Manylion y penderfyniad

Welfare Reform Update – Universal Credit Roll Out

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on the impact of Welfare Reform on Flintshire residents.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad yn manylu ar yr effaith o gyflwyno ‘gwasanaeth llawn’ Credyd Cynhwysol a diwygiadau lles eraill, ynghyd â’r gwaith a wnaed gan y Tîm Ymateb i Ddiwygio Lles i gefnogi’r preswylwyr sydd wedi’u heffeithio yn Sir y Fflint.

 

Cafwyd yr wybodaeth ddiweddaraf ar yr aelwydydd yr effeithir arnynt gan y Rheolwr Budd-Daliadau ym mis Mehefin 2018. Roedd gostyngiad o ran nifer yr aelwydydd a oedd wedi’u heffeithio gan yr uchafswm budd-daliadau is, fodd bynnag, roedd hyn yn dal i fod yn golled sylweddol i'w hincwm cyfunol.  O’r 101 o aelwydydd a oedd wedi’u heffeithio, roedd 85 ohonynt yn derbyn cymorth drwy Daliadau Dewisol Tai i wneud newidiadau i reoli eu hincwm yn well.  Roedd y mwyafrif o aelwydydd a oedd wedi’u heffeithio gan y cymhorthdal ystafell sbâr yn denantiaid Awdurdod Lleol a oedd ag un ystafell wely wag.  Roedd Taliadau Dewisol Tai yn cael eu dyfarnu i denantiaid cymwys i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig er mwyn lliniaru effaith y cymhorthdal, fodd bynnag, roedd hyn yn datblygu’n ddatrysiad tymor hir oherwydd diffyg argaeledd eiddo llai.

 

Roedd ystod o gymorth yn cael ei geisio gan gwsmeriaid Credyd Cynhwysol Sir y Fflint a gwelwyd bod niferoedd wedi cynyddu o 337%.   Roedd Cefnogaeth â Chymorth Digidol drwy Ganolfannau Sir Y Fflint Yn Cysylltu wedi helpu preswylwyr i reoli eu hawliadau a chysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau.  Roedd y galw am Gefnogaeth Cyllidebu Personol wedi arwain at gynnydd mewn cymorthfeydd ar draws y Sir ac roedd yr un tîm hefyd yn darparu cymorth  cofleidiol i gyfeirio unigolion at gyngor ariannol arbenigol.  Fodd bynnag, treuliwyd llawer iawn o amser yn gwirio neu’n herio cyfrifiadau a arweiniodd at apwyntiadau pellach ac oedi gyda thaliadau.  Roedd y newidiadau arfaethedig o ran cyllid ar gyfer Cefnogaeth â Chymorth Digidol a Chefnogaeth Cyllidebu Personol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau o fis Ebrill 2019 yn bryder enfawr a’r ansicrwydd o sut y byddai’r cymorth hwnnw yn parhau gyda Chyngor ar Bopeth.  Roedd y cymorth cynnar hwn yn hanfodol er mwyn atal y sefyllfa rhag gwaethygu, ac fe godwyd y risg i'r Cyngor a phreswylwyr ar lefel genedlaethol.  Roedd pryderon eraill a ddwysawyd er mwyn eu hystyried yn cynnwys dulliau gwahanol i gael gwared ar enwau ar gyd-denantiaethau a mynd i’r afael â cheisiadau Credyd Cynhwysol a oedd wedi’u hôl-ddyddio.

 

Mynegodd y Cynghorydd Attridge am ei falchder yn llwyddiant y tîm yn y gwasanaeth a sicrhaodd bod sylwadau yn parhau i gael eu gwneud ar ansicrwydd trefniadau ariannu yn y dyfodol.

 

Canmolodd y Cynghorydd Dolphin y tîm a dywedodd y dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau gymryd sylw o’r pryderon a godwyd gan y Cyngor o ystyried ei ran yn y cynllun peilot.  Wrth ymateb i gwestiynau, eglurodd y Rheolwr Budd-Daliadau, gan fod cyllid Taliadau Dewisol Tai yn gallu cael ei newid gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, y bwriad oedd ei ddefnyddio fel datrysiad tymor byr i gefnogi preswylwyr a oedd wedi’u heffeithio gan ddiwygiadau lles (yn ogystal â rhai unigolion nad oedd wedi’u heffeithio).  Eglurodd bod yr anawsterau a wynebir wrth geisio tynnu enw oddi ar gyd-denantiaeth tai cymdeithasol wedi’u cyfleu i’r gr?p llywio cenedlaethol a bod hyn, ynghyd ag elfennau Credyd Cynhwysol eraill, yn cael effaith negyddol ar ôl-ddyledion rhent.  Cytunwyd y byddai’r Rheolwr Gwasanaeth (Cymorth i Gwsmeriaid) yn darparu manylion o ran nifer y tenantiaid sydd wedi’u heffeithio gan y cymhorthdal ystafell sbâr a oedd yn aros i symud i lety llai a oedd mewn galw ar hyn o bryd.

 

Croesawodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad mawl a’i gyflwyniad gan y swyddog.  Wrth ymateb i ymholiad, esboniodd y Rheolwr Budd-Daliadau y cyfrifiad uchafswm budd-daliadau a’i amcan i gyfyngu ar swm y budd-daliadau y gall unigolyn ei hawlio.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ron Davies am y gost i’r Cyngor, o ran adnoddau ac amser swyddogion, wrth gyflwyno Credyd Cynhwysol.  Eglurodd y Rheolwr Budd-Daliadau y trefniadau ariannu ac fe gytunodd i gysylltu â chydweithwyr o fewn yr Adran Gyllid i ddarparu ffigwr amcangyfrifedig.

 

Llongyfarchodd y Cadeirydd y tîm ar y cymorth a oedd yn cael ei roi i breswylwyr.  Cynigodd y dylid anfon llythyr ar ran y Pwyllgor at yr Adran Gwaith a Phensiynau i dynnu sylw at y pryderon o ran y diffyg ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig iariannu grant.  Cefnogwyd hyn gan yr Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r adroddiad a’r gwaith parhaus i reoli’r effeithiau y mae Diwygiadau Lles yn eu cael a bydd yn parhau i’w cael ar aelwydydd mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint;

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn nodi’r newidiadau i drefniadau ariannu grant ar gyfer Cymorth Cynhwysol fel y cyhoeddwyd gan Llywodraeth Ganolog ar 1 Hydref 2018; a

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn ysgrifennu at yr Adran Gwaith a Phensiynau i amlinellu ei bryderon yngl?n â’r risgiau posibl i’r Cyngor yn dilyn y newidiadau arfaethedig i drefniadau ariannu grant ar gyfer Cymorth Cynhwysol.

Awdur yr adroddiad: Jen Griffiths

Dyddiad cyhoeddi: 10/01/2019

Dyddiad y penderfyniad: 07/11/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Accompanying Documents: