Manylion y penderfyniad
Economic and Market Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Rhoddodd Mr Harkin yr wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor yngl?n â’r economi a’r farchnad yn y chwarter aeth heibio. Ar dudalen 247 roedd braslun o ystadegau’r farchnad dros gyfnodau o dri mis, blwyddyn a thair blynedd, lle bu’r ffigurau’n cynyddu’n sylweddol o ran asedau twf.
Amlygodd Mr Harkin y materion allweddol canlynol:
- Cafodd ecwitïau chwarter da eto, er gwaethaf yr ansefydlogrwydd o ddydd i ddydd,
- Bu mis Medi’n ansefydlog yn barod, ac roedd unrhyw enillion yn tueddu o ddod o asedau twf,
- Roedd ecwitïau’r Deyrnas Gyfunol a Gogledd America’n gryf,
- Bu marchnadoedd newydd a marchnadoedd ymylol yn wannach, gyda gwasgfeydd ariannol yn dod o Tsieina, Twrci ac Ariannin,
- Roedd marchnadoedd datblygedig ar dwf, ond roedd marchnadoedd newydd bellach yn crebachu, yn wahanol i 2017 pan oedd y ddau’n perfformio’n dda yn gyson,
- Roedd yr asedau bond yn adlewyrchu cyfres o adenillion negyddol, gyda chynnyrch yn cynyddu a’r asedau’n rhatach,
- Roedd sterling dan gryn bwysau oherwydd y trafodaethau ynghylch ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ond roedd yr adenillion yn dda gydag ecwitïau’r Deyrnas Gyfunol gan mai cwmnïau rhyngwladol yw’r rhai mwyaf yn y Deyrnas Gyfunol, ac felly mae trosi eu harian i sterling yn rhoi hwb i’w helw.
Holodd y Cynghorydd Llewelyn Jones a oedd gan y Gronfa unrhyw fuddsoddiadau yn Ne America. Cadarnhaodd Mr Harkin fod ganddi, a hynny drwy ecwiti marchnadoedd newydd.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi a thrafod yr Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Economi a'r Farchnad ar 30 Mehefin 2018.
(b) Nodi sut yr oedd gwybodaeth yn yr adroddiad yn “gosod y llwyfan” yn effeithiol ar gyfer beth y dylai’r Pwyllgor ddisgwyl ei weld yn adroddiad cryno Strategaeth Fuddsoddi a Rheolwyr o ran perfformiad portffolio asedau’r Gronfa.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 28/01/2019
Dyddiad y penderfyniad: 05/09/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Accompanying Documents: