Manylion y penderfyniad

Councillors' Annual Reports

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad ar drefniadau i Aelodau'r Cyngor gyhoeddi adroddiadau blynyddol, yn unol â chanllawiau a roddwyd dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.  Roedd hwn yn rhoi diweddariad ar y mater a gyflwynwyd yn flaenorol ym mis Chwefror 2016.

 

Er mwyn cywirdeb, nodwyd y dylai paragraff 1.07 gyfeirio at adroddiadau blynyddol ac nid ffurflenni.

 

Er nad oedd rhaid i Aelodau’r Cyngor lunio adroddiadau blynyddol, roedd y ddeddfwriaeth yn rhoi dyletswydd ar gynghorau i sicrhau bod trefniadau i gyhoeddi adroddiadau blynyddol ar gyfer y rhai a ddewisai wneud hynny.  Oherwydd bod nifer o Gynghorwyr newydd, awgrymwyd y dylid rhoi nodyn atgoffa bod trefniadau o'r fath ar waith a gofyn i'r Aelodau hynny a ddewisodd greu eu newyddlen eu hunain gadarnhau pa mor aml y gwnaethant hynny dros y 12 mis diwethaf.  Awgrymwyd y dylid dweud hyn wrth Aelodau bob blwyddyn.

 

Soniodd Mr Rob Dewey am y nifer isel o Aelodau a ddewisodd lunio adroddiad blynyddol.  Eglurodd y Swyddog Monitro bod canlyniadau arolwg blaenorol yn dangos ei bod yn well gan y mwyafrif lunio eu newyddlen eu hunain.

 

Awgrymodd Mrs Julia Hughes y dylid newid geiriad yr argymhelliad i'w gwneud yn eglur y gall pob Aelod ddewis a oeddent am lunio adroddiad blynyddol neu newyddlen ai peidio, ac nad oedd unrhyw un yn orfodol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Johnson at ffyrdd mwy effeithiol o gyfathrebu, fel y cyfryngau cymdeithasol, a ddefnyddid gan rai Aelodau i ymgysylltu ag etholwyr.

 

Cytunodd y Pwyllgor ar newid i’r geiriad ar gyfer Argymhelliad 2 i adlewyrchu’r sylwadau hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Atgoffa Aelodau’r Cyngor o'r trefniadau i gyhoeddi adroddiadau blynyddol drwy anfon y templed (a oedd wedi'i atodi fel atodiad A i'r adroddiad hwn) ar e-bost at yr Aelodau a’u cyfeirio at y Canllawiau;

 

 (b)      Gofyn i’r Aelodau hynny sy'n dewis peidio â llunio adroddiad blynyddol gadarnhau a ydynt yn dewis cyfathrebu drwy sianelau eraill, er enghraifft, drwy newyddlen, y cyfryngau cymdeithasol, ac ati, a rhoi gwybod i’r Swyddog Monitro pa mor aml y defnyddiwyd dulliau cyfathrebu o'r fath dros y deuddeg mis diwethaf; ac

 

(c)       Anfon y nodyn atgoffa a gweithredu'r cais a nodwyd ym mharagraffau (a) a (b) dan yr argymhelliad hwn yn flynyddol.

Awdur yr adroddiad: Tracey Cunnew

Dyddiad cyhoeddi: 13/06/2018

Dyddiad y penderfyniad: 09/04/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/04/2018 - Pwyllgor Safonau

Accompanying Documents: