Manylion y penderfyniad

Welsh Government Consultation Paper Strengthening Local Government: Delivering for People

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To make a response to the consultation

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar ymateb i bapur gwyrdd Llywodraeth Cymru Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni Dros Ein Pobl. Darparodd wybodaeth gefndir a chyd-destun a rhoddodd gyflwyniad a ymdriniodd â’r prif bwyntiau canlynol:

 

·         Diwygio Llywodraeth Leol – Cyn hanes

·         Diwygio Llywodraeth Leol – ymlaen neu i ffwrdd?

·         Papur Gwyrdd 1 diweddaraf

·         Papur Gwyrdd 2 diweddaraf

·         Pam fod obsesiwn yng Nghymru?

·         Y materion mawr go iawn?

·         Ein safle 1 a 2 cyson

·         risgiau diwygio strwythurol 1 a 2

·         creu ymateb adeiladol

 

                        Dywedodd y Prif Weithredwr mai’r dyddiad cau ar gyfer ymgynghori ar y papur gwyrdd oedd 12 Mehefin 2018 ac iddo osod y cwestiynau ymgynghori wedi’u saernïo er mwyn gwneud ymateb. Esboniodd fod arweiniad yn cael ei geisio gan Aelodau ar ymateb y gallai’r Cyngor ei wneud ar eu rhan. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Aaron Shotton at y cynnydd a gyflawnwyd ar Fargen Twf Gogledd Cymru a’r perthnasoedd cadarnhaol oedd yn cael eu datblygu gyda’r Llywodraeth a Llywodraeth Cymru ar Fargen Twf. Cyfeiriodd hefyd at yr ymgyrch ‘Cefnogwch y Cais’ ac ymdriniaeth yn y wasg leol a chenedlaethol i greu diddordeb a hyder mewn busnesau yng Ngogledd Cymru ac yn yr hyn oedd yn cael ei gyflawni yn yr ardal. Soniodd y Cynghorydd Shotton hefyd ar sefyllfa unedig Gogledd Cymru ar hyn o bryd a dywedodd fod potensial am gydweithrediad rhanbarthol pellach ac y dylid rhoi cyfle llawn i nodau Mark Drakeford AC, cyn Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Llywodraeth Leol yn 2017 o blaid gweithio rhanbarthol gwell.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Aaron Shotton sylwadau ar yr angen am ddadansoddiad grymus o’r gost ac o fanteision diwygio llywodraeth leol fel man cychwyn i benderfynu a ddylid ymgymryd â’r cynigion. Cynigiodd ddirprwyo’r angen i ddarparu ymateb ar ymgynghoriad i’r papur gwyrdd i arweinwyr gr?p i ffurfio ymateb cytûn. Croesawodd y cyfle i gryfhau pwerau ond dywedodd fod diffyg manylder yn yr adroddiad mewn perthynas â’r ffordd y gellir rhoi hyn ar waith. Cyfeiriodd at yr angen i gefnogi ymateb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), yn enwedig mewn ymateb i opsiwn 3, a dywedodd nad oedd ‘archwaeth yng Nghymru am opsiwn 3”. Pwysleisiodd bwysigrwydd cynnal y berthynas dda yr oedd yr Awdurdod wedi’i datblygu gydag awdurdodau lleol eraill a chyfeiriodd at bwysigrwydd twf economaidd ac uchelgais y Bwrdd Twf.  

 

Cefnogodd y Cynghorydd Peers y safbwyntiau a fynegwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton a soniodd am yr angen i ystyried effaith y cynnig ar gyfer diwygio strwythurol llywodraeth leol ar gymunedau lleol. Soniodd am  y gwaith oedd yn mynd rhagddo ar Fargen Twf Gogledd Cymru y dywedodd y gallai unrhyw ad-drefnu ei danseilio. 

 

Siaradodd y Cynghorwyr Tony Sharps, Hilary McGuill, Arnold Woolley a Carol Ellis yn erbyn y cynigion a holwyd ynghylch y manteision i’w hennill o uniadau gwirfoddol neu raglen uno cyfarwyddeb sengl. Codwyd costau ariannol y diwygiadau arfaethedig, y manteision i’w hennill gan yr Awdurdod, yr effaith ar drigolion Sir y Fflint ac ar berfformiad a pharhad y gwasanaeth yn y dyfodol. 

 

Siaradodd y Cynghorydd Patrick Heesom i gefnogi Bargen Twf Gogledd Cymru y dywedodd ei fod yn ysbrydoledig ac roedd yn dechrau cael effaith ar Sir y Fflint.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Derek Butler y safbwyntiau a fynegwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton. Dywedodd mai’r consensws barn oedd yn cael ei fynegi gan Aelodau oedd bod y cynigion yn rhy gynnar. Pwysleisiodd y gwaith partneriaeth oedd yn cael ei wneud gan yr Awdurdod yn y sector cyhoeddus ac ar y Fargen Twf a Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy. 

 

Soniodd y Cynghorydd Neville Phillips ar y cynigion blaenorol ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol a dywedodd y byddai diwygio’n digwydd yn ei farn ef. Esboniodd y Prif Weithredwr fod yr amgylchiadau y tro hwn yn wahanol i gynigion ad-drefnu blaenorol ac nad oedd modd dadlau’r cynigion.

 

PENDERFYNWYD:

 

Anfon ymateb i’r ymgynghoriad, yn seiliedig ar yr adroddiad, y cyflwyniad a’r drafodaeth a’i gopïo i’r Arweinwyr Gr?p er gwybodaeth.

 

Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine

Dyddiad cyhoeddi: 25/07/2018

Dyddiad y penderfyniad: 24/04/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/04/2018 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: