Manylion y penderfyniad

Council Fund Budget 2018/19 – Third and Closing Stage

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review the options for the stage three of the budget setting process, and then to set a balanced budget for 2018/19.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i ddarparu argymhellion y Cabinet ar gyfer Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2018/19 - Cam Tri a'r Cam Olaf, ac roedd copïau wedi eu cylchredeg.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad ar y cyd oedd yn cynnwys y meysydd canlynol.  Cyfrannodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) hefyd:

 

·         Adolygu’r broses gyllido ar gyfer y dyfodol: Pwyllgor y Cyfansoddiad

·         Gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys

·         Sefyllfaoedd cenedlaethol ar Lywodraeth Leol

·         Sefyllfa genedlaethol Llywodraeth Leol

·         Drwy arloesi - arbedion effeithlonrwydd o £79 miliwn dros 10 mlynedd

·         Pethau mawr rydym wedi eu cyflawni

·         Gwytnwch y Cyngor

·         Sefyllfa leol

·         Cam Un y Gyllideb – cynlluniau busnes portffolio

·         Cam Dau'r Gyllideb - cynigion eilradd / corfforaethol

·         Cam Tri'r Gyllideb - cau a mantoli’r gyllideb

·         Safbwyntiau proffesiynol

·         Rhagolwg y dyfodol

·         Y Camau Nesaf

 

Byddai’r mewnbwn gwerthfawr gan yr holl Aelodau drwy gydol y broses gyllido yn parhau fel rhan o ymgynghoriad ar adolygiad o’r broses gyllido yn y dyfodol.  Roedd y broses gyllido fesul cam wedi galluogi cynllunio a gweithredu cynigion yn gynnar.  Roedd cymryd lefel uwch o risg yn cael ei gydnabod yn nodweddiadol o’r broses o osod cyllideb mewn cyfnod o gyfyngiad ariannol sylweddol.  Fel mater heb ei ddatrys, byddai angen i opsiynau ar gyfer cynyddu costau meysydd parcio y mae angen i’r Cabinet eu hystyried gwrdd targed incwm ychwanegol o £0.450 miliwn os bydd y gyllideb yn cael ei chymeradwyo fel y mae ar hyn o bryd.  Ar yr achosion a wnaed gan y Cyngor ar lefel genedlaethol, roedd trafodaethau  yn parhau â Llywodraeth Cymru ar y ceisiadau am hyblygrwydd lleol ar gostau gofal cartref a chadw cyfran o Ardoll Treth Prentis.

 

Roedd adolygiad y cronfeydd wrth gefn wedi bod yn drylwyr oherwydd y sefyllfa ariannol a diddordeb y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.  Roedd canlyniad yr adolygiad, oedd wedi ei gylchredeg, yn manylu ar bob cronfa wrth gefn ac yn nodi bod bron i £2 miliwn o arian wrth gefn, y gellid ei ryddhau er mwyn cynorthwyo i fantoli cyllideb 2018/19.  Atgoffwyd y pwyllgor mai dim ond unwaith y gellid defnyddio’r cronfeydd wrth gefn a, phe byddent yn cael eu defnyddio ar gyfer cyllideb 2018/19, y byddai pwysau ariannol o’r un swm i’w gwrdd o 2019/20.

 

Wrth gynnig yr argymhellion, diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i’r Prif Weithredwr, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a phawb oedd wedi gweithio ar y gyllideb yng nghyd-destun grant llai gan y llywodraeth a mwy o alw a chostau eraill gwasanaethau.  Tra byddai modd cau’r blwch cyllideb yn llwyr drwy gynyddu Treth y Cyngor o 8%, yr argymhelliad gan y Cabinet oedd defnyddio £1.927 miliwn o gronfeydd a balansau wrth gefn gyda chynnydd o 5% mewn Treth y Cyngor er mwyn mantoli’r gyllideb yn y lle cyntaf.   Wrth gydnabod pryderon a godwyd ymysg y gymuned ysgolion, y cyhoedd ac Aelodau, argymhellodd y Cabinet gynnydd pellach yn Nhreth y Cyngor o 1.71% (gan fynd a'r cynnydd i 6.71%) i ddarparu £1.140 miliwn pellach ar gyfer cyllidebau dirprwyedig ysgolion.  Canmolodd y Cynghorydd Shotton y buddsoddiad ychwanegol i liniaru pwysau ariannol yn y maes gofal cymdeithasol, ac ymrwymiad a chefnogaeth y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu drwy gydol y broses.  Roedd cydnabyddiaeth eang bod opsiynau gwasanaeth wedi eu harchwilio’n llwyr wedi arwain at her o ran cadw cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd oedd heb eu defnyddio.  Roedd adroddiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru wedi cydnabod bod Sir y Fflint yn Gyngor oedd yn cael ei lywodraethu’n dda yn ariannol.  Roedd y drafodaeth gyhoeddus gynyddol yn helpu i godi ymwybyddiaeth o effaith caledi parhaol a maint yr heriau yn y dyfodol.

 

Cafodd cynnig y Cynghorydd Shotton ei eilio gan y Cynghorydd Attridge a holodd am bleidlais wedi ei chofnodi, ac roedd y nifer angenrheidiol o Aelodau yn gefnogol i hyn.

 

Siaradodd y Cynghorydd Sharps am gyfrifoldeb Aelodau etholedig i osod cyllideb gytbwys gan gadw at y cyngor proffesiynol a roddir gan Aelodau.  Cododd bryderon am y penderfyniadau anodd fydd angen eu gwneud yn y dyfodol.

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid, siaradodd y Cynghorydd David Healey o blaid rhoi cymorth ychwanegol i gyllideb ysgolion ac am y gwaith a wnaed i gyflawni arbedion effeithlonrwydd a gwarchod gwasanaethau rheng flaen.

 

Wrth ganmol ymdrechion pawb fu'n rhan o'r broses, cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at y gwahaniaeth sydd mewn cyllid a roddwyd i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol o’i gymharu ag awdurdodau lleol, lle'r oedd mwy yn cael ei wneud i gyflawni arbedion effeithlonrwydd.  Dywedodd y dylai cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd gael eu tynnu yn ôl i gyfrif refeniw Cronfa'r Cyngor os na fyddant yn cael eu gwario o fewn yr amserlen a nodwyd ac na fyddai’r cymorth ychwanegol i ysgolion yn bosib heb ryddhau cronfeydd wrth gefn - her a arweiniwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.  Mewn cydnabyddiaeth o’r risg o bwysau tâl chwyddiannol ar ysgolion, dywedodd ei bod yn briodol defnyddio cyfuniad o £0.900 miliwn o gyllid Buddsoddi i Arbed gan y Cyngor ac £1 miliwn o gronfeydd wrth gefn at raid.  Felly cynigodd y diwygiad canlynol a eiliwyd gan y Cynghorydd Peers:

 

 (a)    Yn dilyn adolygiad beirniadol, mae £1.927 miliwn o gronfeydd wrth gefn a balansau i'w rhyddhau a’i glustnodi i gyllidebau ysgolion / addysg;

 

 (b)    Gosod cynnydd o 6.71% yn Nhreth y Cyngor er mwyn mantoli’r gyllideb ar y cyd â chronfeydd wrth gefn a balans; a

 

 (c)    Wedi’r un adolygiad, bod £0.787 miliwn  o gronfeydd wrth gefn a balansau yn cael eu rhyddhau i gyfrannu at y broses o fantoli’r gyllideb.

 

Yn dilyn cynnig cau a gynigiwyd gan y Cynghorydd Attridge, cytunodd y Cadeirydd i seibiant byr er mwyn caniatáu swyddogion i ystyried y canlyniadau.

 

Unwaith y cafodd y cyfarfod ei ail gychwyn, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, yn ei rôl fel swyddog Adran 151, bod y diwygiad a gynigiwyd yn ormod o risg.  Roedd hyn yn seiliedig ar yr angen i gynnal lefel ddarbodus o arian at raid wrth gefn er  mwyn gwarchod y Cyngor yn erbyn pwysau ariannol amrywiol sylweddol yn ystod y flwyddyn, fel y cynnydd posib mewn dyfarniad cyflog; lefel goddefiant rheoli'r gyllideb flynyddol;  y posibilrwydd o ddiffyg arbedion effeithlonrwydd; Buddsoddi i Arbed ar arbedion effeithlonrwydd yn y dyfodol; a phwysau ariannol na ragwelwyd yn arbennig ar gyfer lleoliadau y tu allan i’r sir.  Roedd y pwysau ariannol hwn wedi bod yn rhan o’r cyflwyniad a wnaed yn gynharach yn y cyfarfod.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr bod Llywodraeth Cymru wedi nodi bod rhyddhawyr refeniw blynyddol ychwanegol er mwyn mynd i’r afael â phwysau ariannol gan gynnwys mewn gofal cymdeithasol.  Awgrymodd pe byddai Aelodau o blaid cefnogi argymhellion y Cabinet, byddai'r Cyngor yn cysylltu â Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio cael diweddariad ar gyfer y cyfarfod nesaf ar ryddhau unrhyw gyllid pellach.  Pe gellid tynnu unrhyw gyllid ychwanegol o’r fath i lawr fel cymhorthdal ar gyfer costau gwasanaeth oedd eisoes wedi eu cwrdd yn y flwyddyn ariannol, yn hytrach nac ar gyfer ychwaneged mewn gwariant gwasanaeth, yna byddai sefyllfa’r Cyngor o ran cronfeydd wrth gefn a balansau yn gwella a byddai peth hyblygrwydd i fynd ymhellach gyda chynnydd mewn cyllid ar gyfer ysgolion yn 2019/20.

 

Wrth dderbyn yr eglurhad hwn, mynegodd y Cynghorwyr Jones a Peers eu parodrwydd i dynnu’r diwygiad yn ôl ar y sail y byddai unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei glustnodi ar gyfer ysgolion.  Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai unrhyw daliad unigol fyddai’n dod gan Lywodraeth Cymru ac a fyddai’n gwella sefyllfa alldro’r Cyngor ar gyfer 2018/19 yn caniatáu rhyddhau arian pellach o gronfeydd wrth gefn er mwyn atchwanegu'r fformiwla cyllido ar gyfer ysgolion. 

 

Fel Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, dywedodd y Cynghorydd Christine Jones pa mor falch oedd hi o’r gwasanaethau a’r timoedd yn ei phortffolio.  Roedd yn croesawu’r cynnydd mewn buddsoddiad mewn meysydd allweddol o’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac amlygodd y cymorth ariannol sylweddol mewn sawl maes gan gynnwys adnoddau gofal ychwanegol, Gwasanaethau Plant ac o ran bodloni dyletswyddau cyfreithiol newydd. 

 

Yn ystod y drafodaeth, croesawodd nifer o’r Aelodau’r cynnydd a wnaed i gyrraedd y cam hwn, ond roeddynt yn cydnabod her y gwaith sydd o’n blaenau ar gyllideb 2019/20.

 

Fel rhan o’r broses gyllido ar gyfer 2019/20, galwodd y Cynghorydd Peers am fwy o graffu ar feysydd fel rheoli swyddi gwag, costau ffonau symudol a chostau benthyca.  Roedd y Cynghorydd Heesom yn teimlo y dylid canolbwyntio mwy ar wariant o fewn portffolios.

 

Wrth groesawu’r buddsoddiad yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, dywedodd y Cynghorydd Ellis y dylai’r Cyngor gynyddu ei achos i Lywodraeth Cymru am fwy o gyllid.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oedd defnyddio arian cronfeydd wrth gefn i gefnogi’r gyllideb hon yn ddatrysiad y gellid ei ddefnyddio dro ar ôl tro.  Byddai angen cadw cronfeydd wrth gefn ar lefel darbodus ar gyfer y dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr yr argymhelliad ychwanegol i adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf ar gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.  Fel y nodwyd yn yr eitem flaenorol, byddai'r £18,000 ychwanegol i ddarparu’r cynnydd mewn rhyddhad ardrethi ychwanegol dewisol yn cael ei adlewyrchu gan addasiad i’r cronfeydd wrth gefn.

 

Wrth fynd i bleidlais, cytunwyd yn unfrydol ar yr argymhellion gan y Cabinet, yn ogystal â'r argymhellion ychwanegol a amlinellir uchod, fel a ganlyn:

 

O blaid y Cynnig:

Y Cynghorwyr: Brian Lloyd, Paul Cunningham, Mike Allport, Bernie Attridge, Janet Axworthy, Glyn Banks, Haydn Bateman, Marion Bateman, Sean Bibby, Chris Bithell, Sian Braun, Helen Brown, Derek Butler, Clive Carver, Geoff Collett, Bob Connah, David Cox, Jean Davies, Rob Davies, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Ian Dunbar, Andy Dunbobbin, Mared Eastwood, Carol Ellis, David Evans, Veronica Gay, David Healey, Gladys Healey, Patrick Heesom, Cindy Hinds, Andrew Holgate, Dave Hughes, Kevin Hughes, Ray Hughes, Dennis Hutchinson, Joe Johnson, Paul Johnson, Rita Johnson, Christine Jones, Richard Jones, Tudor Jones, Richard Lloyd, Mike Lowe, Dave Mackie, Hilary McGuill, Billy Mullin, Ted Palmer, Mike Peers, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Neville Phillips, Ian Roberts, Tony Sharps, Aaron Shotton, Paul Shotton, Ralph Small, Ian Smith, Carolyn Thomas, Owen Thomas, Martin White, Andy Williams, David Wisinger ac Arnold Woolley

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Wedi adolygiad, bod £1.927 miliwn o gronfeydd wrth gefn a balansau yn cael eu rhyddhau i gyfrannu at y broses o fantoli’r gyllideb;

 

 (b)      Gosod cynnydd o 5% yn Nhreth y Cyngor er mwyn mantoli’r gyllideb ar y cyd â chronfeydd wrth gefn a balansau yn (a) uchod;

 

(c)        Gosod cynnydd pellach o 1.71% yn Nhreth y Cyngor er mwyn darparu ychwaneged o £1.140 miliwn yn benodol ar gyfer cyllidebau ysgolion;

 

 (d)      Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf gyda diweddariad ar unrhyw gyllid ychwanegol unigol i’w dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn hwyr yn y flwyddyn ariannol hon, gyda chyngor ar sut gellid defnyddio sefyllfa alldro gwell yn 2018/19 i gynyddu cyllid ysgolion 2019/20 ymhellach eto; a

 

 (e)      Nodi fod y pwysau o £18,000 ar gyfer darparu rhyddhad ychwanegol dewisol, fel y cytunwyd gan y Cabinet, i’w adeiladu i’r gyllideb ar gyfer 2018/19.

Awdur yr adroddiad: Neal Cockerton

Dyddiad cyhoeddi: 10/05/2018

Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/02/2018 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: