Manylion y penderfyniad
Overview of Ethical Complaints
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad am gwynion am achosion honedig o dorri cod ymddygiad yr aelodau a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Roedd cyfanswm o naw cwyn wedi dod i law yn 2016/17 a chafwyd dau yn 2017/18 hyd yma.
Gan fod yr adroddiad i fod yn ymddangos yn rheolaidd ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, gofynnodd Mrs. Julia Hughes a ellid ei wella i ddangos yr Awdurdod, ffynhonnell y g?yn a chanlyniad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ac o ganlyniad, byddai angen i’r adroddiad gael ei ystyried mewn sesiwn gaeedig.
Roedd Cynghorydd Heesom yn teimlo y gallai’r wybodaeth yn yr adroddiad gael ei hymestyn wrth ei chadw fel dogfen gyhoeddus. Cefnogwyd hyn gan y Cynghorydd Woolley.
Awgrymodd y Swyddog Monitro y gallai’r adroddiad nodi Cyngor Tref neu Gymuned ‘1’, ‘2’ ac ati, ac Aelod ‘a’, ‘b’ ac ati, i wahaniaethu’r math o gyngor a sawl sy’n cwyno, heb eu hadnabod. O'i roi i bleidlais, cytunwyd ar y gwelliant.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod nifer a mathau o gwynion yn cael eu nodi; a
(b) Bod adroddiadau’r dyfodol yn darparu eglurder ar wahanol gynghorau ac aelodau gan ddefnyddio ffigyrau a llythrennau i wahaniaethu rhyngddynt heb eu hadnabod.
Awdur yr adroddiad: Tracey Cunnew
Dyddiad cyhoeddi: 20/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 05/03/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/03/2018 - Pwyllgor Safonau
Accompanying Documents: