Manylion y penderfyniad

Pooling Investments in Wales

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Dywedodd y Cadeirydd na gynhaliwyd cyfarfod o’r Pwyllgor Cydlywodraethu ers pan gyfarfu’r Pwyllgor ddiwethaf. Trosglwyddodd y Cadeirydd yr awenau i Mr Latham ar gyfer yr eitem hon, a bwysleisiodd fod Partneriaeth Pensiynau Cymru’n dod ymlaen yn dda. Roedd y platfform buddsoddi wedi’i sefydlu, ac roedd a wnelo eitem 10 ar yr agenda â’r asedau cyntaf a drosglwyddwyd.  Serch hynny, roedd yno faterion o ran llywodraethu a buddsoddi a gâi eu hystyried yn y dyfodol gan y Pwyllgor Cydlywodraethu neu’r awdurdodau unigol.

 

Cyfeiriwyd at y llythyr oddi wrth y Gweinidog Llywodraeth Leol. Soniodd Mr Hibbert fod costau adrodd Partneriaeth Pensiynau Cymru'n cynyddu, a bod gorddibyniaeth ar gynghorwyr ac ymgynghorwyr gan ystyried mai'r amcan oedd cwtogi ar gostau.  Dywedodd Mr Latham ei bod yn anochel y byddai costau’n gysylltiedig â chyfuno cronfeydd yng Nghymru, ond roedd yn ffyddiog y byddai’r Bartneriaeth yn un o’r cronfeydd cyfun gorau ymhen hir a hwyr, o ran perfformiad a gwerth am arian.

 

Holodd y Cynghorydd Rutherford a fyddai'r costau adrodd oedd yn gysylltiedig â chyfuno cronfeydd yn cael eu talu’n ôl, ac ym mha fodd yr adroddid ynghylch y costau hynny.  Dywedodd Mrs Fielder fod gweithredu’r Bartneriaeth yn rhan o’r costau gweithredol cyffredinol, ac y byddai pob Cronfa’n rhannu’r costau wrth ad-dalu drwy’r platfform.

 

Soniodd Mrs McWilliam y bu’n bresennol mewn cyfarfod o Fwrdd Cynghori’r Cynllun ddydd Llun, a bod y Bwrdd am ysgrifennu i bob un o'r cronfeydd cyfun i weld a oeddent yn bwriadu cael cynrychiolydd ar ran aelodau'r cynllun, a chlywed eu rhesymau am beidio os nad oeddent yn bwriadu hynny.

 

Esboniodd Mrs McWilliam fod y BBC wedi cyhoeddi erthygl ar y dydd Llun yngl?n â’r Gronfa’n buddsoddi mewn ffracio. Roedd yr erthygl yn awgrymu fod cronfeydd yng Nghymru’n buddsoddi mewn ffracio’n uniongyrchol, ac yn sôn am Gytundeb Paris, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Roedd Mrs McWilliam yn amau a oedd hyn yn gywir. Dywedodd y Cynghorydd Llewelyn Jones fod yr erthygl yn dangos fod y Gronfa wedi buddsoddi £10 miliwn mewn ffracio.

 

Cadarnhaodd Mr Everett nad oedd y Gronfa'n gwneud dim oedd yn erbyn y gyfraith, a bod Llywodraeth Cymru wrthi’n ystyried y polisi. Pwysleisiodd Mr Harkin nad oedd yno unrhyw fuddsoddiadau uniongyrchol, ac mai gwir werth y buddsoddiadau oedd yn ymwneud â chwmnïau ffracio oedd £7.6 miliwn yn 2016 (0.4% o asedau’r Gronfa bryd hynny). Yn amlach na pheidio, y sefyllfa oedd bod y Gronfa'n buddsoddi mewn cwmni a oedd yn ei dro wedi buddsoddi mewn ffracio, ac felly ni fuddsoddwyd mewn unrhyw gwmni ffracio (a dim ond cyfran fechan o’r Gronfa oedd dan sylw beth bynnag).

 

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn nodi'r adroddiad ac yn trafod y cynnydd sy’n cael ei wneud gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 28/01/2019

Dyddiad y penderfyniad: 05/09/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: