Manylion y penderfyniad

Business Plan 2018/19 to 2020/21

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cadeirydd y brif eitem ar y rhaglen i’r Pwyllgor a throsglwyddodd y cyfarfod i Mr Latham. Gofynnodd Mr Latham i’r Pwyllgor gymeradwyo’r Cynllun Busnes ar gyfer y 3 blynedd nesaf a chyfeiriodd yr unigolion at dudalen 24 y papurau a oedd yn nodi pwyntiau bwled yn pwysleisio prif bwrpasau’r Cynllun Busnes.

 

Gweler isod y pwyntiau allweddol mewn perthynas â’r Cynllun Busnes;

 

·         Roedd tudalennau 19-21 yn dangos y cynnydd yn erbyn cynllun busnes 2017/18.  Roedd y mwyafrif ar y trywydd cywir neu wedi’u cwblhau.

·         Roedd tudalen 25 yn dangos y strwythur diweddaraf ar gyfer y gronfa gyda’r WPP newydd.

·         Roedd llawer o dasgau ‘busnes arferol’ ar y Cynllun Busnes a oedd yn dangos y gwaith a oedd angen ei wneud i redeg y Gronfa; roedd tudalen 30 ymlaen yn amlinellu’r 9 maes gwaith gwahanol a nodwyd bod tasgau’r  Tîm Cyfathrebu â Chyflogwyr yn ychwanegiad newydd.

·         Ar waelod tudalen 32, roedd yr holl lwyddiannau a gyflawnwyd dros y 3 blynedd diwethaf wedi’u hamlygu a oedd yn cynnwys gwelliannau ar lywodraethu, rheoli risg a’r trefniadau llywodraethu ar gyfer y WPP.

·         Roedd y prif faterion a fyddai’n cael eu hwynebu dros y 3 blynedd nesaf wedi’u nodi ar dudalen 33 pan fydd y gronfa yn dominyddu’r Cynllun Busnes ond gallai hefyd fod goblygiadau o ganlyniad i’r broses rheoli cost (yn debygol o 2020).

·         Roedd tudalen 35 yn dangos y gyllideb ar gyfer 2018/19 a chyllideb 2017/18 yn erbyn yr amcangyfrif.

·         O ran llywodraethu’r Gronfa (tudalen 41) roedd tasgau allweddol yn cynnwys rhoi gofynion y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol newydd ar waith a chydnabod yr angen am fwy o hyfforddiant ar gyfer y Pwyllgor yn dilyn  y dadansoddiad o anghenion hyfforddi yn ddiweddar.

 

Parhaodd Mr Latham drwy ddweud bod yr adran ar Risgiau Cyllid a Buddsoddi (tudalen 47) yn dangos y bydd risgiau bob amser yn uchel gan nad yw’r Gronfa wedi’i hariannu yn llwyr nac ychwaith yn gallu canfod yr holl risgiau. Y Llwybr Hedfan yw’r “cynllun” sy’n cael ei roi ar waith er mwyn i’r Gronfa allu symud tuag at ariannu llawn a lleihau’r risg o ddirywiad. Bydd adolygiad actiwaraidd interim yn cael ei gynnal yn 2018 i helpu â chyllidebu ar gyfer cyflogwyr ac ochr yn ochr â hynny bydd fframwaith rheoli risg y cyflogwr yn cael ei gwblhau.

 

Mae risgiau eraill yn ystyried y weinyddiaeth a chyfathrebu aelodau. Mae gweinyddu yn cynnwys hyfforddiant ac allanoli gwaith y sawl sy’n cael eu hyfforddi i bartïon allanol er mwyn clirio’r ôl-groniadau ac ati. Bellach mae cyfathrebu ag Aelodau yn digwydd fwyfwy trwy Hunanwasanaeth Aelodau.

 

Mae’r tasgau nesaf ar gyfer y tîm gweinyddol (gan gynnwys cyfathrebu) i’w gweld ar dudalen 52, mae’r rhan fwyaf o eitemau eisoes yn gyfarwydd fel gwaith parhaus; fodd bynnag byddai’r tasgau yn cymryd peth amser i’w gweithredu. Dyma restr o’r tasgau;

 

1.    Gwella ansawdd data Aelodau sy’n hanfodol ar gyfer y Gronfa drwy fentrau amrywiol e.e. cysoni Isafswm Pensiwn Gwarantedig (sydd wedi’i allanoli i   Equiniti a’r prosiect cydgasgliad (peth cymorth gan Mercer)

2.       Y cynllun gwella data (a fyddai’n cael ei gwblhau yn dilyn canllaw'r Rheoleiddiwr Pensiynau). 

3.    Gweithredu iConnect ar gyfer y Gronfa i ystod eang o gyflogwyr

 

 

Yna, trafododd Mrs Fielder y cyllid i gyflawni’r Cynllun Busnes.  Roedd tudalen 34 yn dangos y llif arian dros dair blynedd o 2018 9 2021 ar sail flynyddol a’r rhagolwg ar gyfer 2017/18. Y bwriad oedd y byddai hyn yn cynorthwyo â rheoli trysorlys.

 

Ychwanegodd bod y ffigyrau sydd wedi’u hamcangyfrif ar gyfer Cyfandaliadau, Trosglwyddiadau i Mewn a Throsglwyddiadau Allan wedi’u cyfrifo yn seiliedig ar ffigyrau hanesyddol. Mae’r buddion a’r cyfraniadau pensiwn a ragwelir dros y tair blynedd nesaf yn haws i’w mesur oherwydd y Prisiad Actiwaraidd a’r cyfraniadau ardystiedig. Cadarnhaodd Mrs Fielder y byddai’r gronfa yn cael mwy o eglurder ar ôl yr adolygiad ariannu ar gyfer yr amcangyfrifiadau o ran y ffigyrau dros 2018- 2021.

 

Gweler y manylion allweddol a eglurodd Mrs Fielder mewn perthynas ag amcanestyniad llif arian ar gyfer 2018/19 a’r gyllideb ar gyfer 2018/19 isod;

 

·         Mae’r ansicrwydd ynghylch buddsoddiadau mewnol ar randaliadau ar gyfer marchnadoedd preifat.

·         Rhandaliadau yn llawer uwch na’r incwm yr oedd y Gronfa wedi’i dderbyn oherwydd amodau’r farchnad.

·         Ar hyn o bryd, mae disgwyl i’r Gronfa fod â llif arian cadarnhaol (o oddeutu £10m) yn 2018/19 ond gallai hyn newid yn dibynnu ar sawl ffactor.  Bydd mwy o ystyriaeth yn cael ei rhoi yn dilyn adolygiad interim 2018.

·         Y prif newid o ran y gyllideb yw ffioedd rheolwr y gronfa, roedd y gyllideb yn 2017/18 oddeutu £11.9 miliwn ac mae’r amcangyfrif o’r dirdrafodion oddeutu £15.2 miliwn. Y prif reswm am y gwahaniaeth oedd bod gwerth y Gronfa wedi cynyddu’n fwy na’r disgwyl.

·         Mae cynnydd wedi bod o ran ffioedd, yn bennaf oherwydd y gwaith ychwanegol y mae’r gronfa wedi’i gwblhau e.e. gwarchod ecwiti a chynorthwyo’r Gronfa â marchnadoedd preifat.

·         Mae cronfeydd wrth gefn ar gyfer y prosiect Cymudiad Pitw a fydd efallai yn cael eu hallanoli, yn ogystal â’r cyfanrediad.

·         Mae’r gyllideb gyfunol yn cynnwys cost unrhyw gyngor allanol ar gyfer y gronfa wrth symud ymlaen, ond nid yw gwaith mewnol, hynny yw cyfarfodydd, yn cynnwys costau cyflog ar wahân.

 

Cwestiynodd y Cyngorydd Bateman y ffioedd buddsoddi a pham bod ffioedd rheolwr y gronfa wedi cynyddu. Eglurodd Mrs Fielder bod cynnydd mwy na’r disgwyl i werth y Gronfa. Roedd y gyllideb yn y dyfodol yn dadansoddi treuliau dosbarthiadau o asedau yn seiliedig ar yr hyn dalodd y Gronfa am yr asedau sylfaenol. Caniataodd hyn ar gyfer y treuliau pwynt sylfaen cyffredinol. Os yw gwerth y Gronfa’n cynyddu’n fwy na’r disgwyl, byddai’n uwch na hynny ac mae hyn yn ei gwneud yn anodd i amcangyfrif yn gywir oni bai bod y marchnadoedd yn sefydlig iawn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bateman i Mrs Fielder egluro’r paragraff olaf ar dudalen 35 o ran y Tîm Cyfathrebu â Chyflogwyr. Eglurodd Mrs Fielder bod cyfraddau cyfraniad y cyflogwr yn y Prisiad Actiwaraidd lle gaiff y costau gweinyddu ar gyfer y gwasanaethau Tîm Cyfathrebu â Chyflogwyr i’w talu trwy swm ychwnaegol a fyddai’n cael ei gynnwys yn y gyfradd gyfraniad ar gyfer y prisiad nesaf.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Bateman yr hyn a oedd ar dudalen 26 o ran beth oedd y gwahaniaeth rhwng costau y 7 rheolwr cronfa craidd allanol a’r 45 rheolwr allanol nad ydynt yn rhai craidd. Dywedodd Mrs Fielder bod y costau wedi’u rhannu ar gyfer pob rheolwr. Mae’r rheolwyr craidd yn fuddsoddiadau megis ecwitiau rhestredig, incwm sefydlog a mae’r rheolwyr nad ydynt yn rhai craidd yn fuddsoddiadau megis cyllid marchnad breifat. Mae’r rheolwyr buddsoddiadau a ddefnyddir i’w gweld yn yr adroddiad JLT i’r Pwyllgor.

 

 

Gofynnodd Mr Hibbert a oedd angen i’r Gronfa neilltuo arian o fewn cyllideb 2018/19 ar gyfer datblygiadau pellach o ran Hunanwasanaeth Aelodau. Dywedodd Mrs Burnham mai’r costau hanesyddol ar gyfer Hunanwasanaeth Aelodau oedd y costau gweithredu ychwanegol ar gyfer y meddalwedd newydd ac felly nid oedd y costau yn ailgodi bob blwyddyn. 

 

O ran sylwadau risg, gofynnodd Mr Hibbert a oedd y Gronfa yn fodlon yn y meysydd a oedd â mwy nag un lliw rhwng y lliw yr ydym a’r lliw rydym eisiau bod e.e. ambr a melyn. Gweler enghraifft ar dudalen 38 yn disgrifio nifer y staff annigonol gyda statws risg coch ar hyn o bryd a tharged o statws gwyrdd. Ar dudalen 39 statws risg staff presennol y cyflogwr yw coch, sydd hefyd yn symud i darged gwyrdd. Felly holodd Mr Hibbert a oedd y Gronfa yn fodlon â’r lefel o fanylder yn y Camau Gweithredu Pellach ar y tudalenau hyn, lle fydd angen i’r statws risg gyflawni naid sylweddol i symud o goch i wyrdd.

 

Cytunodd Mr Everett gan holi a ddylai cyflogwyr fod â statws melyn yn hytrach na choch yn y risgiau allweddol.

 

Nododd Mr Latham y dylid hefyd ystyried yr amser disgwyliedig a ddangosir yn y cyd-destun hwn a dywedodd bod y sgoriau risg presennol yn fater o farn mewn rhai achosion. Croesawodd unrhyw sylw gan y Pwyllgor a dywedodd y byddai’n myfyrio drostynt ar gyfer rhan o gam nesaf y Gofrestr Risg.

 

Dywedodd Mrs Burnham mai dim ond yn ddiweddar oedd Cyngor Sir y Fflint wedi rhoi iConnect ar waith, felly dyna pam oedd lliw risg y Cyflogwr yn uwch na’r hyn sy’n cael ei ystyried yn briodol. Cytunodd Mr Latham gyda Mrs Burnham ei bod hi’n ddyddiau cynnar ac awgrymodd y dylid rhoi hyn ar raglen bob Panel Ymgynghorol Pensiynau i ddiweddaru unrhyw newid.

 

Dywedodd Mr Hibbard bod Aelod a oedd yn gymhorthydd addysgu ac â phedair swydd wahanol yn derbyn pedwar pensiwn gwahanol; felly gofynnodd Mr Hibbert a fyddai’r prosiect cyfanrediad yn ymdrin â materion o’r fath. Ymatebodd Mrs Burnham gan gadarnahu y byddai’r proiect yn ymdrin â materion o'r fath.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion ar eu llwyddiant wrth gyflawni’r tasgau yn y cynllun busnes blaenorol. Yn benodol ym mharagraff 1.03 yr adroddiad eglurhaol a oedd yn cyfeirio at y Radd Haen Gyntaf y Cod Stiwardiaeth, sef anrhydedd nad oedd llawer o gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn meddu arni. Diolchodd y Cadeirydd hefyd i’r tîm gweinyddu am y gwaith ychwanegol a wnaed ar ddiwedd y flwyddyn, hynny yw cyflwyno iConnect o flaen yr amserlen fel yr amlinellwyd ym mharagraff 1.04.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Bod Aelodau’r Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed tuag at Cynllun Busnes y Gronfa yn ystod 2017/18

 

2.    Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Cynllun Busnes yn Atodiad 2 yn ymwneud â’r cyfnod 2018/19 hyd at 2020/21

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 09/08/2018

Dyddiad y penderfyniad: 21/03/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/03/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: