Manylion y penderfyniad

Council Fund Capital Programme 2018/19 – 2020/21

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To approve schemes for inclusion within the Capital Programme over the 3 year period 2018/19 – 2020/21

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Raglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor ar gyfer 2018/19 – 2020/21 i’w chymeradwyo.  Roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi cefnogi’r cynigion ac wedi rhoi adborth i’r Cabinet oedd wedi argymell y cynigion heb eu haddasu.  Cylchredwyd copïau o ddatrysiad y Cabinet. 

 

Gan gydnabod y gwaith a wnaed ar draws y sefydliad, amlygodd y Cynghorydd Shotton nifer o feysydd allweddol o fuddsoddiad fel gwelliannau ysgolion, adnoddau hamdden a disodli canolfan ofal dydd Glanrafon.  Diolchodd i’r Cynghorydd Carolyn Thomas (Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad) a'r Cynghorydd Andrew Morgan (Arweinydd Rhondda Cynon Taf), llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Gludiant, am ymwneud â’u trafodaethau i sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer gwelliannau priffyrdd ar draws Cymru.

 

Siaradodd y Cynghorydd Carolyn Thomas o blaid nifer o ddyraniadau yn y rhaglen i gefnogi ysgolion a meysydd chwarae, a chyfeiriodd at y meini prawf a ddefnyddir mewn gwahanol ffrydiau ariannu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones yn ei sylwadau at y Pwyllgor Adnoddau Corfforaethol a Chraffu ar ddeall goblygiadau ariannol y rhaglen ar y cyfrif refeniw yn y dyfodol.  Atgoffodd y Prif Weithredwr y cyfarfod o’i ymrwymiad i adrodd am ymateb yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn ac i adeiladu hyn i mewn i adrodd yn y dyfodol.

 

Fel Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, croesawodd y Cynghorydd Christine Jones y buddsoddiad mewn cartrefi gofal ac yn benodol, y broses o ehangu Marleyfield House.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Peers ar ailddatblygu Theatr Clwyd, rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad lle roedd ymrwymiad yn cael ei geisio gan Lywodraeth Cymru i fabwysiadu hwn fel prosiect strategol o bwysigrwydd cenedlaethol, fel roedd wedi ei wneud gyda lleoliadau celfyddydol mewn llefydd eraill.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Brown a oedd yn ddarbodus i'w Cyngor ymrwymo cyllid i gefnogi'r theatr yn ystod y cyfnod hwn o galedi ariannol.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd yn ymarferol i’r Cyngor ei hun ariannu holl waith ail adeiladu'r theatr oedd yn cael ei gwerthfawrogi a'i chefnogi.

 

Ar ôl eu rhoi i bleidlais cymeradwywyd argymhellion y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y dyraniadau a chynlluniau yn Nhabl 4 o adroddiad y Cabinet ar gyfer rhannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau Wrth Gefn Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2018/19 - 2020/21 yn cael eu cymeradwyo;

 

 (b)      Bod y cynlluniau yn Nhabl 5 adroddiad y Cabinet ar gyfer adran Buddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2018/19 - 2020/21 yn cael eu cymeradwyo;

 

 (c)       Bod y diffyg cyllid ar gyfer cynlluniau ym mlynyddoedd ariannol 2019/20 a 2020/21 fel y nodir yn adroddiad y Cabinet yn cael ei nodi   Bydd opsiynau gan gynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os oes rhai ar gael), benthyca darbodus neu ail edrych ar gamau cynlluniau yn cael eu hystyried yn ystod 2018/19, a darperir diweddariadau i Aelodau mewn adroddiadau rhaglen gyfalaf yn y dyfodol;

 

 (d)      Bod datblygiad pellach ac adnewyddiad y Cynllun Rheoli Asedau a’r Strategaeth Gyfalafol hirdymor yn cael ei nodi;

 

 (e)      Y dylid nodi bod y Cabinet yn croesawu cais y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol am adroddiad ar effeithiau refeniw canlyniadol gwariant cyfalaf; ac

 

 (f)       Y dylid nodi bod Cabinet yn cytuno i holi Llywodraeth Cymru am gymorth gydag unrhyw gostau sy’n deillio o:

 

 (i)   Waith Atgyweirio Pont Sir y Fflint;

 (ii)  Rhannu cyfrifoldeb yn gynnar o flaen am unrhyw newidiadau sy’n deillio o’r “Llwybr Coch”; a

 (iii)Traul a defnydd ar ffyrdd Sir y Fflint o ganlyniad i draffig wedi ei wyro oherwydd y gwaith ar yr A55.

Awdur yr adroddiad: Liz Thomas

Dyddiad cyhoeddi: 10/05/2018

Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/02/2018 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: