Manylion y penderfyniad

Move from County Hall to Unity House

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on the progress of this work in particular the work taking place with those services and staff moving and the work on the interior design and layout of the building

Penderfyniadau:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) yr adroddiad i roi diweddariad ar gynnydd y gwaith o symud o Neuadd y Sir i Unity House ac ar y gwaith oedd yn mynd ymlaen gyda gwasanaethau a staff yn symud, a chynllun mewnol yr adeilad.  

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) mai symudiad rhannol yw hwn ac y byddai nifer sylweddol o weithwyr yn parhau yng Nghamau 1 a 2 Neuadd y Sir am y tymor canolig.  Eglurodd fod ystod o waith wedi digwydd i sicrhau y gallai’r symud ddigwydd cyn diwedd y flwyddyn galendr a oedd yn cynnwys gwaith adeiladu yn Unity House, gwaith gyda staff gwasanaeth ac undebau i baratoi ar gyfer adleoli a gwaith i gaffael cynllunydd mewnol i gwblhau’r dasg o drefnu’r gofod yn Unity House.Adroddodd ar y prif ystyriaethau yn yr adroddiad a oedd yn darparu diweddariad llawn ar gynnydd a gwaith a gynlluniwyd.

 

Adroddodd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) mai’r gwasanaethau a nodwyd i symud i Unity House oedd y Gwasanaethau Cymdeithasol, Cynllunio a’r Amgylchedd, Addysg a staff y Ganolfan Gyswllt.  Mae’r atodiad i'r adroddiad yn nodi’r nifer o staff sydd i symud, y gofod sydd ei angen o ran desgiau a'r lleoedd parcio sydd ar gael.Y bwriad oedd mai Unity House fyddai un o’r prif swyddfeydd a byddai wedi’i gynllunio ar gyfer gwasanaethau rheng flaen nad ydynt yn derbyn ymholiadau lle gall aelodau o’r cyhoedd gerdded i mewn, ond bod staff yn cyfarfod aelodau o’r cyhoedd a phartneriaid drwy apwyntiad. Er mwyn sicrhau fod y symud yn llwyddiannus roedd cynlluniau ychwanegol yn cael eu datblygu oedd yn cynnwys cynllun cyfathrebu mewnol ac allanol clir a chynllun teithio ar gyfer mynediad i’r safle.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'r symud yn arwain at arbediad refeniw blynyddol i’r cyngor ac roedd cynlluniau i gynnwys y costau a ragwelwyd o fewn cyllidebau presennol.Siaradodd o blaid y symud rhannol ac eglurodd y byddai'r Gwasanaethau Corfforaethol, y Gwasanaethau Democrataidd, Gwasanaethau’r Aelodau a Chyllid yn parhau ar safle Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug hyd nes y byddai penderfyniad hirdymor yn cael ei wneud. Wrth gyfeirio at adnewyddu Unity House, dywedodd fod y cydbwysedd rhwng buddsoddiad doeth a darparu amgylchedd o ansawdd wedi ei ystyried yn ofalus ac am fuddsoddiad cymharol gymedrol fod yr Awdurdod wedi moderneiddio’r adeilad ac wedi darparu gofod swyddfa sydd fel newydd ac yn addas i staff ei ddefnyddio.Hefyd fe wnaeth y Prif Weithredwr sylw ar yr effaith negyddol roedd cyflwr yr adeilad yn ei gael ar drigolion lleol a staff y Cyngor a dywedodd fod gwneud y gwelliannau wedi bod yn angenrheidiol.   

 

Siaradodd y Cynghorydd Billy Mullin o blaid y buddsoddiad yn Unity House a gwnaeth sylw ar fanteision yr adeilad.Dywedodd fod staff yn frwd am y symud a bod y gwelliannau wedi codi morâl y staff.

 

                        Awgrymodd y Cynghorydd David Wisinger fod ymweliad safle yn cael ei drefnu ar gyfer y Pwyllgor i Unity House. Mynegodd bryderon yn ymwneud â threfniadau parcio ar gyfer staff ac ymwelwyr.Eglurodd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) fod ystyriaeth ofalus wedi ei rhoi i nifer y staff mewn cymhariaeth â’r ddarpariaeth lleoedd parcio a dywedodd fod yna nifer ddigonol o leoedd parcio ar gyfer y nifer o staff sy'n symud i Unity House. Dywedodd fod gweithio hyblyg, oriau hyblyg a gweithio rhan amser yn golygu na fyddai’r holl staff yn gweithio yn yr adeilad ar yr un pryd. 

 

                        Mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom bryderon yn ymwneud â’r symud i Unity House.Dywedodd y gallai rhai o’r gwasanaethau presennol a gaiff eu darparu gan yr awdurdod newid o ganlyniad i’r ad-drefnu llywodraeth leol a ragwelir yng Nghymru ac y dylid ystyried hyn.Mynegodd bryderon pellach y gall rhai o ddefnyddwyr y gwasanaeth ei chael yn anodd teithio i Unity House a siaradodd am yr angen i sicrhau fod y cyfle yn parhau i’r cyhoedd gael cyswllt 'wyneb yn wyneb' gyda swyddogion yn ôl yr angen; a nododd faterion cynllunio fel enghraifft. 

 

                        Ymatebodd y Prif Weithredwr i’r sylwadau ac eglurodd fod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr gwasanaeth o fewn Addysg a'r Gwasanaethau Ieuenctid a'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn derbyn gwasanaethau teithiol.Dywedodd fod Ewlo a’r Wyddgrug wedi eu cysylltu’n dda drwy ffyrdd a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a dywedodd y byddai’r gwasanaethau a gaiff eu darparu ym Mhlas Llwynegrin a Theatr Clwyd yn aros fel maent ar hyn o bryd.  

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Fod y cynnydd a wnaed i ad-leoli nifer o wasanaethau a staff i Unity House yn cael ei nodi; a

 

 (b)     Bod y bwriad i symud i Unity House yn cael ei gefnogi. 

Awdur yr adroddiad: Ian Bancroft

Dyddiad cyhoeddi: 10/12/2018

Dyddiad y penderfyniad: 25/06/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol

Accompanying Documents: