Manylion y penderfyniad

Application for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd), wedi ei thrwyddedu gan yr Awdurdod. 

 

 Eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol ac roedd yr ymgeisydd wedi datgelu sawl euogfarn flaenorol a nodwyd ar hen ddogfen datgeliad.   Pan dderbyniwyd Datgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yr ymgeisydd, dangoswyd yr holl euogfarnau a throseddau.  Atodwyd eglurhad ysgrifenedig o’r holl euogfarnau i’r adroddiad.  Yn sgil natur yr euogfarnau, gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd. 

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i roi eglurhad llawn o’i euogfarnau blaenorol a fanylwyd ar ddatgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.  

 

Cyfeiriodd yr ymgeisydd at yr eglurhad ysgrifenedig a atodwyd i’r adroddiad i ymdrin â’i euogfarnau, a rhoddodd ragor o wybodaeth gefndirol ac eglurhad ar gyfer pob un o'r troseddau a gyflawnodd yn ystod ei ieuenctid.   Ymatebodd i'r cwestiynau a godwyd o ran ei amgylchiadau personol a theuluol a darparodd fanylion am ei gefndir cyflogaeth a’i rôl bresennol yn gweithio ar gyfer sefydliad elusennol.  

 

Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd yn fanwl am ei euogfarnau.   Nododd yr ymgeisydd ei fod yn llwyr ddifaru ei holl droseddau ac eglurodd eu bod oll wedi digwydd yn ystod cyfnod o broblemau personol gyda chamddefnyddio sylweddau.   Ailadroddodd yr amgylchiadau a arweiniodd atynt a phwysleisiodd nad oedd wedi cyflawni unrhyw droseddau ers sawl blwyddyn.   Eglurodd yr ymgeisydd ei fod wedi newid ac wedi defnyddio profiad ei orffennol i gynorthwyo pobl sydd mewn amgylchiadau anodd tebyg i newid eu bywydau er gwell.    

 

Pan ofynnwyd iddo, ymatebodd yr ymgeisydd ei fod yn ystyried eu hun yn unigolyn cymwys a phriodol i dderbyn trwydded ac fe gyfeiriodd at ei fywyd teuluol sefydlog, cofnod cyflogaeth da a dyheadau gyrfaol ar gyfer y dyfodol.  

 

                        Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn penderfynu ar y cais.              

 

3.1       Penderfyniad ar y Cais   

 

                        Wrth wneud penderfyniad am y cais, rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i ganllawiau’r Cyngor ar ymdrin ag euogfarnau a atodwyd i’r adroddiad.    Rhoddodd y Panel ystyriaeth i amgylchiadau pob achos a'r amser a oedd wedi mynd heibio ers ei euogfarn diweddaraf a theimlwyd fod yr ymgeisydd wedi rhoi cyfrif llawn a chredadwy o’i weithredoedd.   Cytunodd y Panel bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd). 

 

                        Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl a chafodd y cyfarfod ei ailymgynnull.

 

 

 

 

3.2       Penderfyniad

           

                        Dywedodd y Cadeirydd wrth yr ymgeisydd fod yr Is-bwyllgor wedi penderfynu ei fod wedi rhoi cyfrif llawn a chredadwy o’i weithredoedd a'i euogfarnau blaenorol a’u bod wedi cytuno i gymeradwyo’r cais. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd) dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 ac y dylid cymeradwyo’r Drwydded.   

 

(Dechreuodd y gwrandawiad am 10.00am a daeth i ben am 10.45am)

 

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 31/08/2018

Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/02/2018 - Is-bwyllgor Trwyddedu

  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  •