Manylion y penderfyniad

Extending the Care First scheme to County Councillors

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i roi gwybod i’r Pwyllgor am y gwasanaeth Gofal yn Gyntaf i gyflogeion a allai gael ei ymestyn i ddarparu cymorth i Aelodau.  Darparodd wybodaeth gefndirol ac eglurodd er nad yw Cynghorwyr Sir yn gyflogeion, maent yn rhan o Gyngor Conwy ac roedd yn rhesymol o safbwynt lles iddynt ymestyn mynediad at y gwasanaeth iddyn nhw.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd at y prif ystyriaethau, fel y maent wedi’u nodi yn yr adroddiad, ac eglurodd bod y gwasanaeth yn rhad ac am ddim i’r unigolyn ac ar gael am 24 awr o’r dydd trwy gydol y flwyddyn dros y ffôn neu ar-lein.  Dywedodd bod Gofal yn Gyntaf wedi’i gynllunio i ddarparu gwybodaeth a chymorth i unigolion sydd ag amrywiaeth eang o broblemau teuluol, personol ac yn y gwaith.

 

Cytunodd y Cynghorydd Paul Shotton y dylid ymestyn y gwasanaeth i Aelodau.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Mike Peers sylw ar y mater o gyfrinachedd a gofynnodd a yw’r Awdurdod yn derbyn gwybodaeth ynghylch defnyddwyr y gwasanaeth.     Eglurodd Uwch-Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol nad yw’r Awdurdod yn cael gwybod pwy sy’n defnyddio’r gwasanaeth heb ganiatâd yr unigolyn, ond mae’r Awdurdod wedi derbyn gwybodaeth ystadegol i'w helpu i adnabod unrhyw achos pryder i weithwyr o fewn neu y tu allan i'r gwaith er mwyn gallu darparu cymorth iddynt os oes angen.    

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell bod gan yr Awdurdod ddyletswydd gofal dros bob aelod o staff a dywedodd ei fod yn cefnogi'r gwasanaeth sy’n cynnwys cyflogeion mewn ysgolion.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ian Dunbar yn ymwneud â darparu cyngor parhaus, eglurodd yr Uwch-Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol bod ymgynghorwyr Gofal yn Gyntaf wedi cymhwyso’n broffesiynol i ddarparu cymorth parhaus neu gyfeirio at wasanaethau priodol eraill os oes angen. 

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Clive Carver yn ymwneud â chymhlethdodau adnoddau, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y gellid ymestyn y gwasanaeth Gofal yn Gyntaf i Gynghorwyr am £1.76 y person fel rhan o gontract presennol yr Awdurdod.  Roedd hwn yn daliad cyfradd safonol flynyddol nad oedd yn cael effaith ar ddefnyddwyr.

 

Dywedodd Uwch-Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol bod y gwasanaeth Gofal yn Gyntaf wedi’i groesawu a’i hyrwyddo gan yr Undebau Llafur ac yn rhan o raglen Cymru gyfan a chaiff ei chynnig i bob awdurdod lleol.  Eglurodd bod y gwasanaeth wedi gwella darpariaeth bresennol ar draws y Cyngor i gefnogi iechyd a lles bob aelod o staff.

 

PENDERFYNWYD-

 

Y caiff y gwasanaeth Gofal yn Gyntaf sydd ar hyn o bryd ar gael i bob aelod o staff, ei wneud ar gael i Gynghorwyr Sir yn ogystal.

 

Awdur yr adroddiad: Overview and Scrutiny's Reports (Janet Kelly)

Dyddiad cyhoeddi: 26/09/2018

Dyddiad y penderfyniad: 21/06/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/06/2018 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Accompanying Documents: