Manylion y penderfyniad
Employer Care Pay Issue
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Mr Latham adroddiad ar fater oedd yn effeithio ar daliadau i aelodau Cronfa Bensiynau Clwyd. Roedd yr adroddiad yn cynnwys yr egwyddorion cytûn o ran datrys y mater a chyfathrebu yn ei gylch.
PENDERFYNWYD:
(a) Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.
(b) Cytunodd y Pwyllgor y dylid dirprwyo rheolaeth barhaus o Gronfa Bensiynau Clwyd, ynghyd ag unrhyw benderfyniadau ar y mater hwn, i Reolwr Cronfa Bensiynau Clwyd.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am ddod i’r cyfarfod ac am eu cyflwyniadau, gan nodi y cynhelid y Cyd-gyfarfod Ymgynghorol Blynyddol ar 6 Tachwedd. Gobeithiai y gallai aelodau o’r Pwyllgor fod yn bresennol. Nodwyd y cynhelid cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 28 Tachwedd.
Daeth y cyfarfod i ben am 1:00pm.
……………………………………
Cadeirydd
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 28/01/2019
Dyddiad y penderfyniad: 05/09/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd