Manylion y penderfyniad

Clwyd Pension Fund Draft Annual Report 2017/18.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

          Aeth Mrs Fielder drwy’r eitemau hynny yn yr Adroddiad Blynyddol oedd eisoes wedi’u cwblhau. Yn ôl yr arfer, cwblheid yr adroddiad blynyddol cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ac roedd gofyn i’r cyflogwyr a’r Aelodau ddirprwyo'r dasg o gwblhau’r adroddiad yn derfynol i Reolwr Cronfa Bensiynau Clwyd. Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys holl ddogfennau statudol ac arferion gorau’r Gronfa, ac roedd popeth wedi’i ddiweddaru.

 

Cyflwynodd Ymgynghorydd Buddsoddiadau ac Actiwari’r Gronfa eu hadroddiadau blynyddol hwythau i’r Pwyllgor

 

Yn sgil hynny, gofynnodd yr Aelodau rai cwestiynau.

 

            Holodd Mr Hibbert pam fod y ffioedd rheoli buddsoddiadau bron wedi treblu, heb i’r asedau gynyddu yn yr un modd. Dywedodd Mrs Fielder mai’r rheswm pennaf am hynny oedd bod y rheolwyr craidd i gyd yn cyflwyno’r ffioedd mewn ffordd fwy tryloyw. Roedd mwy o reolwyr yn y farchnad breifat yn darparu gwybodaeth, er nad oeddent yn rhwym i God Tryloywder Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol, a byddai hynny’n dal i wella dros amser. Nododd bod y Gronfa'n trafod ffioedd gyda rheolwyr ac yn ceisio'u cadw mor isel â phosib.

Holodd y Cynghorydd Bateman beth oedd y gwahaniaeth rhwng ymgynghorydd a chynghorwr, ar sail tudalen 79. Dywedodd Mrs Fielder fod Mrs McWilliam (Aon Hewitt) yn rhoi cyngor ar lywodraethu, tra bod JLT a Mercer yn ymgynghorwyr.

 

Holodd y Cynghorydd Bateman hefyd a fyddai’r ffioedd rheoli buddsoddiadau’n gostwng wedi cyfuno’r cronfeydd. Dywedodd Mr Latham y byddai’r ffioedd yn gostwng ychydig.

 

Holodd Mr Hibbert a ellid darparu graff i ddangos y llif arian i mewn ac allan o’r Gronfa.  Dywedodd hefyd y byddai’n ddefnyddiol wrth adrodd ar berfformiad i nodi gwerth y buddsoddiadau yn ogystal â'r newid ar ffurf canran (hynny yw, gallai cynnydd o 8% mewn un rhan o’r portffolio ymddangos yn fawr, ond efallai mai dim ond cyfran fechan o’r Gronfa fyddai hynny). Cadarnhaodd Mr Buckland fod hwn yn bwynt dilys ac y rhoddid sylw iddo wrth baratoi’r Adroddiad Blynyddol nesaf.

 

Dywedodd Mr Everett y bu hi’n flwyddyn dda a bod y tîm wedi gwneud ymdrech lew.  Fe gynhelid adolygiad cyllid cyn bo hir er mwyn ystyried cyfraniadau’r cyflogwyr o 2020 ymlaen, a byddai yno nifer o heriau yn y strategaeth weinyddu. Serch hynny, fe fu’n flwyddyn lwyddiannus mewn cyfnod heriol lle bu llawer iawn o ddiwygio.

 

Cytunodd pob aelod o’r Pwyllgor â’r argymhellion. Gadawodd yr Archwilwyr Allanol y cyfarfod ar yr adeg hon.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mrs Fielder am ei holl waith caled ar gyfer yr Adroddiad Blynyddol.

 

PENDERFYNWYD:

Nododd yr Aelodau’r rhannau drafft o’r Adroddiad Blynyddol heb eu harchwilio, gan gynnig sylwadau, a dirprwyont y dasg o gwblhau’r Adroddiad terfynol i Reolwr Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 28/01/2019

Dyddiad y penderfyniad: 05/09/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: