Manylion y penderfyniad
Year-end Council Plan 2017/18 Monitoring Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To review the levels of progress in the
achievement of activities, performance levels and current risk
levels as identified in the Council Plan 2017/18
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2017/18. Eglurodd fod yr adroddiad yn cyflwyno'r drefn o fonitro cynnydd ar ddiwedd y flwyddyn ar flaenoriaeth ‘Cyngor Cefnogol’ Cynllun y Cyngor a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.
Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2017/18 yn adroddiad cadarnhaol gydag 83% o’r gweithgareddau wedi gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad, a 74% wedi cyflawni’r canlyniad a ddymunid. Roedd y dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gyda 56% yn cyflawni neu bron a chyflawni targed y cyfnod. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (63%), mân risgiau (8%) neu’n risgiau ansylweddol (6%).
Dywedodd y Prif Swyddog fod y dangosyddion perfformiad canlynol yn dangos statws coch o ran perfformiad ar hyn o bryd yn erbyn y targed ar gyfer y Pwyllgor:
- Canran y cartrefi gofal wedi cyrraedd safon efydd sydd hefyd wedi cyrraedd y safon arian o ran cynnydd ar gyfer darparwyr
Gan gyfeirio at y dangosydd uchod, eglurodd y Prif Swyddog fod y targed wedi bod yn rhy uchelgeisiol gan fod y perfformiad gwirioneddol yn rhagorol, a’r Cyngor wedi gwneud cynnydd a oedd ar flaen y sector wrth ennill y wobr efydd mewn 10 cartref. Parhaodd i ddweud fod y dull wedi’i gynnwys ar y rhestr fer ym mis Medi 2018 yn y Gwobrau Gofal sy’n cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn.
- Canran y gweithwyr sydd wedi cwblhau’r pecyn hyfforddiant e-ddysgu lefel 1 i fodloni gofynion y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar Gam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Dywedodd y Prif Swyddog fod cynllun gweithredu’n cael ei lunio ar gyfer pob dangosydd perfformiad a oedd â statws goch, a fyddai'n edrych yn fanwl ar y camau posib' i atal tanberfformio yn y dyfodol ac ystyried a ddylid parhau â'r dangosydd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.
Dywedodd y Prif Swyddog fod y risgiau mawr canlynol wedi’u nodi a bod y cynnydd ar y risgiau yng Nghynllun y Cyngor wedi’i gynnwys yn atodiadau’r adroddiad.
- mae llawer mwy o alw am welyau mewn cartrefi nyrsio a gofal preswyl na’r nifer sydd ar gael
- nid yw gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o ddiogelu wedi’u datblygu’n ddigonol ym mhob portffolio
- gallai methu â darparu hyfforddiant ar ddiogelu effeithio ar achosion drwy beidio â’u hadnabod yn gynnar
Gan gyfeirio at ddangosydd 1.4.2.1 ar dudalen 86, gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a fyddai modd darparu copi o’r data cenedlaethol y cyfeirir ato yn yr adroddiad i’r Pwyllgor. Cytunodd y Prif Swyddog i ddarparu'r wybodaeth. Dangosydd 1.5.1.2 tudalen 188.
Bu i’r Cadeirydd longyfarch y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a’i dîm ar y perfformiad.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 07/12/2018
Dyddiad y penderfyniad: 14/06/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: