Manylion y penderfyniad

Request to Licence a Vehicle Which Does Not Meet the Vehicle Specification

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd, cyflwynodd aelodau’r Is-bwyllgor ac eglurodd y weithdrefn ar gyfer y gwrandawiad.

 

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i Aelodau ystyried cais gan Weithredwr Cerbydau Hurio Preifat trwyddedig i ymadael â’r manyleb cerbyd a gytunwyd fel y gellid trwyddedu’r cerbyd nad oedd yn cwrdd â lleiafswm y gofynion.

 

Roedd gan y Cyngor Fanyleb Cerbyd Hurio Preifat a oedd yn galluogi ymgeiswyr i ddeall beth oedd ei angen wrth ymgeisio i drwyddedu cerbyd ar gyfer Hurio Preifat ac roedd manylion hyn yn Atodiad A i'r adroddiad. Roedd y fanyleb yn cynnwys lleiafswm o ran gofynion ar gyfer cerbydau a’u bwriad oedd i sicrhau diogelwch teithwyr a’u bod yn teithio’n gyfforddus.

 

Yn ddiweddar roedd Renault Master gwyn wedi ei gyflwyno ar gyfer MOT a phrawf cydymffurfedd yn un o’r modurdai a enwebwyd gan y Cyngor i fynd i’r afael â phrofi Cerbydau Hurio Preifat a Cherbydau Hacni. Cysylltodd y sawl oedd yn profi â’r Adran Drwyddedu i roi gwybod nad oedd rhai o’r seddi yn cwrdd â’r gofyniad o isafswm maint o 400mm ac felly o ganlyniad nid oedd y cerbyd yn gallu pasio'r prawf.

 

Roedd y cerbyd yn y gorffennol wedi ei ddefnyddio fel ambiwlans ac roedd ei du mewn ar y ffurf hwnnw. Roedd yna ddwy gadair a oedd hefyd yn gweithredu fel pwyntiau angori cadeiriau olwyn. Roedd y gadair yn datgysylltu o gefn y gadair, a chai’r defnyddiwr cadair olwyn ei angori i gefn y sedd. Nid oedd y ddau bwynt hwn, wrth gael eu defnyddio fel seddi, yn cwrdd â lleiafswm y gofyniad o 400mm. Roedd rhai o’r seddi sefydlog eraill hefyd ychydig yn is na lleiafswm y gofyniad.

 

Roedd y Gweithredwr wedi gofyn i’r Is-bwyllgor Trwyddedu edrych ar y cerbyd gyda’r bwriad o ymadael â lleiafswm y gofynion i alluogi’r cerbyd i gael ei brofi a'i drwyddedu fel Cerbyd Hurio Preifat.  Dangoswyd ei gais ysgrifenedig a lluniau o’r cerbyd fel Atodiadau B ac C i’r adroddiad.

 

Gofynnwyd i Aelodau edrych ar y cerbyd a defnyddio'r seddi, gan sicrhau mai diogelwch ac esmwythdra defnyddwyr oedd eu prif ystyriaeth.

 

Dywedodd Mr Roberts ei fod yn gwerthfawrogi nad oedd y cerbyd yn cwrdd â’r safonau gofynnol, ond ei fod eisiau defnyddio'r cerbyd fel un a allai gynnig mynediad i gadeiriau olwyn, a theimlai fod y cyflenwad o gerbydau o’r fath yn brin yn yr ardal. Roedd yn ymgymryd â gwaith ysbyty ar gyfer BIPBC ac fe wnaeth sylw ar yr amser yr oedd cleifion yn aros am gerbydau addas i'w cludo.  Nid ar gyfer gwaith gyda’r nos roedd prif ddefnydd y cerbyd.

 

Roedd ei gerbyd yn cwrdd â holl ofynion diogelwch VOSA.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd eglurodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu mai dim ond ar gyfer uchafswm o 8 teithiwr y gallai unrhyw gerbyd gael ei drwyddedu, a oedd yn gyfanswm o 9 unigolyn gan gynnwys y gyrrwr.

 

Fe aeth aelodau o’r Is-bwyllgor i weld y cerbyd gan eistedd ymhob un o’r seddi. Dangosodd yr ymgeisydd y pwyntiau angori cadeiriau olwyn a sut yr oeddent yn trosglwyddo i ddod yn seddi.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau a darparodd yr ymgeisydd eglurhad ar y pwyntiau a godwyd a fodlonai'r Aelodau.

 

Penderfyniad

 

Gadawodd yr ymgeisydd ac Arweinydd yr Is-bwyllgor Trwyddedu yr ystafell wrth i’r Is-bwyllgor ystyried y cais. Ystyriodd yr Is-bwyllgor yr holl bwyntiau a godwyd gan Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r cyflwyniad gan yr ymgeisydd, a hefyd y cyfle i weld y cerbyd. Cymeradwyodd yr Is-bwyllgor y cais yn ddibynnol ar yr amodau canlynol:

 

·         Fod yr holl farciau y tu mewn a'r tu allan sy'n nodi y gallai'r cerbyd fod yn ambiwlans yn cael eu tynnu o fewn 14 diwrnod; a

·         Bod yr ymgeisydd neu’r unigolion sy’n gweithio ar ei ran a fydd yn defnyddio’r cerbyd yn ymgyfarwyddo eu hunain gyda'r lifft/gris  hydrolig yng nghefn y cerbyd, yr holl seddi a gwregysau ac unrhyw fecanweithiau perthnasol sy’n cynorthwyo teithwyr. Dylid dangos hyn, a hynny i safon foddhaol, i’r Adran Drwyddedu ar safle Cyngor Sir y Fflint, ddim hwyrach na 21 diwrnod ar amser a gytunir gan yr Adran Drwyddedu.

 

Penderfynwyd rhoi’r drwydded ac er bod y seddi y cyfeirir atynt fel Sedd A a Sedd B yn is na 400mm (dim ond ychydig yn is na 400mm oedd sedd B) roedd yr Is-bwyllgor o'r farn fod y seddi yn parhau yn addas, diogel, cyfforddus a digonol ar gyfer teithwyr ac nad oedd diogelwch teithwyr yn cael ei gyfaddawdu.  O ystyried defnydd blaenorol y cerbyd, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon gyda hygyrchedd y cerbyd ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Cafodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd eu gwahodd yn ôl i’r ystafell a chawsant wybod beth oedd y penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cais yn ddibynnol ar yr amodau canlynol:

 

·         Fod yr holl farciau y tu mewn a'r tu allan sy'n nodi y gallai'r cerbyd fod yn ambiwlans yn cael eu tynnu o fewn 14 diwrnod; a

·         Bod yr ymgeisydd neu’r unigolion sy’n gweithio ar ei ran a fydd yn defnyddio’r cerbyd yn ymgyfarwyddo eu hunain gyda'r lifft/gris  hydrolig yng nghefn y cerbyd, yr holl seddi a gwregysau ac unrhyw fecanweithiau perthnasol sy’n cynorthwyo teithwyr. Dylid dangos hyn, a hynny i safon foddhaol, i’r Adran Drwyddedu ar safle Cyngor Sir y Fflint, ddim hwyrach na 21 diwrnod ar amser a gytunir gan yr Adran Drwyddedu.

Awdur yr adroddiad: Chief Officer (Planning, Environment and Economy) (Theresa Greenhough)

Dyddiad cyhoeddi: 17/09/2019

Dyddiad y penderfyniad: 19/03/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/03/2018 - Is-bwyllgor Trwyddedu

Accompanying Documents: