Manylion y penderfyniad
Application for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu
Statws y Penderfyniad: For Determination
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd), wedi ei thrwyddedu gan yr Awdurdod.
Eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol ac roedd yr ymgeisydd wedi datgelu dwy drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus. Pan dderbyniwyd Datgeliad cofnodion troseddol yr ymgeisydd gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG), dangoswyd y ddau euogfarn. Nododd Arweinydd y Tîm Trwyddedu y gofynnwyd i’r ymgeisydd ddarparu eglurhad ysgrifenedig o’i euogfarnau ac roedd hyn wedi’i atodi i’r adroddiad. Yn sgil natur yr euogfarnau, gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd.
Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i roi eglurhad llawn o’i euogfarnau blaenorol a fanylwyd ar ddatgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Defnyddiodd yr ymgeisydd y cyfle i ddarparu copïau o eirdaon cymeriad i’r Panel er gwybodaeth. Cyfeiriodd at ei eglurhad o'i euogfarnau a oedd wedi'i atodi at yr adroddiad a darparodd rhagor o wybodaeth am yr amgylchiadau a arweiniodd at gyflawni'r troseddau. Nododd ei fod yn difaru ei euogfarnau a ddigwyddodd sawl blwyddyn yn ôl a nododd eu bod yn ddigwyddiadau unigol. Pan holodd y Panel yr ymgeisydd darparodd wybodaeth gefndir am ei amgylchiadau personol a’i hanes cyflogaeth ac fe gyfeiriodd at ei fywyd teuluol sefydlog a'i gyflogaeth bresennol.
Siaradodd cyflogwr presennol yr ymgeisydd o blaid yr ymgeisydd a darparu trosolwg o natur ei waith. Dywedodd ei fod yn croesawu’r cyfle i gyflogi’r ymgeisydd mewn capasiti pellach a’i fod yn ei ystyried yn ‘ased’ i’w fusnes.
Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd yn fanwl am ei euogfarnau a cheisiodd eglurhad pellach o'r amgylchiadau a arweiniodd at yr ail euogfarn a'r ddirwy a dderbyniodd.
Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd, Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r parti cysylltiedig adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn penderfynu ar y cais.
5.1 Penderfyniad ar y Cais
Wrth wneud penderfyniad am y cais, rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i ganllawiau’r Cyngor ar ymdrin ag euogfarnau a atodwyd i’r adroddiad. Rhoddodd y Panel ystyriaeth i amgylchiadau pob achos a'r amser a oedd wedi mynd heibio ers ei euogfarn diweddaraf a theimlwyd fod yr ymgeisydd wedi rhoi cyfrif llawn a chredadwy o’i weithredoedd. Cytunodd y Panel bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd).
Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu, yr ymgeisydd a'r parti cysylltiedig yn ôl a chafodd y cyfarfod ei ailymgynnull.
5.2 Penderfyniad
Dywedodd y Cadeirydd wrth yr ymgeisydd fod yr Is-bwyllgor wedi penderfynu ei fod wedi rhoi cyfrif llawn a chredadwy o’i weithredoedd a'i euogfarnau blaenorol a’u bod wedi cytuno i gymeradwyo’r cais.
PENDERFYNWYD:
Bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd) dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 ac y dylid cymeradwyo’r Drwydded.
(Dechreuodd y trydydd gwrandawiad am 12:10pm a daeth i ben am 12:40pm).
Awdur yr adroddiad: Gemma Potter
Dyddiad cyhoeddi: 31/08/2018
Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/02/2018 - Is-bwyllgor Trwyddedu