Manylion y penderfyniad

Pension Administration/Communications Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Ymunodd Mrs Beales â’r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon ar yr agenda, a chafodd ei rhoi ar ben y ffordd o ran gweinyddu. Dywedodd y bu newyddion da yngl?n â Hunanwasanaeth i’r Aelodau, wedi i 1,000 o aelodau gofrestru ar gyfer y gwasanaeth ers pan gyfarfu’r Pwyllgor ddiwethaf o ganlyniad i'r swyddog cyfathrebu’n hyrwyddo’r manteision.

 

Ychwanegodd Mrs Beales y pwyntiau allweddol canlynol:

 

  • Yr elfennau ychwanegol o ran y gyflogres.
  • Anfonwyd y datganiad buddion blynyddol at y rhan helaeth o'r aelodau gyda dim ond ychydig ohonynt ar ôl.
  • Roedd newidiadau mewn rheoliadau a dyfarniadau yn yr Uchel Lys yn ddiweddar wedi creu mwy o waith i’r tîm gweinyddu.
  • Caiff dangosyddion perfformiad allweddol eu mesur bob mis, a methwyd â chyrraedd y safonau a gytunwyd y mis hwn.

Hefyd, ni lwyddodd y Gronfa i gyflawni ei dyletswyddau cyfreithiol. Y rheswm am hynny oedd trafferthion gyda diffyg staff a materion rheoli, ac roedd y tîm gweinyddu’n ymchwilio i hynny er mwyn gwella perfformiad.

 

Cadarnhaodd Mr Everett y byddai penderfyniadau'n dilyn yn fuan o ran sicrhau adnoddau ar gyfer y Gronfa; fodd bynnag, roedd angen bod yn ofalus i beidio â recriwtio gormod o staff i ymdrin â gwasgfeydd tymor byr. 

 

Awgrymodd Mr Hibbert y byddai’n fuddiol meddwl am y tymor hir, a chreu strwythur a systemau yn awr ar gyfer y dyfodol, er mwyn cyfrannu at ddatrys y trafferthion yn y pen draw. Credai y dylid mynd at i sefydlu strwythur cadarn. Cadarnhaodd Mr Everett fod angen diogelu pob agwedd ar wasanaethau rhag datblygiadau yn y dyfodol, gan gynnwys y Gronfa Bensiynau.   Roedd y cynlluniau busnes a threfn lywodraethu gyffredinol y Gronfa yn ymdrin â hyn.

 

Holodd y Cynghorydd Palmer yngl?n â’r cyfeiriad yn yr argymhellion at gymudiadau dibwys. Esboniodd Mrs Beales y cefndir. Argymhellodd Mr Latham bod y Pwyllgor yn gohirio’r prosiect hwn tan 2019/20.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad a rhoi sylwadau;

 

(b)          Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r elfennau ychwanegol o ran y gyflogres, oedd i fod i ddechrau yn chwarter cyntaf 2018/19, yn ymestyn hyd drydydd chwarter 2018/19.

 

(c)        Cytunodd y Pwyllgor y dylid gohirio’r prosiect Cymudiadau Dibwys, oedd i fod i ddechrau yn ail chwarter 2018/19, hyd chwarter cyntaf 2019/20.

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 28/01/2019

Dyddiad y penderfyniad: 05/09/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: