Manylion y penderfyniad

Approval of Costs for Batch 3 Strategic Housing and Regeneration Programme (SHARP) Schemes

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To seek approval for the next batch of housing sites for development.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge adroddiad Cymeradwyo’r Costau ar gyfer Swp 3 Cynlluniau Tai ac Adfywio Strategol (RhTAS) a ddarparodd wybodaeth am y cynlluniau arfaethedig, gan gynnwys lleoliad, mathau o eiddo, dyluniad a chynllun a’r costau adeiladu a ragwelir.

 

Dynododd yr adroddiad hefyd y dewisiadau ariannu sy’n cael eu ffafrio a manylodd ar Dybiaethau’r Cynllun Datblygu y cafodd ymarferoldeb y cynlluniau eu mesur a’u hasesu yn eu herbyn.

 

Dyma oedd y safleoedd a gynigiwyd i ddatblygu 92 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy newydd:

 

·         Nant y Gro, Gronant;

·         Cyn Ganolfan y Cyngor, Dobshill; a

·         Llys Dewi, Pen-y-ffordd (ger Treffynnon).

 

Roedd datblygiad y safleoedd hyn ar gyfer tai cymdeithasol a fforddiadwy’n flaenoriaeth strategol i’r Cyngor a chafodd y safleoedd eu cytuno ymlaen llaw i’w cynnwys yn y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol. Byddai’n dod â chyfanswm nifer yr eiddo a gymeradwywyd gan y Cyngor hyd yma i 293.

 

Esboniodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod y Grant Tai Fforddiadwy ar gael i Awdurdodau Lleol cadw stoc oedd yn datblygu cartrefi newydd o 2018/19. Dyma oedd dyraniad mynegol Sir y Fflint: 2018/19 - £1.9m; a 2019/20 - £1.2m. Talodd y grant hyd at uchafswm o 58% o gyfanswm costau’r cynllun tros gyfnod o 30 mlynedd. Lle bo angen, bydd y Cyngor yn ystyried y defnydd o’i ecwiti ar y cyd, derbynebau perchnogaeth ar y cyd a’r cronfeydd symiau gohiriedig i gynorthwyo gydag ariannu tai fforddiadwy trwy’r rhaglen, lle’r oedd yr amodau’n caniatáu. Darparodd y tabl yn yr adroddiad fanylion y costau a ragwelwyd i bob un o’r cynlluniau arfaethedig gyda chyfanswm y Cyfrif Refeniw Tai a ragwelwyd yn dod â’r gofyniad benthyca i £9.823m.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Attridge y byddai angen caniatâd cynllunio ar y safleoedd. Mynegwyd pryderon yn y Digwyddiad Ymgynghori â’r Gymuned ynghylch y cynllun arfaethedig ar gyfer datblygiad Gronant, yn enwedig hygyrchedd y ffordd. Roedd y pryderon hynny’n cael eu hystyried gan swyddogion cyn iddynt gael eu hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio. Dywedodd hefyd mai ymrwymiad y Cyngor oedd darparu tai fforddiadwy ar draws Sir y Fflint.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Shotton sylwadau ar yr adeiladau diweddar a gwblhawyd yng Nghoed-llai ac ymrwymiad y Cyngor i ddarparu tai cymdeithasol ar draws y Sir. Darparodd Coed-llai esiampl dda o alluogi pobl leol i aros mewn cymuned wledig. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo datblygiad 92 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy newydd yn Llys Dewi, Pen-y-ffordd, Nant y Gro, Gronant a hen Ganolfan y Cyngor, Dobshill;

 

(b)       Cymeradwyo’r defnydd o fenthyca darbodus i werth o £9.823m (yn amodol ar gymeradwyaeth a gwirio terfynol) i ariannu datblygiad arfaethedig y cartrefi Cyngor newydd;

 

(c)        Cymeradwyo’r defnydd o’r Grant Cartrefi Fforddiadwy o £1.903m a’r cronfeydd ecwiti ar y cyd, derbynebau perchnogaeth ar y cyd a symiau gohiriedig o gyfanswm o £1.722m i gyfrannu at gostau’r cynllun; a

 

(a)          Nodi’r cynigion gan Gartrefi NEW i ddatblygu 17 eiddo fforddiadwy ar draws y tri safle (yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd Cartrefi NEW).

 

Awdur yr adroddiad: Melville Evans

Dyddiad cyhoeddi: 14/05/2018

Dyddiad y penderfyniad: 20/03/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/03/2018 - Cabinet

Yn effeithiol o: 29/03/2018

Accompanying Documents: