Manylion y penderfyniad
Environmental Enforcement in Flintshire
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To provide Committee with details of the
Environmental Enforcement activities undertaken by the
Council’s Enforcement Team and Kingdom Securities on behalf
of the Council
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Carolyn Thomas adroddiad i ddarparu manylion i’r Pwyllgor am y gweithgareddau Gorfodaeth Amgylcheddol a wnaed gan Dîm Gorfodaeth y Cyngor a Kingdom Securities ar ran y Cyngor Gwahoddodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) i gyflwyno’r adroddiad.
Dywedodd y Prif Swyddog fod yr adroddiad yn amlinellu’r dull o ymdrin â’r holl faterion sy’n ymwneud â gorfodaeth amgylcheddol, gan gynnwys taflu sbwriel, tipio anghyfreithlon, gwastraff ychwanegol a’r effaith mae’r gwaith yn ei gael ar lendid strydoedd a dangosyddion perfformiad eraill. Cyfeiriodd at y Polisi Gorfodi Amgylcheddol a fabwysiadwyd gan y Cyngor yn 2013 a nododd ei ymagwedd tuag at bob agwedd ar
orfodi amgylcheddol. Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y nodir yn yr adroddiad yn ymwneud â throseddau gollwng ysbwriel, baw c?n, gwastraff ychwanegol, tipio anghyfreithlon ar dir preifat, a cheir wedi eu gadael.
Cyflwynodd y Prif Swyddog Mark Mountford, Rheolwr Busnes Rhanbarthol, ac Eoin Henney, Rheolwr Busnes, Kingdom Securities Limited, a rhoddodd wahoddiad iddynt roi cyflwyniad ar y gweithgareddau gorfodi amgylcheddol a wnaed ar ran y Cyngor. Roedd y cyflwyniad yn trafod y prif bwyntiau a ganlyn:
· strategaeth batrolau
· cyfanswm yr Hysbysiadau Cosb Benodedig a gyflwynwyd
· troseddau 2016-17 a 2017-18
· cymhareb dynion / merched a bandio oed 2016-18
· Canrannau ethnigrwydd 2016-18
· Lleoliadau Hysbysiadau Cosb Benodedig
· Newid ymddygiad
Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r trefniant presennol gyda Kingdom Securities Limited yn dod i ben a adroddodd ar y dewisiadau, fel y nodwyd yn yr adroddiad, a oedd ar gael ar gyfer gorfodi amgylcheddol ar lefel isel o fewn y Sir i’w hargymell i’r Cabinet.
Diolchodd y Cadeirydd i Mark Mountford ac Eion Henney am eu cyflwyniad a gwahoddodd Aelodau i ofyn cwestiynau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at nifer yr Hysbysiadau Cosb Penodol a roddwyd am sigaréts o’i gymharu â’r nifer a roddwyd am droseddau eraill, a nododd faw c?n fel enghraifft. Mynegodd bryderon fod rhai ardaloedd yn cael eu targedu’n benodol i ddal pobl a oedd yn ysmygu sigaréts. Gan gyfeirio at y dewisiadau sydd ar gael ar gyfer model gweithredu i’r dyfodol, mynegodd y Cynghorydd Evans ffafriaeth i ymestyn darpariaeth fewnol y Cyngor drwy recriwtio i ddarparu’r un lefel o gwmpas ag y darparwyd gan Kingdom Securities Limited.
Gwnaeth y Cynghorydd Bernie Attridge sylw ar gost ac effaith weledol ysbwriel ar yr amgylchedd a dywedodd fod Kingdom Securities Limited wedi eu cyflwyno yn 2016 i gefnogi gorfodi troseddau amgylcheddol a’r tîm gorfodi mewnol. Cyfeiriodd at y gwelliannau a gyflawnwyd mewn canol trefi o safbwynt glendid strydoedd a oedd yn cefnogi effaith dull goddef dim a phresenoldeb parhaus swyddogion gorfodi. Dywedodd hefyd fod gwelliant wedi bod yn safle Sir y Fflint ar dabl sgoriau Cadwch Gymru'n Daclus. Cyfeiriodd y Cynghorydd Attridge at y nifer fechan o gwynion a dderbyniwyd o’u cymharu â nifer yr hysbysiadau cosb benodol a roddwyd a rhoddodd sicrwydd yr ymchwiliwyd i bob cwyn ac os byddent yn dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o gam-arfer, byddent yn ymdrin â hynny’n gadarn. Ychwanegodd y Cynghorydd Attridge fod Sir y Fflint wedi mabwysiadu proses apeliadau annibynnol fel y gofynnwyd gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd lle'r oedd apeliadau’n cael eu hystyried gan y Prif Swyddog, Llywodraethu.
Holodd y Cynghorydd Haydn Bateman a oedd gweithwyr Kingdom Securities Limited yn derbyn bonws am nifer yr hysbysiadau a roddwyd. Eglurodd Mark Mountford fod gweithwyr yn derbyn trefniadau taliadau cymell perfformiad ond nid oeddynt yn derbyn bonws yn ymwneud â nifer yr hysbysiadau a roddwyd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Joe Johnson at y sylwadau negyddol a oedd wedi eu rhoi ar gyfryngau cymdeithasol ynghylch yr ymagwedd a gymerwyd gan swyddogion patrolio. Ategodd y pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd David Evans ynghylch nifer yr hysbysiadau a roddwyd ar gyfer sigaréts o’u cymharu â’r rhai a roddwyd am faw c?n a dywedodd fod problem baw c?n yn un o brif bryderon trigolion Sir y Fflint. Ychwanegodd y byddai’n cefnogi dull mwy trugarog, a fyddai’n canolbwyntio ar addysg tuag at orfodaeth wedi ei ddarparu’n fewnol.
Mynegodd y Cynghorydd Chris Dolphin y farn, boed y gwasanaeth gorfodi yn cael ei gynnig yn breifat neu gan y Cyngor, y dylai’r Cyngor gymryd agwedd gadarn tuag at ollwng sbwriel, baw c?n ac ati. Ychwanegodd fod gwahaniaeth nodedig wedi ei weld mewn rhai ardaloedd ers i swyddogion Kingdom fod yn cynnal patrolau yn yr ardaloedd hynny. Holodd faint o staff oedd wedi eu cyflogi gan Kingdom Securities Limited i gynnal gorfodaeth amgylcheddol ar ran y Cyngor ac a oedd y Cyngor yn darparu iwnifformau a cherbydau gorfodi i’r swyddogion patrolio eu defnyddio. Holodd hefyd sawl hysbysiad cosb benodedig a ddiddymwyd yn dilyn apêl.
Dywedodd y Prif Swyddog fod Cyngor Sir y Fflint yn cyflenwi iwnifformau a defnydd o gerbydau fflyd ac roedd Swyddogion Kingdom yn rhannu swyddfeydd gyda staff Cyngor Sir y Fflint yn nepo Alltami. Ychwanegodd fod y cydlynwyr ardal yn gyswllt gyda Kingdom a fod yr holl lwybrau yn cael eu cynllunio a’u holrhain.
Mynegodd Aelodau bryderon ynghylch y nifer isel o hysbysiadau a roddwyd am faw c?n yn Sir y Fflint yn 2017/18 ac amlygwyd ardaloedd lle’r oedd tystiolaeth o droseddu cyson. Ategodd Aelodau fod problem baw c?n yn un o brif bryderon y Cyngor. Anogodd y Cynghorydd Carolyn Thomas Aelodau i roi gwybod am unrhyw achosion o faw c?n neu ollwng sbwriel yn eu Wardiau i Strydwedd a fyddai’n cymryd camau ar unwaith i fynd i’r afael â’r broblem. Holodd y Cynghorwyr Glyn Banks a Veronica Gay a oedd swyddogion patrôl yn mynd at bobl a oedd yn cerdded eu c?n i holi a oeddynt yn cario bagiau i waredu gwastraff c?n yn briodol.
Dywedodd Mark Mountford fod baw c?n yn flaenoriaeth fawr, serch hynny gallai fod yn anodd bod yn dyst i drosedd. Ychwanegodd y gall tystion fod yn gyndyn i gymryd rhan a chynnig gwybodaeth. Yn ogystal, byddai’n rhaid i dystiolaeth ar gamera fod yn ystod golau dydd i fod yn effeithiol.
Yn ystod y drafodaeth, cododd Aelodau gwestiynau ar nifer y swyddi gwag o fewn y tîm gorfodi amgylcheddol a gyflogwyd gan Kingdom Securities Limited a holodd pryd y cafodd y swyddi gwag eu hysbysebu.
Mewn ymateb i'r sylwadau pellach a’r pryderon a fynegwyd gan Aelodau, eglurodd y Cynghorydd Bernie Attridge fod gorfodaeth amgylcheddol yn cael ei arwain gan gudd-wybodaeth. Cyfeiriodd y Prif Swyddog hefyd at yr ymgysylltiad a oedd yn digwydd gyda’r cyhoedd a chyfeiriodd at yr wybodaeth addysgol a ddarparwyd gan y Cyngor i ddod a dull cadarnhaol o orfodaeth amgylcheddol mewn cymunedau lleol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Haydn Bateman at yr agwedd goddef dim a gymerwyd tuag at droseddau a gyflawnwyd am ollwng sbwriel a holodd, pe bai tystiolaeth fod 'trosedd ddamweiniol’ wedi ei chyflawni gan aelod o'r cyhoedd, a fyddai’r amgylchiadau yn ymwneud â’r drosedd honno yn cael eu hystyried. Ail-bwysleisiodd y Prif Swyddog yr ymchwiliwyd i bob cwyn ac eglurodd fod swyddogion patrôl yn gwisgo camerâu corff i gofnodi’r sgwrs a gweithredoedd unigolion a daethpwyd i gysylltiad â nhw.
Dywedodd y Prif Swyddog fod modd rhoi manylion penodol hysbysiadau cosb penodedig a roddwyd mewn ardaloedd penodol, manylion penodol galwadau i Strydwedd fesul ward a nifer y cwynion a’r apeliadau a dderbyniwyd. Cytunodd hefyd y byddai’n darparu manylion am y cyhoeddusrwydd a’r gwaith addysgol a wnaed i sicrhau fod y cyhoedd yn ymwybodol fod y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i berchnogion c?n gael modd gyda nhw o gasglu gwastraff c?n o’r ddaear os oedd swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt wneud.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Banks at y 15% o incwm a dderbyniwyd gan yr Awdurdod o’r hysbysiadau cosb penodedig a roddwyd gan Kingdom Securities Limited a holodd a oedd hyn yn ddigonol i dalu cost y gweithredoedd gorfodi. Cadarnhaodd y Prif Swyddog fod yr arian a gafwyd ar hyn o bryd gan Kingdom Securities Limited yn mwy na thalu am y costau a oedd ynghlwm.
Cynigiodd y Cynghorydd David Evans y dylid argymell dewis 3, i ymestyn y ddarpariaeth fewnol, drwy recriwtio neu waith rhanbarthol i ddarparu’r un lefel o gwmpas gorfodi a’r contractwr presennol heb gynnal dull o oddef dim, i’r Cabinet i’w ystyried, a chytunwyd ar hyn pan gynhaliwyd y bleidlais.
Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd Swyddogion i’r cwestiynau a’r pryderon pellach a godwyd gan Aelodau ynghylch gwastraff ychwanegol, tipio anghyfreithlon, gosod posteri'n anghyfreithlon, graffiti, a throliau wedi eu gadael.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad; a
(b) Dylid argymell dewis 3, i ymestyn y ddarpariaeth fewnol, drwy recriwtio neu waith rhanbarthol i ddarparu’r un lefel o gwmpas gorfodi a’r contractwr presennol heb gynnal dull o oddef dim, i’r Cabinet i’w ystyried, a chytunwyd ar hyn pan gynhaliwyd y bleidlais.
Awdur yr adroddiad: Steve Jones
Dyddiad cyhoeddi: 15/10/2018
Dyddiad y penderfyniad: 12/06/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Accompanying Documents: