Manylion y penderfyniad

Training for Town and Community Councillors

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad ar bresenoldeb Cynghorwyr Tref a Chymuned mewn digwyddiadau hyfforddi yn ymwneud ag ymddygiad a llywodraethu da yn dilyn etholiadau 2017.

 

Daw’r adroddiad i’r casgliad bod 59 o’r 63 cyfranogwr yn y pedair sesiwn hyfforddiant yn Gynghorwyr Tref neu Gymuned. Mae hyn yn oddeutu 13% o nifer y Cynghorwyr Tref/Cymuned yn Sir y Fflint.

 

Soniodd Mrs Julia Hughes am yr angen i gyhoeddi argaeledd y sleidiau. Cytunodd y Swyddog Monitro i drefnu eitem ar raglen y Fforwm Sirol nesaf er mwyn tynnu sylw Cynghorau Tref a Chymuned at hyn.

 

Pwysleisiodd Mr Rob Dewey bwysigrwydd sicrhau bod pob Cynghorydd Tref a Chymuned yn cwblhau’r hyfforddiant hwn, yn enwedig aelodau newydd. Dywedodd y Swyddog Monitro nad yw’r hyfforddiant yn orfodol ac nad oedd pwerau i osod sancsiynau am fethu ei gwblhau. Gan mai cyfrifoldeb y clerc yw cynghori aelodau ynghylch eu cyfrifoldebau dan y Cod Ymddygiad, fe all sesiwn rhannu gwybodaeth i glercod helpu i bwysleisio hyn. Oherwydd diffyg cofnodion manwl am hyfforddiant, awgrymodd y Swyddog Monitro y dylid gofyn i glercod gynnal arolwg o’u haelodau a darparu manylion hyfforddiant sydd wedi ei gwblhau, gan gynnwys hyfforddiant y maent hwy wedi ei gwblhau.

 

Cynigiwyd hyn gan Mrs Hughes a ddywedodd y dylai’r cyfathrebu fod yn gadarnhaol a chefnogol o ran codi ymwybyddiaeth o ofynion y Cod Ymddygiad. Awgrymodd y dylid cadw cofnodion hyfforddiant ar gyfer clercod a Chynghorwyr Tref a Chymuned. Dywedodd y Swyddog Monitro bod cofnodion presenoldeb ar gael ond nad oeddynt yn nodi nifer y clercod.

 

Dywedodd y Cynghorydd Heesom bod angen trafod hyn ymhellach mewn cyfarfod arall.

 

Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro i gylchredeg dolen i’r dogfennau cefndir a restrir yn adran 6.01 yr adroddiad.

 

Crynhodd y Cadeirydd y prif bwyntiau a godwyd, a chytunwyd arnynt gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Rhoi'r sleidiau a gynhyrchwyd ar gyfer yr hyfforddiant a ddarpwryd i Gynghrowyr Tref a Chymuned, a dolen i fideo Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am ei rôl o ran ymddygiad cynghorwyr, ar wefan y Cyngor er mwyn i Gynghorwyr Tref a Chymuned eu gweld;

 

(b)       Cylchredeg yr holiadur archwiliad sgiliau i glercod Cynghorau Tref a Chymuned i weld pa glercod a chynghorwyr sydd wedi derbyn yr hyfforddiant; ac

 

(c)       Ystyried y camau nesaf yn ystod cyfarfod arall o’r Pwyllgor.

Awdur yr adroddiad: Tracey Cunnew

Dyddiad cyhoeddi: 28/03/2018

Dyddiad y penderfyniad: 05/02/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/02/2018 - Pwyllgor Safonau

Accompanying Documents: