Manylion y penderfyniad

Pension Administration/Communications Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Dywedodd Mrs Burnham nad oedd unrhyw beth penodol i’w amlygu yn yr adroddiad hwn ond bod y llwythi achosion dan atodiad 1 (tasgau arferol) ar gyfer lefelau achos Aelodau ar dudalen 91 ar ffurf graffig newydd yn hytrach na ffigyrau yn unig. Mae hyn yn rhoi gwell syniad o ba waith sydd wedi’i gwblhau a’i ychwanegu a swm y gwaith sy‘n dod i mewn i’r swyddfa yn ogystal â lefelau hanesyddol ac uchafbwyntiau o ran lefelau achos. Mae hefyd yn dangos lefel gweithgaredd y 3 Chyngor ar wahân.

Mae’r tuedd yn dangos cynnydd yn nifer y tasgau bob mis.  Mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â swm y gwaith a achoswyd wrth greu cyrff newydd a dderbynnir ar drosglwyddiadau staff, er enghraifft pan oedd 400 aelod o staff yn trosglwyddo i gyrff newydd a dderbyniwyd (NEWydd ac Aura).

Nododd Mrs Burnham hefyd fod dros 700 o aelodau anhysbys wedi’u hysbysu oherwydd gweithrediad iConnect a fyddai’n arwain at fwy o waith yn y cyfnod adolygu interim prysur ac y byddai hyn yn cael effaith ar dasgau eraill. Fodd bynnag, byddai disgwyl i’r cyfnod hwn dawelu ac mae trosglwyddo i iConnect yn gam cadarnhaol iawn i’r Gronfa o ran ansawdd data a chwrdd â therfynau amser statudol.

Cyfeiriodd Mr Hibbert at dudalen 91 a gofynnnodd a oedd problem o ran graddfa ac a oedd angen edrych ar y Gronfa gan ei bod yn swm grynodol o wybodaeth. Cadarnhaodd Mrs Burnham y byddai fformat y graff yn cael ei adolygu a bod yr ystadegau sylfaenol i’w cael ar ffurf tabl.

Dywedodd Mrs Burnham, yn atodiad 2 o dudalen 94 ymlaen, a oedd yn dangos y perfformiad yn erbyn y Dangosyddion Perfformiad Allweddol bod hyn hefyd wedi’i wneud ar ffurf graff er eglurder i ddangos y tri maes gwahanol o ofyniad cyfreithiol, amseroedd gweithdroi mewnol a'r profiad cyffredinol, hynny yw'r broses o’r dechrau i’r diwedd. Mae TPR â diddordeb yn y gofynion cyfreithiol ond mae’n bwysig edrych ar hyn o safbwyntiau gwahanol. Mae’n cynnwys 7 maes proses allweddol.

Gofynnodd y Cadeirydd i Mrs Burnham egluro’r graffiau newydd yn atodiad 2.

Mewn perthynas â thudalen 94, eglurodd Mrs Burnham bod y linell drwchus yn dangos % nifer yr achosion a oedd wedi’u cwblhau (echel dde) a bod y siart bar yn dangos nifer yr achosion a oedd wedi’u cwblhau (echel chwaith). Nodwyd nad oedd rhai o’r rhwymedigaethau cyfreithiol yn cael eu bodloni ac eglurwyd bod y mentrau amrywiol (iConnect, cynllun gwella data ac ati.) yn rhan o’r cynllun i gynorthwyo â chwrdd targedau ond nodwyd hefyd efallai nad oedd cydymffurfedd llwyr ym mhob maes yn bosibl gan ei fod yn dibynnu ar drydydd partïon yn cyflwyno’r data yn amserol e.e.cyflogwyr.

Dywedodd Mr Hibbert bod y cyflwyniad graff yn dangos y rhai nad oedd y Gronfa wedi'u cyflawni yn amlwg. Fodd bynnag, roedd y rhai lle roedd y Gronfa wedi rhagori’r gofyniad cyfreithiol yn anodd i’w gweld e.e. pam fod y linell drwchus ar y graff yn edrych yn llawer uwch na’r bariau ar dudalen 97.

Mae hyn yn ymwneud ag echel wahanol. Dywedodd Mrs Burnham, er i’r llinellau fod uwchben y bariau, mae’n dangos y cyflawnwyd 65% yn gyffredinol yn y mis cyntaf. Dywedodd y bydd nodiadau eglurhaol i egluro’r graffiau i’r Pwyllgor yn y dyfodol.

Ar ôl trafodaeth bellach, gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd cael nodiadau eglurhaol ar gyfer y graffiau yn yr atodiad hwn. Cadarnhaodd Mrs Burnham y byddai’n trefnu hyn.

 

Roedd tudalen 101 yn amlygu’r ystadegau o ran defnydd y system Hunanwasanaeth Aelodau. Dengys ar y siart lliw nifer yr aelodau cofrestredig wedi’u rhannu am bob uned, sy’n dangos 17.03% o aelodau posibl ond mae’r ffigwr hwn bellach wedi cynyddu i 18%. Pwysleisiwyd bod swm yr aelodau cofrestredig yn fawr gan fod cynlluniau eraill oddeutu 10-15%. Nodwyd ei bod hi’n ddyletswydd ar bawb i barhau i annog defnydd y system Hunanwasanaeth Aelodau trwy gyflogwyr a chyhoeddiadau’r Gronfa.

Ar ochr dde’r dudalen, amlinellwyd nifer yr unigolion sydd wedi cael mynediad i’r wefan, gyda 10,697 o ragolygon buddion yn cael eu cyfrifo. Mae’r system Hunanwasanaeth Aelodau wedi rhoi cyfle i unigolion gysylltu â’r wefan ac edrych are u buddion ar ddyddiadau gwahanol gan ddefnyddio cyflogau gwahanol. Dywedodd Mrs Burnham hefyd, bod 31,275 o aelodau posibl a dim ond 264 ddewisodd i dderbyn copïau papur o’r dogfennau. Mae hyn yn gadarnhaol iawn o ran defnydd. 

Dywedodd y Cynghorydd Llywelyn Jones, fel aelod o’r Gronfa Bensiynau a Chynghorydd nid oedd wedi gallu cofrestru ar y system Hunanwasanaeth Aelodau. Dywedodd Mrs Burnham fod hwn yn gynllun gwahanol ac ar hyn o bryd nid yw’r rhagamcaniadau buddion ac ati yn gweithio ar gyfer Cynghorwyr. Ymatebodd Mrs Burnham gan ddweud ei fod yn gynllun gwahanol ac ar hyn o bryd nid yw’r rhagamcaniadau buddion ac ati yn gweithio ar gyfer Cynghorwyr  Eglurodd ei bod hi’n annhebygol y byddai’r meddalwedd yn cael ei ddatblygu ar gyfer Cynghorwyr gan ei fod yn effeithio ar cyn lleied o Aelodau. 

PENDERFYNWYD:

 

1. Bod y Pwyllgor ystyried y diweddariad a rhoi sylwadau ar fformat y graffiau.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 09/08/2018

Dyddiad y penderfyniad: 21/03/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/03/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: