Manylion y penderfyniad

Active Global Equity Transition

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Esboniodd Mr Latham fod Partneriaeth Pensiynau Cymru wedi cymeradwyo dau fandad ecwiti hollgynhwysol ar gyfer y platfform y gall y Gronfa fuddsoddi ynddo. Wedi trafod ag ymgynghorwyr y Gronfa, argymhellwyd y dylid trosglwyddo dyraniad y Gronfa i’r Gronfa Cyfleoedd Hollgynhwysol, yn rhannol am y bydd y costau’n llai; roedd yr adroddiad yn cynnwys mwy o wybodaeth yngl?n â’r penderfyniad.

 

Dywedodd Mr Hibbert ei fod yn fodlon â’r cynnig cyntaf roedd y Pwyllgor wedi’i weld, gan y byddai’r Gronfa ar ei hennill ymhob ffordd, gan gynnwys arbed arian. Fodd bynnag, holodd beth fyddai’n digwydd pe byddai’r cynnig nesaf yn un lle byddai'r Gronfa ar ei cholled ymhob ffordd.  Dywedodd Mr Latham y byddai’n hysbysu’r Pwyllgor pe byddai unrhyw asedau mewn perygl neu'n perfformio’n wael.  

 

Ychwanegodd Mrs McWilliam fod MHCLG wedi'i gwneud yn eglur y dylid cyfuno asedau, er gwaethaf y ffaith y byddai rhai cronfeydd ar golled, gan y byddai'r rhan fwyaf ar eu hennill. Nid oedd unrhyw sicrwydd o hynny, fodd bynnag.  Dywedodd fod MHCLG yn bwriadu ailysgrifennu'r canllawiau ar gyfuno.

 

Dywedodd Mr Harkin na ddylai’r gronfa gyfun bennu strategaeth fuddsoddi Cronfa Bensiynau Clwyd. Dylai’r gronfa gyfun gynnig digon o ddewisiadau i’r Gronfa. Y peth allweddol oedd y dylai’r gronfa gyfun fedru cyflawni’r strategaeth gyffredinol, gan mai hynny oedd yn cyfrannu fwyaf at adenillion a risg.

 

Dywedodd Mr Hibbert y dylai’r Gronfa bob amser bwyso a mesur y manteision ac anfanteision cyn symud arian i'r gronfa gyfun. Yn yr achos penodol hwn roedd yn benderfyniad da i'r Gronfa, ond byddai'n anodd i'r Pwyllgor gymeradwyo buddsoddiad drwy'r gronfa gyfun a fyddai’n cynhyrchu llai o adenillion na’r disgwyl ac yn costio mwy. Dywedodd Mr Everett fod angen ystyried pob achos yn ôl ei rinweddau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)           Cadarnhaodd y Pwyllgor y penderfyniad i fuddsoddi yng Nghronfa Cyfleoedd Ecwiti Hollgynhwysol Partneriaeth Pensiynau Cymru, a ariennir drwy’r mandad ecwiti hollgynhwysol gweithredol cyfredol gydag Investec Asset Management.

(b)           Yn unol â gofynion yr IAA yngl?n â materion wedi’u neilltuo, fel y bônt yn berthnasol i amseriad y newid, cytunodd y Pwyllgor y dylid trosglwyddo’r asedau yn y misoedd i ddod ar sail cyngor rheolwr newid arbenigol.

(c)            Dirprwyodd y Pwyllgor y dasg o bennu union amser y trosglwyddiad i’r swyddogion hynny o Gronfa Bensiynau Clwyd oedd yn aelodau o'r Gweithgor Swyddogion, ar ôl ystyried cyngor y rheolwr newid arbenigol.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 28/01/2019

Dyddiad y penderfyniad: 05/09/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: