Manylion y penderfyniad

Budget Stage 2: Review of Car Parking Charges

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To seek approval for the revised car parking charges and the date for introducing car parking charges in Flint.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas Gam 2 y Gyllideb: Adolygiad o Ffioedd Parcio Ceir a gynigiodd bolisi codi ffioedd terfynol a dyddiad dechrau ar gyfer ffioedd parcio ceir yn y Fflint.

 

            Ym mis Rhagfyr 2017, cymeradwyodd y Cyngor gynigion Cam 2 ar gyfer Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2018/19 a oedd yn cynnwys ffioedd parcio ceir. Roedd hyn yn amodol ar gyfeirio sawl cynnig penodol at Drosolwg a Chraffu am graffu manylach cyn ystyriaeth bellach yn y Cabinet. Trafodwyd y ffioedd parcio ceir gan aelodau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd, a oedd yn agored i bob Cynghorydd, ar 16 Ionawr 2018 lle gwnaed nifer o awgrymiadau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad. Nid oedd modd darparu ar gyfer rhai o’r cynigion a wnaed ac amlinellwyd y rhesymau yn yr adroddiad.

 

            Trefnwyd cydgyfarfod rhwng Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a Throsolwg a Chraffu’r Amgylchedd ar gyfer 15 Mawrth 2018 lle trafodwyd adroddiad y Cabinet oedd yn rhoi manylion y cynigion. Roedd hwn yn gyfarfod ar y cyd gan mai Adnoddau Corfforaethol oedd y Pwyllgor arweiniol ar gyfer craffu’r gyllideb ac roedd gan yr Amgylchedd bolisi a gweithrediadau parcio ceir fel rhan o’i gylch gorchwyl. Dosbarthwyd rhestr lawn o’r materion a godwyd yn y cyfarfod hwnnw i Aelodau’r Cabinet gyda’r ymatebion a roddwyd, gan gynnwys adborth geiriol gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd. Yn dilyn sylwadau’r cyfarfod ar y cyd, cynigiwyd newid y ffi yn yr Atodiad o 30c am 30 munud, i 30c am 60 munud. Yr effaith ar y gyllideb fyddai £11,000, ond petai trwyddedau blynyddol yn cael eu gwerthu i fusnesau, byddai hyn yn creu £15,000 pellach a fyddai’n talu am yr effaith. Darparodd yr Atodiad fanylion yr holl ffioedd; byddai’r trefniadau codi ffioedd newydd yn cael eu hysbysebu ym mhob maes parcio yn ystod mis Ebrill 2018 ac yn dod i rym o 14 Mai 2018 ymlaen. Yn ogystal â’r sylw hwnnw, gofynnodd y Cydbwyllgor hefyd am grynodeb o’r costau rheoli a chynnal a chadw ar gyfer 2017/18 a 2018/19 a rhestr lawn o’r meysydd parcio lle codir a lle na chodir ffioedd a gafodd ei darparu.

 

Gohiriwyd cyflwyno ffioedd parcio ceir yn y Fflint oherwydd nad oes lleoedd parcio ceir ar gael yn gyffredinol yn y dref o ganlyniad i raglen adfywio canol y dref oedd bellach yn agos at gwblhau. Byddai gorchmynion parcio ar y stryd yn cael eu cyflwyno ar rai ffyrdd yn yr ardal ar yr un pryd â’r ffioedd parcio ceir. Yn amodol ar wrthwynebiadau, 21 Mai 2018 fyddai’r dyddiad targed i gyflwyno’r trefniadau codi ffioedd newydd.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y gallai’r Cynghorau Tref ystyried rhoi cymhorthdal i ffioedd parcio ceir yn eu hardal ac felly byddai unrhyw gynnig o’r fath yn cael ei ystyried yn ôl teilyngdod a chyflawniadwyedd yn y strategaeth parcio ceir gyfredol.

 

            Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai adolygiad o’r ffioedd parcio ceir diwygiedig yn cael ei gynnal ymhen chwe mis.          

 

            Dywedodd y Cynghorydd Shotton fod y cynigion wedi’u hystyried yn y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ddwywaith gyda’r cynigion cychwynnol yn cael eu newid yn dilyn y sylwadau a wnaed. Diolchodd i’r Cynghorydd Thomas, y Prif Swyddog a’r tîm swyddogion am y gwaith ar hyn a fu’n bwnc hir ac emosiynol. Dangosodd y newidiadau a wnaed i’r cynigion gwreiddiol barodrwydd y Cabinet i wrando ar sylwadau gan gydweithwyr.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Bithell ei fod yn poeni bod lefel y ffioedd yn yr Wyddgrug yn uwch na gweddill y Sir. Soniodd hefyd ar yr effeithiau ar y trefi a’r ardaloedd o’u hamgylch gyda ffioedd parcio ceir a chau rhai marchnadoedd stryd. Diolchodd y Cynghorydd Thomas iddo am ei sylwadau ac ailadroddodd y byddai’r ffioedd parcio ceir yn cael eu hadolygu ymhen chwe mis.

 

PENDERFYNWYD:

           

(a)       Cymeradwyo’r ffioedd parcio ceir diwygiedig, fel y manylwyd yn Atodiad 1, gyda diwygiad i ymestyn y ffi o 30c am 30 munud i ffi o 30c am 1 awr yn lle hynny;

 

            (b)       Cadw adolygu effeithiau’r trefniant codi ffioedd newydd; a

 

(c)        Chymeradwyo’r dyddiad dechrau ar gyfer ffioedd yn y Fflint, fel y manylwyd yn Atodiad 1.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 14/05/2018

Dyddiad y penderfyniad: 20/03/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/03/2018 - Cabinet

Yn effeithiol o: 29/03/2018

Accompanying Documents: