Manylion y penderfyniad

Pooling Investments in Wales

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyfeiriodd Mr Latham y Pwyllgor at dudalen 65, sef adran o’r rhaglen a oedd yn cynnwys adroddiad at bwrpasau gwybodaeth.

 

Roedd y pwyntiau allweddol a wnaed gan Mr Lathan fel a ganlyn;

 

·         Gwnaed cynnydd cadarnhaol iawn o ran sefydlu’r is-gronfeydd gyda’r ffocws ar hyn o bryd ar y Cronfeydd Ecwiti Byd-eang.  Gwnaed llawer o waith gan swyddogion i sicrhau bod hyn yn bodloni amcanion y Gronfa. Dylid cytuno ar yr is-gronfeydd yn ystod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyd-lywodraethu.

·         Trafodwyd cyllideb y WPP a nodwyd ei bod yn cynnwys holl gostau’r Awdurdod Cynnal.

·         Mae’r wybodaeth a’r rhaglen ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyd-lywodraethu ar wefan Sir Gaerfyrddin.

·         Mae’r Gweinidog wedi ysgrifennu at Gadeirydd/ Is-Gadeirydd y WPP yn croesawu penodiad gweithredwr ond yn nodi’r gwaith sydd angen ei wneud. Mae hyn yn dangos y lefel o graffu parhaus.

 

Dywedodd Mrs McWilliam fod cyllideb y WPP yn cynnwys meysydd megis staffio, gwasanaethau cyfreithiol a ffioedd gwasanaethau gweithredwr ar gyfer Link and Russell.

 

Cadarnhaodd Mrs Fielder ei bod wedi cynyddu'r ffioedd yn ymwneud â chyfuno o’u cymharu â’r rheiny wedi'u cynnwys o fewn y gyllideb, gan ei bod yn credu y bydd angen gwneud mwy o waith i weithredu’r is-gronfeydd na’r disgwyl. Fodd bynnag, anodd iawn yw rhagweld lefel y costau ar hyn o bryd.

 

Dywedodd Mr Hibbert bod pryderon am y cronfeydd yn gyffredinol o ran y gweithlu dwy haen oherwydd amodau / tâl gwahanol a materion Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth a gofynnodd a oedd unrhyw broblem y Sir Gaerfyrddin. 

 

Atebodd Mrs McWilliam gan ddweud bod y pryderon yn dueddol o fod yn ymwneud â staff yn cael eu trosglwyddo o awdurdodau lleol i’r gronfa ond nid yw hyn yn wir yn achos y WPP gan ei fod yn weithredwr allanol.

 

Gofynnodd Mr Everett a oeddent i gyd yn weithwyr o Sir Gaerfyrddin. Cadarnhaodd Mrs McWilliam fod y gweithwyr a oedd yn gweithredu’r gronfa yn weithwyr i Link and Russell ond y byddai’r staff a’r gweithwyr a fyddai’n ymwneud â’r gwaith Awdurdod Cynnal yn weithwyr o Sir Gaerfyrddin.

 

Roedd Mr Everett eisiau cadarnhad o ran sut oedd costau rhedeg yn cael eu rhannu. Cadarnhawyd eu bod yn cael eu rhannu’n gyfartal, hynny yw 1/8 i bob Cronfa. 

 

Ychwanegodd Mrs Fielder bod unrhyw gost yn ymwneud â Link and Russell mewn perthynas â maint yr asedau sy’n cael eu cyfuno. Amcangyfrifwyd a chynhwyswyd y rhain fel ffigyrau cyllideb ar wahân yn y cynllun busnes er y nodwyd ar gyfer 2018/19 y byddai’r rhain ond yn gostau rhan o’r flwyddyn gan nad yw’r asedau wedi’u trosglwyddo eto.

 

Gofynnodd Mr Latham a fyddai unrhyw aelod a’r Pwyllgor yn bresennol ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Cyd-lywodraethu. Cadarnhaodd Mr Hibbert y byddai’n ceisio mynychu.

 

Dywedodd Mr Latham bod trafodaethau parhaus yngl?n â’r ffaith na fyddai gan y Pwyllgor na’r Bwrdd yr hawl i aros ar gyfer rai rhannau o gyfarfod y Pwyllgor Cyd-lywodraethu oherwydd rhesymau cyfrinachedd ar y cam hwn e.e. oherwydd trafodaeth barhaus am ffioedd rheolwr. Dywedwyd nad oedd hon yn sefyllfa ddelfrydol a’r gobaith oedd y byddai aelodau’r Pwyllgor yn cael mynychu’r cyfarfod yn y dyfodol gan y byddai aelodau’r Pwyllgor ac aelodau’r Pwyllgor Cyd-lywodraethu yn gorfod dilyn yr un lefel o gyfrinachedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

1. Bod y Pwyllgor yn nodi'r adroddiad ac yn trafod y cynnydd sy’n cael ei wneud gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 09/08/2018

Dyddiad y penderfyniad: 21/03/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/03/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: