Manylion y penderfyniad

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider the Forward Work Programme of the Organisational Change Overview & Scrutiny Committee

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried. Tynnodd sylw at yr eitemau a oedd wedi’u trefnu at y cyfarfod nesaf i’w gynnal ar 18 Mawrth 2019, a dywedodd fod eitem ychwanegol i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y Strategaeth Ddigidol wedi’i chynnwys er mwyn ei hystyried yn y cyfarfod.  Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd hefyd fod yr eitem am Adolygiad Cynnydd NEWydd Catering and Cleaning, a oedd i fod i gael ei ystyried yn y cyfarfod ar 18 Mawrth, wedi’i symud i’r cyfarfod a oedd i gael ei gynnal ar 13 Mai 2019, er mwyn gallu cyflwyno adroddiad ar y Strategaeth Gwerth Cymdeithasol ar 18 Mawrth.

 

 Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd at yr eitem a oedd i gael ei threfnu ar Bwll Nofio Cei Connah – Adroddiad Cynnydd Canol Blwyddyn Cambrian Aquatics 2018/19.  Dywedodd eto fod Aelodau Bwrdd Cambrian Aquatics wedi'i chael yn anodd dod i'r cyfarfod ar 28 Ionawr, ac fe awgrymwyd ailystyried amser a lleoliad y cyfarfod er mwyn iddynt allu bod yno. Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton bod un o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor wedi’i gynnal yn y bore yn Cambrian Aquatics, Cei Connah, a gofynnodd a ellid ystyried hyn. Awgrymodd y Cynghorydd Tudor Jones i nifer fechan o Aelodau’r Pwyllgor fynd i gyfarfod gydag Aelodau Bwrdd Cambrian Aquatics ar adeg sy’n gyfleus i bawb ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cytunwyd y byddai Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried yr awgrymiadau a gyflwynwyd gyda Cambrian Aquatics.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Ian Dunbar y dylid trefnu ymweliad â Hwb Cyfle yn y dyfodol ar ran y Pwyllgor.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Paul Shotton y dylid newid lleoliad y cyfarfod a oedd i gael ei gynnal ar 18 Mawrth i Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

 (b)      Bod yr Hwylusydd, gan ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael caniatâd i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, pe bai angen. 

Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones

Dyddiad cyhoeddi: 08/04/2019

Dyddiad y penderfyniad: 28/01/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/01/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol

Accompanying Documents: