Manylion y penderfyniad

Flintshire County Council's Integrated Transport Strategy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on the developing Integrated Transport Strategy in the County.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Carolyn Thomas yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar y gwaith o ddatblygu’r Strategaeth Trafnidiaeth Integredig ar gyfer Sir y Fflint. Roedd yn ddiolchgar i’r tîm am weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau arian cyfalaf i gefnogi cynlluniau yn y Strategaeth a oedd yn ceisio darparu ateb trafnidiaeth gynaliadwy tymor hir drwy integreiddio pob dull trafnidiaeth gyda chysylltiadau ar draws y sir a’r rhanbarth ehangach.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) a’r Rheolwr Cludiant a Logisteg gyflwyniad yn ymwneud â’r materion a ganlyn:

 

·         Prif Ysgogwyr – Pam ymdrin â’r mater hwn yn awr?

·         Ateb Hollol Integredig

·         Llwybr Beicio a Theithio Llesol

·         Gwelliannau i’r Priffyrdd

·         Rhwydwaith Bysiau

·         Gwelliannau i’r Rheilffyrdd

·         Cysylltu Sir y Fflint

·         Cynnydd hyd yma

 

Roedd y Strategaeth wedi esblygu o Gynllun Glannau Dyfrdwy i ymestyn ar draws y sir a’i alinio â system Metro Gogledd Ddwyrain Cymru (a oedd yn cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru) ac roedd wedi helpu i ddenu arian cyfalaf. Er bod rhai o’r prif ysgogwyr yn ymwneud â mynd i’r afael â thagfeydd ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy fel prif ganolbwynt cyflogaeth yr ardal honno, nod y prosiect cyffredinol oedd sefydlu cysylltiadau rhwng safleoedd cyflogaeth allweddol ac ardaloedd preswyl ledled Sir y Fflint. Cafodd yr Aelodau eu hannog i ddod i weithdy ar 11 Ebrill 2018 i drafod yr adolygiad o’r cymorthdaliadau trafnidiaeth gyhoeddus a datblygiad trefniadau trafnidiaeth gymunedol.

 

Cafodd y Pwyllgor ei gyflwyno i Mr. Askar Sheibani (Cadeirydd Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy) a siaradodd am bwysigrwydd economaidd Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn y rhanbarth a’r nod o wella’r cysylltiadau gydag ardaloedd eraill yn Sir y Fflint.  Rhoddodd ganmoliaeth i ddull gweithredu blaengar y Cyngor a’i gwaith roedd wedi ei gyflawni hyd yma.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyfeiriodd yr Aelodau at y cynnydd a wnaed a’r ymrwymiad i greu cysylltiadau er mwyn cyrraedd at gyfleoedd cyflogaeth.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Shotton gwestiwn am yr amserlenni ar gyfer y canolbwynt rheilffordd/ffyrdd/bysiau. Dywedodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’r arian ar gyfer y bysiau newydd ac roedd disgwyl iddynt fod yn weithredol erbyn mis Hydref. Er bod arian a thir ar gael, byddai angen gwneud penderfyniad yngl?n â’r trefniadau gweithredol.  Y ddarpariaeth ar gyfer rheilffyrdd oedd yr agwedd fwyaf uchelgeisiol a byddai’r opsiynau yn cael eu trafod gan weithgor ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru.

 

Er ei fod yn croesawu’r Strategaeth, roedd y Cynghorydd Dolphin o’r farn nad oedd digon o fanylion yn yr adroddiad, yn enwedig yngl?n â’r manteision i drigolion yng ngorllewin Sir y Fflint.  Nodwyd ei bryderon ynghylch y tagfeydd yn ardal cyffordd Lloc/Caerwys ar yr A55. Roedd y Prif Swyddog yn cydnabod nad oedd yr adroddiad yn adlewyrchu lefel y gwaith a wnaed hyd yma ond esboniodd fod y prosiect yn ehangu i gynnwys ardaloedd eraill. Nid oedd yn bosibl amcangyfrif cyfanswm y gost ar hyn o bryd gan fod y prosiect yn cynnwys nifer o gynlluniau oedd yn esblygu ac roedd rhai yn bodloni’r meini prawf ar gyfer arian Teithio Llesol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bibby am gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru am effaith llai o wasanaethau bysiau mewn ardaloedd gwledig. Mewn ymateb i sylwadau am Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, esboniwyd y byddai canlyniadau arolwg diweddar i ganfod patrymau gweithio shifftiau o gymorth i lunio’r amserlenni bysiau newydd. O ran y gwelliannau i deithiau bysiau drwy Stryd Fawr Shotton, y bwriad oedd ymgynghori’n llawn â thrigolion a busnesau ar hyd coridor Glannau Dyfrdwy. O ran y cyfleuster Parcio a Theithio arfaethedig o Benyffordd i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, byddai datblygiad y Bartneriaeth Ansawdd yn sicrhau bod cysylltiadau yn ymestyn i ardaloedd eraill fel yr Wyddgrug a Bwcle. Cytunodd y Prif Swyddog i gyfleu pryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol ar lwybrau beiciau i Heddlu Gogledd Cymru.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Evans opsiynau ar gyfer cysylltu Parth 4 Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy â llwybrau eraill ar gyfer Stryd Fawr Shotton.  Nododd y Prif Swyddog y pryderon yn ymwneud â diogelwch oherwydd y traffig ar Stryd Fawr Shotton a’r awgrym i osod synwyryddion i dynnu sylw cerbydau nwyddau trwm wrth iddynt nesáu at y bont reilffordd. Mewn perthynas â Parkway, Glannau Dyfrdwy, nodwyd bod y Cyngor yn gweithio gyda dylunydd y Llwybr Coch ar ddatblygiad yr orsaf reilffordd arfaethedig newydd.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Owen Thomas, siaradodd Mr. Sheibani am yr angen i ymgysylltu â busnesau ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy i annog gweithwyr i ddefnyddio cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dunbobbin at y potensial i ddefnyddio’r afon a hefyd bod y Cyngor yn sefydlu ei gwmni ei hun i ddarparu gwasanaethau bysiau. Mewn ymateb i ymholiadau, esboniodd y swyddogion y byddai ceisiadau am arian grant yn cysylltu â dyletswyddau deddfwriaethol, ac y byddent yn gofyn am ddiweddariad gan Network Rail yngl?n â thrydaneiddio’r linell rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston.

 

Yn dilyn sylwadau ynghylch Maes Awyr Penarlâg, dywedodd y Cynghorydd Butler wrth yr Aelodau nad oedd ehediadau masnachol yn debygol ar hyn o bryd. Aeth yn ei flaen i ddweud, er y byddai rhai o’r datrysiadau trafnidiaeth o fudd i Gynghrair Merswy-Dyfrdwy, roedd y prosiect yn ymwneud yn bennaf â chynhwysiant: gwella mynediad i safleoedd cyflogaeth a mynd i’r afael â phroblemau recriwtio a chadw gweithwyr.

 

Roedd y Cynghorydd Gay o’r farn y byddai’n ddefnyddiol edrych ar y map yn fanwl a chododd rhai materion ynghylch mynediad o Saltney i Lannau Dyfrdwy. Dywedodd y Rheolwr Cludiant a Logisteg fod swyddogion yn edrych ar faterion ehangach ac yn ymwybodol o’r mannau cyfyng.  Ar fater y safle Parcio a Theithio arfaethedig ym Mhenyffordd, esboniwyd bod tir eisoes ar gael a byddai safleoedd eraill yn cael eu hystyried.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bateman am y llwybr beicio o’r Wyddgrug i Frychdwn, dywedodd y Prif Swyddog fod y galw wedi cael ei nodi a bod opsiynau yn cael eu hystyried er mwyn i ymgynghorydd ddarparu costau. Roedd gorsaf reilffordd ger Brychdwn a chyfleuster Parcio a Theithio yng Nghaer yn cael eu hystyried a byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) i nifer o sylwadau gan Aelodau a chyfeiriodd at y berthynas rhwng y Strategaeth a’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Roedd y Cadeirydd yn dymuno datgan ei werthfawrogiad i bawb oedd ynghlwm â’r hyn roedd ef yn ystyried fel prosiect cyffrous i Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r gwaith ar ddatrysiad Trafnidiaeth Integredig Cyngor Sir y  Fflint a’i gysylltiadau â chysylltiadau ehangach cynlluniau Metro Gogledd Ddwyrain Cymru gan Lywodraeth Cymru.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 30/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 13/03/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/03/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Accompanying Documents: