Manylion y penderfyniad
Digital Customer Overview
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an overview of this key area of
work in the Digital Strategy and a presentation of the Customer
Portal/Account which is currently be tested with a number of
users.
Penderfyniadau:
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y Cyngor wedi cytuno ar ddull strategol o ddatblygu’r Gwasanaethau Cwsmeriaid a gwella’r defnydd o Dechnoleg Ddigidol. Cyflwynodd yr adroddiad i egluro’r dull o weithredu’r strategaethau hyn, a oedd yn canolbwyntio ar roi’r gallu i gwsmeriaid gysylltu â’r Awdurdod a defnyddio ei wasanaethau, pan fo’n addas, trwy ddefnyddio technoleg ddigidol.
Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndirol a chyfeirio at y prif ystyriaethau yn yr adroddiad. Traddododd gyflwyniad a oedd yn trafod y prif bwyntiau canlynol:
· manteision ffocws ‘cwsmer digidol’
· rhagolwg ar borthol y cwsmer
· datblygu’r porthol talu
· datblygu Sgwrs Fyw
· penderfyniadau allweddol – yn gynnar yn 2018
· dulliau torri costau
· adnoddau
· ein dull
· cynllun gweithredu cyntaf
Gofynnodd y Cynghorydd Marion Bateman a fyddi gan unrhyw bartïon eraill ddiddordeb mewn prynu’r feddalwedd a gynhyrchodd yr Awdurdod gyda chefnogaeth wrth gefn. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau TG fod y dechnoleg ddigidol i ddarparu gwasanaethau gan nifer o awdurdodau eisoes ac eglurodd fod y Cyngor yn buddsoddi ar hyn o bryd mewn datblygu diogelwch ar-lein.
Bu i’r Cynghorydd Paul Shotton sôn am yr angen am hyfforddiant ar ddefnyddio porthol y cwsmer a gofynnodd a fyddai modd gwahodd yr holl Aelodau, mewn grwpiau bychain i weld arddangosiad o sut y mae’r porthol yn gweithio. Dywedodd ei bod yn bwysig ar gyfer pobl sydd o bosib heb fynediad at dechnoleg gwybodaeth gael mynediad dros y ffôn, a rhoddodd bobl h?n fel enghraifft. Bu i’r Rheolwr Gwasanaethau Busnes TG gydnabod y pwynt a wnaeth ac eglurodd bod gwaith yn mynd rhagddo i roi gwybod i breswylwyr mewn cartrefi gofal am y gwasanaethau sydd ar gael.
Dywedodd y Cynghorydd Tudor Jones fod angen bod cysylltiad gwe ‘da’ ar gael ym mhob ardal a dywedodd bod diffyg darpariaeth mewn rhai ardaloedd gwledig. Cynigiodd amryw awgrymiadau y gellid eu cysylltu at y porthol cwsmeriaid a chyfeiriodd at wybodaeth ynghylch gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus fel enghraifft. Gofynnodd y Cynghorydd Jones hefyd a ellid rhoi dolen i gyfeirio cwsmeriaid at gynghorau tref neu gymuned lleol.
Eglurodd y Prif Swyddog fod gwella cysylltedd yn darged yn y Strategaeth Ddigidol ac yn ystyriaeth allweddol wrth hybu twf economaidd yn Sir y Fflint. Cyfeiriodd at gais Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i lywodraeth y DU am arian cyllid Ffibr Llawn yn Lleol o £200miliwn a fyddai’n elwa busnesau yn y rhanbarth yn bennaf ond byddai hefyd yn rhoi gwell mynediad i breswylwyr.
Bu i’r Cynghorydd Ian Dunbar sôn am yr angen i gynnig cyswllt wyneb yn wyneb i bobl a oedd am gael hyn a dywedodd am y gwasanaethau gwerthfawr y mae Canolfannau Cyswllt lleol yn eu cynnig. Yn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Dunbar ynghylch gwasanaethau talu ar-lein, dywedodd y Prif Swyddog mai’r bwriad oedd cynyddu ystod y gwasanaethau y gall preswylwyr dalu amdanynt ar-lein. Siaradodd am y manteision a’r arbedion cost y gellid eu gwneud trwy daliadau uniongyrchol.
Mynegodd y Cynghorydd Brian Lloyd bryderon y gallai’r porthol cwsmer digidol arwain at gau’r Canolfannau Cyswllt. Rhoddodd y Prif Swyddog sicrwydd nad oedd yn fwriad i’r porthol ddisodli’r gwasanaethau a roddir gan y Canolfannau Cyswllt ac nad oedd unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i’w cau. Yn ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd Lloyd ynghylch y gwasanaeth ‘Sgwrs Fyw’, eglurodd y Prif Swyddog fod y gweithredwyr sy’n ateb ymholiadau trwy’r ‘Sgwrs Fyw’ hefyd yn ateb ymholiadau dros y ffôn. Eglurodd mai diben y ‘Sgwrs Fyw’ oedd helpu pobl i ddefnyddio’r porthol.
Yn ymateb i ymholiad gan y Cadeirydd, eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Busnes TG fod diogelwch yn fater blaenorol ac y byddai modd i bobl fynd at eu gwybodaeth cyfrif eu hunain trwy ddolen ddiogel.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dull gweithredu’r Strategaeth Ddigidol a’r Strategaeth Cwsmer trwy osod blaenoriaeth a ffocws ar wella gwasanaethau ar gyfer ‘Cwsmeriaid Digidol’ fel y disgrifir yn yr adroddiad; a
(b) Nodi’r sylwadau ynghylch sut y gellid sicrhau’r defnydd mwyaf o’r Cyfrif Cwsmer.
Awdur yr adroddiad: Ian Bancroft
Dyddiad cyhoeddi: 22/08/2018
Dyddiad y penderfyniad: 14/05/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/05/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Dogfennau Atodol: