Manylion y penderfyniad

Disabled Facilities Grant Internal Audit Report 2017

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To outline the findings of the 2017 scheduled Internal Audit review of the Disabled Facilities Programme and to discuss the control measures developed in response

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Uwch-Archwilydd yr adroddiad yn crynhoi canfyddiadau adroddiad Archwilio Mewnol 2017 ar weithredu’r cynllun Grant Cyfleusterau i'r Anabl a’r ymatebion rheoli ar waith i ddelio â’r canfyddiadau hyn.

 

Eglurodd bod cwmpas yr archwiliad yn cynnwys gweinyddu’r cynllun o’r cam tendro i'r cam cwblhau’r gwaith, a gofynnodd i’r Aelodau nodi bod y gwasanaeth wedi bod drwy gyfnod trawsnewid.    Roedd yr ardaloedd a amlygwyd ar gyfer gwella wedi eu manylu yn yr adroddiad, ynghyd â'r cynllun gweithredu rheolaeth a ddatblygwyd mewn ymateb i’r canfyddiadau.

 

Roedd y Rheolwr Gwasanaeth, Menter ac Adfywio yn rhoi eglurhad ar nifer o brosesau yn cael eu rhoi ar waith i gryfhau rheoliadau a chydymffurfedd.  Byddai’r rhain hefyd yn galluogi gwell dealltwriaeth o amserlenni i helpu i wella perfformiad yn erbyn targedau.   Roedd cynnydd ar gamau eraill yn cynnwys fframwaith caffael newydd i gyflymu’r broses, dal contractwyr i gyfrif a chyflawni gwerth am arian.   Byddai sefydlu bwrdd trosolwg proffesiynol yn helpu i adolygu prosesau a monitro cynnydd ar y cynllun gweithredu.  Roedd y Pwyllgor Archwilio wedi derbyn canfyddiadau'r adroddiad ac wedi trefnu diweddariad ymhen chwe mis, felly awgrymwyd efallai y byddai’r Pwyllgor hwn yn dymuno ystyried diweddariad yn nes ymlaen. 

 

Roedd y Prif Weithredwr yn dyfynnu’r prif fater fel perfformiad a rhoddodd sicrwydd bod yr adroddiad wedi achosi pryder ac yn dangos gwerth y gwaith archwilio.    Oherwydd pryderon am berchnogaeth a chyflymder ymatebion i’r canfyddiadau, roedd y bwrdd trosolwg proffesiynol wedi’i sefydlu i roi ymateb da i’r canfyddiadau ac roedd ganddynt nawr y dasg o adolygu a gwella prosesau drwy ddull dysgwr wedi’i reoli’n dda ac i geisio gwella perfformiad a safle Sir y Fflint ar DFG yn y tymor hwy.   Rhoddwyd ymrwymiad i ddangos tryloywder gwaith ac adolygu rolau a chyfrifoldebau oedd yn ymwneud â Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai.

 

Cytunodd y Cynghorydd Attridge fod canfyddiadau’r adroddiad yn destun pryder ac yn derbyn sylw yn y cynllun gweithredu, a bod y Pwyllgor Archwilio yn fodlon gyda’r cynnydd hyd yma.    Aeth ymlaen i ymrwymo i geisio gwelliant yn y gwasanaeth Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl oedd yn fater hir-sefydlog.

 

 Siaradodd y Cynghorydd Palmer am yr angen i fwyhau cyfleoedd i gwmnïau lleol.  Eglurodd swyddogion y byddai’r fframwaith caffael yn dyrannu gwaith i gwmnïau lleol a rhanbarthol.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Dolphin ar eiddo’r Cyngor a addaswyd yn flaenorol oedd nawr yn wag, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth sicrwydd bod yna broses ar waith i adolygu opsiynau a chydweddu â’r ymgeisydd mwyaf addas.  Hefyd, ymatebodd i ymholiad tebyg gan y Cynghorydd Hardcastle ar ailgylchu lifftiau grisiau sy’n cael eu symud o eiddo i’w defnyddio gan eraill sydd eu hangen.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth eglurhad i’r Cynghorydd Paul Shotton ar grantiau adleoli a benthyciadau ychwanegol oedd ar gael ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl dros y trothwy £36K – nad oedd gofyn mawr am yr un ohonynt.

 

Yn ystod trafodaeth, awgrymodd y Cynghorydd Attridge, bod y Pwyllgor yn derbyn yr un adroddiad diweddaru â’r Pwyllgor Archwilio ymhen chwe mis.  Cytunodd a dywedodd y Prif Weithredwr er mwyn rhoi sicrwydd pellach i Aelodau, yr adroddir ar gynnydd fel rhan o adroddiad monitro Cynllun y Cyngor hefyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod cynnwys adroddiad Archwiliad Mewnol Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a’r cynllun gweithredu rheoli gwasanaeth yn cael ei nodi; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad diweddaru mewn chwe mis ar ôl ystyried cynllun gweithredu rheoli gwasanaeth gan y Pwyllgor Archwilio.

Awdur yr adroddiad: Niall Waller

Dyddiad cyhoeddi: 10/10/2018

Dyddiad y penderfyniad: 27/06/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Accompanying Documents: