cod Ymddygiad a hynny yn bennaf oherwydd cynnydd sylweddol mewn cwynion am ymddygiad cynghorwyr tref / cymuned, gyda'r rhan fwyaf yn ymwneud â hyrwyddo cydraddoldeb a pharch. Tra bo’r rhan fwyaf o gwynion Cod Ymddygiad wedi eu cau ar ol eu hystyried am y tro cyntaf, bu gostyngiad yn y nifer o gwynion oedd yn cael eu cau ar ol ymchwiliad llawn. O’r tri achos oedd wedi eu hatgyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru, cafwyd fod dau ohonynt yn achosion difrifol.
Atgoffodd y Swyddog Monitro fod gwybodaeth fanwl ar gael yn Llyfr Achosion yr Ombwdsmon. Er y bu cynnydd yn y nifer o gwynion, roedd hyn yn dal yn ganran isel o ystyried y nifer o gynghorau tref / cymuned yng Nghymru. Nodwyd bod yr ystadegau a nodwyd ym mhob adroddiad blynyddol yn cynnwys peth achosion oedd yn cario drosodd o flwyddyn i flwyddyn.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Johnson ar natur amrywiol y cwynion, dywedodd y Swyddog Monitro bod cyflwyno’r Gweithdrefnau Datrysiadau Lleol wedi bod o gymorth i hidlo cwynion lefel isel.
Pan holodd Phillipa Earlam, dywedodd y Swyddog Monitro mai nifer isel o gwynion oedd wedi eu derbyn yn Sir y Fflint ac y byddai diweddariad yn cael ei roi ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r materion sy’n ymwneud â Chwynion Cod Ymddygiad a adroddwyd yn Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Awdur yr adroddiad: Chief Officer (Governance) (Tracey Cunnew)
Dyddiad cyhoeddi: 18/12/2018
Dyddiad y penderfyniad: 01/10/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/10/2018 - Pwyllgor Safonau
Accompanying Documents: