Manylion y penderfyniad
Risk Management Strategy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Endorse the refresh of the Risk Management
Strategy
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu adroddiad ar adnewyddu’r Strategaeth Rheoli Risg mewn ymateb i ganfyddiadau’r Archwiliad Mewnol diweddar ar reoli risgiau gweithredol. Rhannwyd gwybodaeth hefyd ar nifer o gamau a oedd yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â meysydd i’w gwella ymhellach.
Er mwyn ehangu ar Adran 7 o’r Strategaeth ar ‘Atebolrwydd Risg’, dosbarthwyd adendwm a oedd yn nodi cyfrifoldebau swyddogion statudol i’w cynnwys fel paragraff 7.2 a chyfrifoldebau tîm yr uwch swyddogion. Awgrymodd y Prif Weithredwr y gellid ehangu'r adran eto drwy egluro cyfrifoldebau Aelodau'r Cabinet.
Mynegodd y Cynghorydd Woolley bryderon yngl?n â chyfeiriadau at y system ‘CAMMS' o fewn yr adroddiad Archwilio Mewnol. Eglurodd y Swyddog Gweithredol bod y system yn cael ei defnyddio lle bo hynny’n briodol ar faterion strategol/corfforaethol a bod trefniadau ychwanegol y tu hwnt i’r system i reoli risgiau. Soniodd y Prif Weithredwr am fabwysiadu newid o ran arferion i dynnu sylw at risgiau a oedd yn datblygu o fewn portffolios yn gynt.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r adnewyddiad ar y Polisi a'r Strategaeth Rheoli Risg ar gyfer 2018, gan ychwanegu cyfrifoldebau Swyddogion Statudol ac Aelodau'r Cabinet yn Adran 7 ar Atebolrwydd Risg.
Awdur yr adroddiad: Karen Armstrong
Dyddiad cyhoeddi: 18/06/2018
Dyddiad y penderfyniad: 21/03/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/03/2018 - Pwyllgor Archwilio
Dogfennau Atodol: