Manylion y penderfyniad

Funding and Flight Path Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

                      Rhannodd Mr Middleman yr wybodaeth ddiweddaraf â’r Pwyllgor yngl?n â chyllido, gan gadarnhau mai 89% oedd y lefel cyllido ddiwedd mis Mawrth. Roedd yn 92% ddiwedd mis Gorffennaf ac wedi aros mwy neu lai’r un fath, ac roedd hynny’n newyddion da i’r Gronfa.

 

Esboniodd fod Mercer wrthi’n paratoi Adolygiad Cyllido Interim ar gyfer y Gronfa, gan gynnwys modelu’r hyn a ddisgwylir yn y dyfodol o ran chwyddiant ac elw ar fuddsoddiadau (uwchlaw chwyddiant), gan ystyried yr ansicrwydd sydd ohoni yn wleidyddol ac yn economaidd. Pe byddai'r rhagolygon yn awgrymu gostyngiad, byddai’n arwain at ostwng y lefel cyllido. Byddai adroddiad yngl?n â’r adolygiad cyllido interim yn dod gerbron y Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf, a byddai cyflwyniad yn ei gylch yn y Cyd-gyfarfod Ymgynghorol Blynyddol.

 

Yna rhoddodd Mr Middleman grynodeb o’r gweithgarwch ynghylch y strategaeth Llwybr Hedfan.  Eto, ni chyrhaeddwyd unrhyw bwyntiau sbardun o ran cynnyrch ers ailstrwythuro’r pwyntiau sbardun o ran y gyfradd llog.  Fodd bynnag, gallai ansefydlogrwydd yn y farchnad ddod â phethau’n nes at y pwyntiau sbardun, ac roedd Insight yn cadw golwg fanwl ar hyn.

 

Roedd y Strategaeth Llwybr Hedfan wedi perfformio’n dda, ac ar ben rhoi’r gorau i fasnachu gwerth cymharol, roedd hynny’n rhoi cyfle i ryddhau rhywfaint o gyllid, efallai hyd at £100 miliwn i’w fuddsoddi rhywle arall, neu ei roi ar waith yn fwy effeithiol o fewn mandad Insight. Nodwyd na fyddai hynny’n effeithio ar y sefyllfa o ran risg yn y strategaeth Llwybr Hedfan.   Câi’r dewisiadau eu trafod yn yr wythnosau i ddod a byddai adroddiad yn dod yn ôl i'r Pwyllgor.

 

Yn olaf, rhannodd Mr Middleman yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r strategaeth ecwiti deinamig newydd a weithredwyd ar 24 Mai 2018. Byddai hyn yn diogelu’r Gronfa drwy ddilyn symudiadau yn y farchnad dros gyfnod treigl o ddeuddeg mis. Byddai’r strategaeth ddeinamig hon yn diogelu’r Gronfa pe byddai buddsoddiadau mewn marchnadoedd ecwiti drwy blatfform Insight yn gostwng 15% ar gyfartaledd. Rhoddid ystyriaeth i’r gostyngiad mewn risg wrth drafod cyfraniadau cyflogwyr rhag diffyg, a allai olygu pasio’r gostyngiad ymlaen (os bydd popeth arall yn aros fel y maent), a hynny oedd y rheswm pennaf dros weithredu’r strategaeth.

 

Ychwanegodd y Cadeirydd ei bod yn braf clywed fod y Strategaeth Llwybr Hedfan yn dal i lwyddo.

 

PENDERFYNWYD:

 

a)         Nododd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â chyllido a’r sefyllfa o ran mantoli, a’r cynnydd a wnaed ar y gwahanol elfennau o'r Fframwaith Rheoli Risg.

 

(b)       Nododd y Pwyllgor y strategaeth Buddsoddiad a Ysgogir gan Rwymedigaeth a oedd wrthi’n cael ei hailwampio er mwyn crisialu’r elw ‘marc i’r farchnad’.

(c)        Nododd y Pwyllgor fod y Swyddogion yn gweithio â’u cynghorwyr i ganfod meysydd posib y gellid buddsoddi ynddynt os rhyddheid £100 miliwn mewn arian parod, oherwydd perfformiad da’r strategaeth Llwybr Hedfan yn gyffredinol.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 28/01/2019

Dyddiad y penderfyniad: 05/09/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: